Darparu gwasanaeth fferyllfa effeithiol ac ymatebol

URN: SFHPHARM02
Sectorau Busnes (Suites): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwrando ar anghenion unigolyn a darparu gwybodaeth a chyngor a fydd yn bodloni eu gofynion, yn ogystal â delio gydag achosion o gwynion, ymholiadau a phryderon o ddydd i ddydd.

Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.

Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
  2. addasu i'r dulliau cyfathrebu llafar a di-eiriau a gynigir gan yr unigolyn
  3. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
  4. casglu a dehongli gwybodaeth gan unigolion ynghylch anghenion neu bryderon penodol a all fod ganddynt
  5. gofyn cwestiynau priodol i unigolion i wirio'ch dealltwriaeth o'u hanghenion neu eu pryderon, yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  6. gweithio'n annibynnol a chydag eraill i nodi anawsterau gyda systemau a gweithdrefnau er mwyn helpu i leiafu'r gwrthdaro posibl
  7. nodi'r opsiynau sydd ar gael i ddatrys unrhyw faterion neu bryderon ynghylch y gwasanaeth
  8. dewis yr opsiwn gorau ar gyfer yr unigolyn a'ch sefydliad
  9. darparu gwybodaeth yn glir ac mewn modd y gall yr unigolyn ei ddeall, oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd
  10. awgrymu ffyrdd eraill o ddiwallu anghenion yr unigolyn, neu sut gellid ymdrin â'u pryderon, os nad ydych chi'n gallu helpu
  11. trafod a chytuno ar yr opsiwn a gynigir ar gyfer ymdrin ag anghenion neu bryderon gydag unigolion
  12. darparu gwybodaeth i unigolion yn rheolaidd ynghylch y broses sy'n diwallu eu hanghenion
  13. gwirio gyda'r unigolion i sicrhau bod eu hanghenion wedi cael eu diwallu mewn modd sy'n eu bodloni
  14. os na ellir diwallu eu hanghenion neu eu pryderon, rhoi esboniad clir i unigolion
  15. lle bo unrhyw fater gofynnol y tu allan i gylch gwaith eich rôl, ei gyfeirio ymlaen at y person priodol
  16. lle bo hynny'n briodol, cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. beth mae gwasanaeth cwsmeriaid da yn ei olygu
  9. polisi'r sefydliad ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i unigolion a sut mae hynny'n berthnasol i'ch rôl
  10. gweithdrefn y sefydliad ar gyfer ymdrin â chwynion
  11. dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
  12. sut mae defnyddio mathau priodol o dechnegau holi i gasglu'r wybodaeth berthnasol
  13. pwysigrwydd dangos empathi at yr unigolyn a sut mae gwneud hynny
  14. yr agweddau a'r goblygiadau seicolegol, galwedigaethol a chymdeithasol ar gyfer unigolion sy'n byw gyda chyflyrau
  15. sut mae cyd-drafod ag unigolion
  16. terfynau'r hyn y gallwch chi a'r gwasanaeth ei gynnig i unigolion
  17. pwysigrwydd casglu'r wybodaeth berthnasol am yr unigolyn a'u problem
  18. pwysigrwydd cyfathrebu llafar a di-eiriau wrth gyfathrebu ag unigolion
  19. sut mae rhoi gwybodaeth glir a chywir, a gwirio dealltwriaeth yr unigolyn
  20. pwysigrwydd gwirio cywirdeb yr wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu gyda'r unigolyn
  21. y cynnyrch a'r gwasanaethau perthnasol y mae angen darparu gwybodaeth a/neu gyngor yn eu cylch
  22. ble mae cael cymorth os na allwch chi ddarparu gwybodaeth a chyngor eich hun
  23. yr wybodaeth y gallwch chi a chydweithwyr eraill ei rhoi i unigolion
  24. sut mae rheoli gwrthdaro a/neu unigolion sy'n drallodus
  25. sut mae asesu cwynion a pha gamau i'w cymryd
  26. pryd dylech chi gyfeirio cwynion ymlaen, ac at bwy
  27. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 5
Ansawdd


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM02

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Fferylliaeth; gwasanaeth; datrys; materion; pryderon