Cyfrannu at ddefnyddio dyfeisiau meddygol yn ddiogel yn yr amgylchedd amdriniaethol
URN: SFHPCS2
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio dyfeisiau meddygol yn ddiogel yn gysylltiedig â chynnal asepsis, rheoli croes-heintio, a phrosesau dihalogi a sterileiddio yn yr amgylchedd gofal amdriniaethol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- gwirio, trafod a storio pecynnau sy'n cael eu danfon o wasanaethau sterileiddio neu'r gweithgynhyrchwr yn y man cytunedig a chofnodi'r danfon yn y ddogfennaeth briodol
- defnyddio pecynnau yn ôl trefn gaeth a rhoi gwybod am brinderau cyflenwadau i'r person priodol
- gwirio cyfarpar, offer ac eitemau pecyn meddal a chadarnhau nad oes difrod iddynt
- adnabod pan na fydd pecyn di-haint yn addas i'w ddefnyddio, dychwelyd y pecyn i'r adran briodol neu i'r gweithgynhyrchwr a llenwi'r gwaith papur priodol
- gwirio hambyrddau offer cyn ac ar ôl eu defnyddio gyda pherson dynodedig, cadarnhau eu bod yn cynnwys yr eitemau penodedig a chwblhau'r gwaith papur gofynnol
- rhoi gwybod i unigolyn priodol am unrhyw gyfarpar coll
- casglu, didoli a storio eitemau wedi'u defnyddio i'w dihalogi a'u sterileiddio mewn modd priodol a diogel
- gosod cynwysyddion pecyn gwag, hambyrddau a dyfeisiau meddygol wedi'u defnyddio yn y man priodol i'w casglu
- rhoi cyfrif am eitemau tafladwy a chael gwared arnynt yn unol â pholisi a gweithdrefnau'r sefydliad
- sicrhau bod gofynion y systemau olrhain yn cael eu bodloni
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- defnyddio camau rhagofalus safonol ar gyfer rheoli heintiau a materion iechyd a diogelwch perthnasol eraill, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- prosesau dihalogi a sterileiddio
- sut i adnabod bod hambwrdd theatr neu gyfarpar a phecynnau atodol yn ddi-haint
- sut i archwilio cyfanrwydd cyfarpar, offer a phecynnau meddal, a'r mathau o ddifrod a nam y mae angen cadw llygad allan amdanynt
- ble a sut i gael gwared ar gyfarpar, offer a phecynnau meddal (rhai amldro ac untro) sydd wedi'u defnyddio, sy'n fudr ac sydd wedi'u difrodi
- y gwahanol fathau o wastraff a gollyngiadau, sut i gael gwared ar bob math ohonynt
- dulliau ar gyfer didoli a gwaredu neu storio cyfarpar wedi'i halogi a heb ei halogi cyn ei brosesu
- pwysigrwydd rhoi gwybod am eitemau sydd wedi'u difrodi neu sydd ar goll, a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hyn
- pwysigrwydd systemau olrhain ar gyfer offer theatr
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHPCS2
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, amdriniaethol, dyfeisiau