Cynorthwyo â chefnogi a monitro unigolion yn yr amgylchedd gofal amdriniaethol
URN: SFHPCS5
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflawni gweithgareddau gofal dirprwyedig, sydd o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd eich hun, i gynorthwyo’r ymarferwr cofrestredig â chefnogi, monitro a gofalu am unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl gweithdrefnau clinigol yn yr amgylchedd gofal amdriniaethol. Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd ymarferwr cofrestredig. Nid yw’r safon hon yn cynnwys gwneud mesuriadau o baramedrau ffisiolegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- darparu cymorth a gofal i'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- monitro anghenion a lles yr unigolyn yn effeithiol bob amser, gan dalu sylw agos i unrhyw feysydd penodol o bryder, fel yr amlygwyd yn y cynllun gofal
- annog yr unigolyn i fynegi teimladau o anghysur, poen neu drallod
- lleihau ffactorau a all achosi straen neu drallod gormodol i'r unigolyn o fewn cyfyngiadau'r lleoliad a'r weithdrefn
- trosglwyddo gwybodaeth berthnasol am anghenion a gofal yr unigolyn i aelodau eraill y tîm gofal a fydd yn ymwneud â'r unigolyn
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl mewn gwella gofal
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- pwysigrwydd cymryd camau rhagofalus safonol a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- pwysigrwydd gwirio cynlluniau gofal amdriniaethol unigol cyn dechrau gweithgareddau cefnogi a monitro
- pwysigrwydd cefnogaeth lafar a dieiriau i unigolion sy'n cael gweithdrefnau clinigol yn yr amgylchedd amdriniaethol
- y ffyrdd y gall fod yn rhaid cyfyngu ar hawliau a dewis unigol oherwydd natur yr amgylchedd amdriniaethol a'r gweithdrefnau
- yr effaith y gall credoau a dewisiadau personol unigolion ei chael ar eu hymddygiad a'u hagwedd yn gysylltiedig â lleoliadau amgylchedd amdriniaethol
- effeithiau rhagfoddion a thawelydd ar unigolion, a'r gwahaniaeth y mae ailfeddyginiaethu yn ei wneud i'r gweithgareddau cefnogaeth, gofal a monitro y mae eu hangen
- sut gall lleoliadau a gweithdrefnau amdriniaethol achosi straen a thrallod i unigolion a sut gellir lleihau ffactorau amgylcheddol sy'n achosi straen a thrallod
- arwyddion trallod unigol a sut i gynorthwyo unigolion sydd mewn trallod, neu a all fynd yn drallodus
- pwysigrwydd arsylwi unigolion yn agos, a rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn ddi-oed
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHPCS5
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, amdriniaethol, cynorthwyo, cefnogi, monitro