Archebu stoc fferyllol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cwmpasu archebu stoc fferyllol sy'n angenrheidiol i ddarparu gwasanaeth fferyllfa.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
2. nodi gofynion yn gywir o ran stoc fferyllol
3. cadarnhau bod yr archeb yn gywir o ran y canlynol:
3.1 yr eitem
3.2 y ffurflen
3.3 y cryfder
3.4 y swm sy'n ofynnol
4. caniatáu ar gyfer amrywiadau tymhorol yn y defnydd o stoc wrth gyflwyno'r archeb
5. gwirio'r archeb gyda pherson priodol, pan fo angen
6. prosesu'r archeb gyda'r cyflenwr/lleoliad cywir gan ddefnyddio'r dogfennau/dull gofynnol, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
7. os nad oes stoc ar gael o'r cyflenwr/lleoliad, cymryd camau priodol i sicrhau nad yw hynny'n effeithio ar ofal unigolion
8. sicrhau y rhoddir sylw arbennig i unrhyw archebion arbennig a chynnydd unrhyw archebion sydd heb eu cyflawni
9. gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
10. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
- pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
- pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
- y gwahanol brosesau a deddfwriaeth caffael sy'n berthnasol wrth archebu stoc fferyllol
- eich cyfrifoldebau a'r canllawiau cyfredol sy'n berthnasol wrth archebu stoc fferyllol
- y gwahaniaeth rhwng moddion patent a moddion cyffredinol
- y gwahanol ffurfiau ar foddion a pham mae'n bwysig archebu niferoedd priodol o'r ffurf a'r cryfder cywir
- sut mae cyflwyno archeb gyda'r cyflenwr priodol
- pwysigrwydd sicrhau bod stoc ar gael ar sail anghenion unigolion
- effaith bosibl argaeledd stoc ar ofal unigolion
- pwysigrwydd rhoi sylw i amrywiadau tymhorol wrth archebu stoc fferyllol
- y camau i'w cymryd os na fydd stoc ar gael
- mewnbynnu ac adalw data stoc er mwyn sicrhau bod y lefelau'n briodol i reoli'r stoc
- pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: G3 Caffael a
Chomisiynu