Cadarnhau dilysrwydd presgripsiwn

URN: SFHPHARM08
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cwmpasu dilysu technegol presgripsiynau a dderbyniwyd ar gyfer unigolion. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y presgripsiwn wedi'i ysgrifennu'n gywir, yn gyfreithlon, ac yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1.    lle bo hynny'n briodol, cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
2.    gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
3.    gwirio dilysrwydd y presgripsiwn er mwyn cadarnhau:
3.1    bod y manylion ar y presgripsiwn yn glir ac yn gywir
3.2    bod y dyddiad ar y presgripsiwn yn gyfredol
3.3    bod yr unigolyn wedi cwblhau'r datganiad ar y presgripsiwn os yw hynny'n berthnasol
3.4    bod y presgripsiwn yn bodloni'r gofynion cyfreithiol
3.5    bod y presgripsiwn wedi'i ysgrifennu'n gywir o ran bodloni'r canllawiau cenedlaethol a'r gofynion lleol o ran ffurf
3.6    bod modd rhagnodi'r eitem
4.    cymryd camau priodol os byddwch chi'n amau bod presgripsiwn wedi'i ffugio neu'n annilys
5.    cyfeirio'r presgripsiynau at y person priodol os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw agwedd neu os na fodlonir unrhyw elfen o ran dilysrwydd technegol
6.    gwneud pob atgyfeiriad mewn modd proffesiynol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol ynghylch dilysrwydd y presgripsiwn
7.    cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
  9. y gofynion moesegol a chyfreithiol cyfredol sy'n llywodraethu'r broses ddilysu
  10. y gwahanol fathau o ragnodwyr
  11. y rheoliadau a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o bresgripsiynau a moddion
  12. y gwahanol ffynonellau cyfeirio sydd ar gael, gan gynnwys pryd a sut mae eu defnyddio
  13. y gwahanol fathau o bresgripsiynau a phryd maen nhw'n cael eu defnyddio
  14. y manylion sy'n ofynnol ar bresgripsiwn a pham mae eu hangen
  15. yr ystod o gynnyrch meddyginiaethol y gellir eu gweinyddu ar bob math o ffurflen a'r rhesymau ar gyfer cyfyngiadau
  16. y confensiynau, y byrfoddau a'r derminoleg feddygol wrth ragnodi
  17. enwau masnachol a chyffredinol y moddion sydd o fewn cwmpas eich ymarfer
  18. ffurflenni dognau, eu nodweddion a'u defnydd
  19. sut mae moddion yn cael eu gweinyddu, eu defnydd a'u heffaith ar ffisioleg sylfaenol pobl
  20. gwahanol gryfderau, ffurfiau, dognau a symiau moddion, a pham maent yn cael eu defnyddio
  21. gweithredoedd a defnydd cyffuriau, gan gynnwys rhyngweithiad cyffuriau â'i gilydd a'r gwrth-ddangosyddion
  22. sut mae adnabod presgripsiynau sydd wedi'u ffugio
  23. y camau cywir i'w cymryd os gwelwch fod presgripsiwn wedi'i ffugio
  24. sut mae defnyddio cofnodion meddyginiaeth cleifion neu ffynonellau gwybodaeth eraill
  25. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 1
Cyfathrebu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM08

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dilysrwydd; presgripsiwn; fferylliaeth; rhagnodedig; moddion; technegol dilysu