Cynorthwyo â throsglwyddo a gosod unigolion o fewn yr amgylchedd amdriniaethol
URN: SFHPCS23
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo â pharatoi unigolion a defnyddio cyfarpar ar gyfer trosglwyddiadau a gosod yn fanwl-gywir ar gyfer gweithdrefnau clinigol o fewn yr amgylchedd amdriniaethol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- cyfeirio at ddogfennau asesiad risg yr unigolion ar gyfer system sgorio mannau gwasgu i wirio'r safle gosod a'r cyfarpar y mae eu hangen
- sicrhau bod y cyfarpar gosod angenrheidiol ar gael, ei fod yn addas at ei ddiben a'i fod yn barod i'w ddefnyddio cyn dechrau'r weithdrefn osod
- paratoi'r amgylchedd uniongyrchol yn briodol ar gyfer y trosglwyddiad, y symudiad a'r safle gosod y mae ei angen, gan symud unrhyw beryglon posibl
- symud a thrafod yr unigolyn yn ystod trosglwyddo, symud a gosod mewn ffordd sy'n lleihau poen, anghysur a ffrithiant yr unigolyn, sy'n cynnal ei ddiogelwch ac sy'n sicrhau'r urddas pennaf
- defnyddio technegau symud a thrafod diogel ac addas, gan sicrhau eich bod yn osgoi:
- mynd heibio i derfynau eich cyrhaeddiad a'ch pwysau personol
- peryglu'r unigolyn
- peryglu aelodau staff eraill
- achosi difrod i gyfarpar neu i'r amgylchedd
- defnyddio cyfarpar gosod yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr a pholisïau'r sefydliad
- rhoi gwybod yn brydlon i'r aelod priodol o'r tîm gofal am unrhyw newid annisgwyl yng nghyflwr yr unigolyn
- cadarnhau gyda'r ymarferwr perthnasol bod yr unigolyn yn y safle gosod cywir i:
- hwyluso'r weithdrefn glinigol
- cynnal cyfanrwydd y croen
- osgoi difrod i nerfau
- defnyddio cyfarpar priodol i:
- atal anaf
- hybu cysur yr unigolyn
- atal colled gwres
- cyfrannu at yr asesiad a'r gwerthusiad o gyfanrwydd croen yr unigolyn a chofnodi hynny, fel y bo'n briodol
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- pwysigrwydd gwirio dogfennau asesu risg mannau gwasgu cyn dechrau gweithgareddau gosod
- sut gall unigolion gyfrannu at y broses drosglwyddo a gosod, neu beidio, a'r ffactorau sy'n cyfyngu ar eu cyfraniad
- dulliau a thechnegau diogel ar gyfer trosglwyddo a gosod unigolion
- pwysigrwydd cydlynu camau gweithredu yn effeithiol gyda phobl eraill sydd ynghlwm
- y croen a'r system gyhyrysgerbydol ac aliniad anatomegol yn gysylltiedig â throsglwyddo a gosod unigolion ar gyfer gweithgareddau clinigol
- y mathau o gyfarpar a ddefnyddir i symud, trafod a throsglwyddo unigolion, eu diben a'u swyddogaeth
- dulliau o wirio a pharatoi cyfarpar yn barod i'w ddefnyddio
- sut i ddefnyddio'r cyfarpar yn ddiogel
- pwysigrwydd arsylwi unigolion yn fanwl yn ystod trosglwyddiadau, symudiadau a gosod
- pwysigrwydd sicrhau bod y llwybr yn ddirwystr cyn trosglwyddo unigolion
- pwrpas a phwysigrwydd gosod yn fanwl-gywir, yn iawn ac yn sefydlog ar gyfer gweithdrefnau amdriniaethol
- effeithiau meddyginiaeth ar unigolion a'r gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'r ffordd y dylid eu trafod
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHPCS23
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, amdriniaethol, cynorthwyo, trosglwyddo, gosod