Derbyn presgripsiynau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn presgripsiynau. Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. lle bo hynny'n briodol, cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
2. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
3. cynnal cyfrinachedd ar hyd y broses o dderbyn y presgripsiwn
4. gwirio'r presgripsiwn er mwyn cadarnhau:
4.1 bod y manylion ar y presgripsiwn yn glir, yn gywir ac yn gyflawn
4.2 bod y presgripsiwn yn bodloni'r gofynion cyfreithiol
4.3 bod yr unigolyn wedi cwblhau'r datganiad ar y presgripsiwn os yw hynny'n ofynnol
4.4 tystiolaeth o esemptiad lle bo hynny'n briodol
5. lle bo hynny'n briodol, darparu gwybodaeth berthnasol ynghylch:
5.1 taliadau presgripsiwn
5.2 esemptiadau
5.3 amserau aros a chasglu
5.4 gwasanaethau darparu amgen posibl
5.5 argaeledd y moddion/cynnyrch
5.6 derbynneb ar gyfer casglu'r presgripsiwn
6. cyflawni'r holl weithdrefnau trafodion perthnasol yn brydlon ac yn gywir
7. anfon y presgripsiwn ymlaen i'r cam nesaf yn y broses weinyddu, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
8. gweithredu oddi mewn i derfynau eich awdurdod a chyfeirio unrhyw broblemau at berson priodol
9. cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol fel sy'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol ynghylch derbyn ac adalw presgripsiynau a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
- pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
- deddfwriaeth gyfredol ynghylch taliadau presgripsiwn ac esemptiadau a'r gwahaniaethau ymarfer ar draws y Deyrnas Unedig
- gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
- y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
- pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
- y rheoliadau a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â gwahanol fathau o bresgripsiynau a moddion
- dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
- y gwahanol fathau o ragnodwyr
- y gwahanol fathau o bresgripsiynau a phryd maen nhw'n cael eu defnyddio
- y gwahanol ffyrdd o dderbyn presgripsiynau
- y manylion sy'n ofynnol ar bresgripsiwn a pham mae eu hangen
- esemptiadau a sut gall unigolion hawlio ad-daliadau, gan gynnwys defnyddio ffurflenni swyddogol a thystysgrifau rhagdalu
- y gweithdrefnau trafodion a gweinyddu sy'n ofynnol o dan reoliadau'r llywodraeth a'r rhai sy'n berthnasol i'ch gweithle
- pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: Craidd 1
Cyfathrebu