Mesur a chofnodi allbwn hylifau’r corff unigolion

URN: SFHPCS6
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â mesur allbynnau hylifau’r corff (gwaed, wrin ac allsugnad gastrig) a draenio neu ddyfrhau clwyfau, fel y mae’r ymarferwr cofrestredig yn ei ddirprwyo. Nid yw’r safon hon yn ymwneud â systemau trallwyso awtologaidd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. mesur allbwn hylifau corff unigolion yn gywir gan ddefnyddio'r dull mesur ar amser(oedd) penodedig yn ôl y cynllun gofal, neu yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr cofrestredig
  8. cael gwared yn gywir ar gyfarpar untro gan ddilyn polisi a gweithdrefnau'r sefydliad
  9. glanhau offer amldro ar ôl ei ddefnyddio, gan ddefnyddio deunyddiau cywir, a'i ddychwelyd i'r man cytunedig i'w storio neu ei gasglu
  10. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. cymryd camau rhagofalus safonol wrth fesur allbwn hylifau'r corff a draenio clwyfau a phwyso swabiau, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. y mathau o ddeunyddiau a chyfarpar y mae eu hangen i fesur allbwn hylifau'r corff a draenio clwyfau, eu diben a'u swyddogaeth
  14. dibenion mesur allbwn hylifau corff unigolion a draenio clwyfau
  15. sut i gael mesuriadau cywir o golled hylifau gan wahaniaethu ar yr un pryd rhwng hylifau'r corff a hylifau sy'n cael eu cyflwyno yn ystod gweithdrefnau clinigol
  16. egwyddorion a dulliau cael gwared ar wastraff, yn enwedig gwastraff peryglus
  17. dulliau a thechnegau ar gyfer mesur allbwn hylif gwaed a draenio clwyfau
  18. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPCS6

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gofal, amdriniaethol, mesur, cofnodi, corff, hylif, allbwn