Cyflawni rôl gylchredol, heb fod mewn sgrybs, ar gyfer gweithdrefnau amdriniaethol
URN: SFHPCS24
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r rôl gylchredol, heb fod mewn sgrybs, yn cynorthwyo timau amdriniaethol yn ystod gweithdrefnau amdriniaethol.
Mae hyn yn cynnwys paratoi a gosod dyfeisiau a chyfarpar meddygol, clinigol, gan ddarparu'r eitemau hyn i'r tîm llawfeddygol a monitro'r eitemau a ddefnyddir. Byddwch yn gweithio o dan arweiniad ymarferwr cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- sicrhau nad yw eich safle na'ch symudiadau yn peryglu'r maes di-haint
- cymryd camau priodol yn ddi-oed os bydd unrhyw fethiant yn y maes di-haint
- dewis a pharatoi'r offerynnau llawdriniaethol a'r eitemau atodol cywir yn ôl yr arbenigedd clinigol, gofynion disgwyliedig y weithdrefn lawfeddygol ac anghenion yr unigolyn
- cael yr eitemau cywir, gwirio a chynnal uniondeb yr eitemau, a sicrhau bod yr eitem ddethol ar gael i'r aelod priodol o'r tîm yn y modd rhagnodedig ac yn ôl cyfarwyddyd y gweithgynhyrchwr a pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- cyfrif a chofnodi offerynnau, nodwyddau, swabiau ac eitemau atodol ar y cyd ag ymarferwr cofrestredig fel ail wiriwr awdurdodedig cyn dechrau ac ar ôl gorffen, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- trafod a chysylltu dyfeisiau a chyfarpar meddygol yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr a pholisïau'r sefydliad
- sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- trafod a rheoli eitemau wedi'u halogi yn unol â pholisïau'r sefydliad
- cydymffurfio â pholisïau'r sefydliad ar gyfer ailgyflenwi eitemau a ddefnyddiwyd o stoc a gofynion dilyn ac olrhain
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- rôl cyrff rheoleiddiol o ran cynnyrch meddygol a gofal iechyd a rheoliadau'n gysylltiedig â dyfeisiau meddygol
egwyddorion asepsis yn gysylltiedig â:
- darparu dyfeisiau meddygol i'r tîm llawfeddygol
- cynnal y maes di-haint
canlyniadau posibl ymarfer gwael o ran paratoi, darparu a monitro dyfeisiau a chyfarpar meddygol
- y gofynion a'r mathau o offerynnau llawdriniaethol ar gyfer gweithdrefnau ac arbenigeddau clinigol gwahanol, a'u haddasrwydd
- y camau i'w cymryd os nodir problemau â dyfeisiau meddygol y gofynnwyd amdanynt
cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer:
- pwyso swabiau
- cyfrif offerynnau
ffyrdd y gall pobl sy'n gweithio'r tu allan i'r maes di-haint ei beryglu, a sut gellir osgoi hyn
- yr egwyddorion a'r technegau ar gyfer cyfrif a monitro eitemau llawfeddygol a swabiau
- pwysigrwydd pwyso swabiau yn gywir wrth amcangyfrif faint o waed sydd wedi'i golli
- pwysigrwydd gwirio a chadarnhau bod cyflwr dyfeisiau meddygol yn addas cyn eu defnyddio
- egwyddorion a thechnegau symud a thrafod diogel
- y meini prawf a'r dulliau ar gyfer gwirio a chynnal sterileiddiwch dyfeisiau meddygol a ddefnyddir mewn gweithdrefnau clinigol
- y rôl gylchredol a'r cyfrifoldeb am gynnal y maes di-haint
- y llinellau cyfathrebu cytunedig o fewn timau clinigol o ran gofyn am ddyfeisiau meddygol yn ystod gweithdrefnau clinigol a'u darparu
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHPCS24
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, amdriniaethol, heb fod mewn sgrybs, cylchredol, gweithdrefnau