Cynnal gweithgareddau dirprwyedig mewn amgylchedd anesthetig/Uned Gofal Ôl-anesthetig (PACU)

URN: SFHPCS25
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gweithgareddau y mae ymarferwr cofrestredig yn eu dirprwyo i chi mewn amgylchedd anesthetig/Uned Gofal Ôl-anesthetig (PACU).

Mae hyn yn cynnwys paratoi'r amgylchedd a'r cyfarpar ar gyfer derbyn unigolion i ardal gofal anesthetig/PACU a chynnal y gweithgareddau gofal a ddirprwywyd i gynorthwyo'r ymarferwr cofrestredig â gofal cam anesthetig unigolion. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn o ran ei gydsyniad, ei breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. sicrhau, mewn ymgynghoriad â'r ymarferwr cofrestredig, bod yr holl gyfarpar ar gael a'i fod yn addas at ei ddiben
  9. rhoi gwybod i'r ymarferwr cofrestredig am gyfarpar nad yw'n addas at ei ddiben
  10. cynorthwyo â throsglwyddo'r unigolyn i amgylchedd anesthetig/Uned Gofal Ôl-anesthetig
  11. cynorthwyo'r ymarferwr cofrestredig wrth dderbyn a gofalu am yr unigolyn, gan gynorthwyo, fel y bo'r gofyn, o fewn maes eich cymhwysedd eich hun
  12. cynorthwyo'r ymarferwr cofrestredig ag asesu a rheoli'r unigolyn sy'n cael anesthesia/tawelydd/gofal ôl-driniaethol 
  13. cynorthwyo ag unrhyw ymyriadau clinigol brys, yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr cofrestredig
  14. mesur a chofnodi arsylwadau clinigol o dan oruchwyliaeth yr ymarferwr cofrestredig
  15. rhoi gwybod i'r ymarferwr cofrestredig am unrhyw wyriad o baramedrau clinigol arferol
  16. trafod a defnyddio'r holl gyfarpar yn gywir ac yn ddiogel drwy'r amser, yn gyson â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr
  17. glanhau cyfarpar amldro yn dilyn gweithdrefnau perthnasol a chael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  18. cyfrif stoc nwyddau tafladwy/hylifau/llieiniau fel mater o drefn, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  19. cynnal glendid yr amgylchedd gofal
  20. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  10. anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  11. strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
  12. cymryd camau rhagofalus safonol wrth baratoi amgylchedd yr anesthetig/Uned Gofal Ôl-anesthetig a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
  13. y rhesymau pam gall yr amgylchedd gofal anesthetig/Uned Gofal Ôl-anesthetig fod yn straen i'r unigolyn a ffyrdd o allu tawelu meddwl yr unigolyn
  14. anawsterau posibl cyfathrebu ag unigolion cyn ac ar ôl anesthesia/tawelydd a sut gellir goresgyn y rhain
  15. arwyddocâd arsylwi unigol parhaus a phwysigrwydd adrodd i'r ymarferwr cofrestredig
  16. anatomeg a ffisioleg y system gardiofasgwlaidd yn gysylltiedig â mesur y pwls a phwysedd gwaed
  17. sut gall anesthesia a llawdriniaeth effeithio ar y pwls a phwysedd gwaed
  18. anatomeg a ffisioleg y system resbiradol yn gysylltiedig â mesur gweithrediad resbiradol
  19. sut gall anesthesia a llawdriniaeth effeithio ar y system resbiradol yn ystod y cyfnod amdriniaethol a phwysigrwydd gosod mewn safle cywir
  20. anatomeg a ffisioleg y system arennol yn gysylltiedig ag allbwn wrinol
  21. sut gall anaesthesia effeithio ar y system arennol yn ystod y cyfnod amdriniaethol a sut gall hyn effeithio ar allbwn wrinol
  22. y system thermoreoliadol a sut gellir effeithio arno yn ystod y cyfnod amdriniaethol
  23. pwysigrwydd yr angen am gynhesu unigolion yn ystod y cyfnod amdriniaethol
  24. yr ysgerbwd a'r system nerfol berifferol yn gysylltiedig â gwirio cynhesrwydd, lliw, ymdeimlad a symudiad
  25. y mathau o ddeunyddiau a chyfarpar y mae eu hangen yn amgylchedd yr anesthetig/Uned Gofal Ôl-anesthetig, eu diben a'u swyddogaeth
  26. y mathau o ddeunyddiau a chyfarpar y mae eu hangen i fesur arsylwadau clinigol anfewnwthiol, eu diben a'u swyddogaeth
  27. y mathau o gyfarpar anesthetig/adfer hanfodol a ddefnyddir ar gyfer unigolion y mae angen anesthesia arnynt neu sy'n dod dros anesthesia
  28. y paramedrau a'r dulliau arferol ar gyfer mesur unigolion, gan gynnwys:

    • tymheredd
    • pwls a phwysedd gwaed
    • lefelau resbiradu ac ocsigen
    • allbwn wrinol
    • cynhesrwydd, lliw, ymdeimlad a symudiad y breichiau a'r coesau
  29. yr adweithiau niweidiol cyffredin sy'n gysylltiedig ag anesthetig a gofal adfer y gall unigolion eu cael a phwysigrwydd adnabod adweithiau niweidiol a rhoi gwybod amdanynt ar unwaith i'r ymarferwr cofrestredig

  30. asesu risg yn ardal yr anesthetig/tawelydd/gofal adfer a'r cymorth y mae ar yr ymarferwr cofrestredig/y clinigwr ei angen pan fydd unrhyw beryglon yn cael eu hamlygu neu pan fyddant yn digwydd go iawn
  31. pwysigrwydd rhoi gwybod i'r ymarferwr cofrestredig am statws cyfarpar anesthetig/adfer hanfodol
  32. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHPCS25

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gofal, amdriniaethol, dirprwyedig, gweithgareddau anesthetig, ôl