Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth fferyllfa

URN: SFHPHARM01
Sectorau Busnes (Cyfresi): Fferylliaeth
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwrando ar anghenion unigolyn a darparu gwybodaeth a chyngor a fydd yn bodloni eu gofynion, yn ogystal â delio gydag achosion o gwynion, ymholiadau a phryderon o ddydd i ddydd.
Bydd eich ymarfer yn cydweddu â'ch rôl alwedigaethol ac yn cael ei gyflawni o dan y fframweithiau rheoliadol, proffesiynol a moesegol a sefydlwyd yng nghyd-destun deddfwriaeth gyfredol. Bydd angen i chi ymdrin â'ch gwaith mewn modd adfyfyriol.
Byddwch bob amser yn gweithio oddi mewn i Weithdrefnau Gweithredu Safonol sy'n ymwneud â sut mae gwasanaeth fferyllfa'n cael ei ddarparu yn eich gweithle. Dylid mabwysiadu dull gweithredu gofalgar, tosturiol, yn unol â'r canllawiau gofal iechyd cyfredol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu'r wybodaeth a'r polisïau diweddaraf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol ar gyflymdra, mewn modd, ac ar lefel sy'n briodol ar gyfer dealltwriaeth, dewisiadau ac anghenion yr unigolyn
  2. addasu i'r dulliau cyfathrebu llafar a di-eiriau a gynigir gan yr unigolyn
  3. gweithio oddi mewn i'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan gynnwys y gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol, ac oddi mewn i'ch terfynau cymhwysedd eich hun
  4. cydnabod ceisiadau am wybodaeth gan unigolion mewn modd proffesiynol
  5. canfod anghenion unigolion yn gywir trwy eu holi'n briodol
  6. gwirio a chytuno gyda'r unigolyn ynghylch eich canfyddiadau o'u hanghenion
  7. trafod y camau nesaf a'u cadarnhau gyda'r unigolyn
  8. darparu gwybodaeth yn glir ac mewn modd y gall yr unigolyn ei ddeall, oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd
  9. gwirio bod yr wybodaeth rydych wedi'i rhoi yn diwallu anghenion yr unigolyn
  10. lle mae unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol y tu allan i gylch gwaith eich rôl, cyfeirio'r unigolyn at y person priodol, fel y nodwyd yn y Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
  11. lle mae gan yr unigolyn gwestiwn, cwyn neu bryder, cymryd camau i ddatrys hynny yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a'r polisïau sefydliadol ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid
  12. lle bo hynny'n briodol, cwblhau'r holl ddogfennau perthnasol a'u storio'n briodol, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. beth yw'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a phwysigrwydd cadw atynt bob amser
  2. pwysigrwydd gweithio oddi mewn i derfynau eich cymhwysedd a'ch awdurdod, pryd mae angen ceisio cytundeb neu ganiatâd pobl eraill, a phryd mae angen cyfeirio materion ymlaen at berson priodol
  3. deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol a sut mae'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith
  4. gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl chi, i rôl pobl eraill yn eich sefydliad, a'r gweithgareddau sy'n cael eu cyflawni
  5. y canllawiau, y polisïau a'r gweithdrefnau cenedlaethol a lleol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid eu cyrchu
  6. pwysigrwydd cadw at bolisïau llywodraethu gwybodaeth a chynnal cyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth am unigolion gydag eraill
  7. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu a allai fod yn niweidiol i unigolion, i chi eich hunan, i gydweithwyr neu i'ch cyflogwr
  8. beth mae gwasanaeth cwsmeriaid da yn ei olygu
  9. polisi'r sefydliad ar y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i unigolion a sut mae hynny'n berthnasol i'ch rôl
  10. gweithdrefn y sefydliad ar gyfer ymdrin â chwynion
  11. sut mae asesu cwynion a pha gamau i'w cymryd
  12. pryd dylech chi gyfeirio cwynion ymlaen, ac at bwy
  13. dulliau o ganiatáu cyfathrebu effeithiol a chefnogi unigolion i gyfleu eu hanghenion, eu barn a'u dewisiadau
  14. pwysigrwydd canfod gofynion unigolion yn glir ac yn gywir
  15. pwysigrwydd casglu'r wybodaeth berthnasol am yr unigolyn a'u problem
  16. pwysigrwydd cyfathrebu llafar a di-eiriau wrth gyfathrebu ag unigolion
  17. sut mae rhoi gwybodaeth glir a chywir, a gwirio dealltwriaeth yr unigolyn
  18. sut mae rheoli gwrthdaro a/neu unigolion sy'n drallodus
  19. cynnyrch a gwasanaethau perthnasol neu gyngor y mae angen darparu gwybodaeth a/neu gyngor yn eu cylch
  20. ble mae cael cymorth os na allwch chi ddarparu gwybodaeth a chyngor eich hun
  21. ffynhonnell/ffynonellau gwybodaeth y gellir ei chyrchu a'r wybodaeth y gallwch chi a chydweithwyr eraill ei rhoi i unigolion
  22. pwysigrwydd cofnodi, storio ac adalw gwybodaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae'r safon hon yn cysylltu â'r dimensiwn canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):

Dimensiwn: Craidd 1
Cyfathrebu


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau er Iechyd

URN gwreiddiol

SFHPHARM01

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

darpariaeth; fferylliaeth; gwasanaeth; darparu gwybodaeth; cyfathrebu; ymholiadau; cwynion