Paratoi, gosod a chlymu gorchuddion, cynalyddion clwyfau a draeniau wrth unigolion
URN: SFHPCS18
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo â pharatoi a gosod gorchuddion, cynalyddion clwyfau a draeniau yn dilyn ymyrraeth lawfeddygol.
Byddwch yn gweithio mewn rôl 'mewn sgrybs' pan fyddwch chi'n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- darparu cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- dewis a pharatoi gorchudd neu gynhalydd clwyfau priodol, yn addas i faint y clwyf a'r math o glwyf
- defnyddio gorchuddion addas nad ydynt yn alergenig pan nodwyd alergeddau unigol
- paratoi draeniau penodol yn barod i'w defnyddio
gosod neu gysylltu'r gorchudd, y cynhalydd clwyfau neu'r draen:
- gan ddefnyddio technegau priodol
- yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr
- mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o gysur ac urddas yr unigolyn ac sy'n lleihau poen a thrawma
cynnal sterileiddiwch y gorchudd di-haint neu'r cynhalydd clwyfau cyn ac yn ystod ei osod a gwirio:
- bod pwysau'r gorchudd neu'r cynhalydd clwyfau yn cyd-fynd â'r math o glwyf
- bod draeniau wedi'u cysylltu'n effeithiol ac yn briodol
- bod seliau gwactod ar ddraeniau yn gyflawn
- bod draeniau wedi'u gosod i atal seiffno amhriodol a/neu niwed unigol
cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- anghenion unigolion, gan gynnwys ystyriaethau'n gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- cymryd camau rhagofalus safonol wrth baratoi a gosod gorchuddion, cynalyddion clwyfau a draeniau, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- anatomeg yr ysgerbwd a'r system nerfol berifferol yn gysylltiedig â gosod deunyddiau cast
- anatomeg a ffisioleg y croen yn gysylltiedig â gosod gorchuddion a chynalyddion clwyfau
- egwyddorion iachâd clwyfau
cymhlethdodau posibl iachâd clwyfau
- asepsis
- gwrth-heintio
- croes-heintio
sut mae'r maes llawfeddygol yn cyfrannu at reoli haint
- ffynonellau halogiad posibl wrth baratoi meysydd llawfeddygol a mesurau priodol i'w lleihau neu i ymdrin â nhw
- y mathau o bathogenau, a'u gweithred, sy'n benodol i'r unigolyn ac i haint clwyfau
- canlyniadau posibl halogiad clwyf
- y mathau o ddyfeisiau meddygol a ddefnyddir wrth osod gorchuddion, cynalyddion clwyfau a draeniau, eu diben a'u swyddogaeth
- ffactorau sy'n effeithio ar ddewis dyfeisiau meddygol i unigolion
- ffactorau sy'n effeithio ar ddewis safleoedd priodol ar gyfer cysylltu dyfeisiau meddygol wrth baratoi unigolyn
- ffactorau i'w hystyried wrth ddewis gorchuddion, cynalyddion clwyfau a draeniau
- egwyddorion gofal clwyfau a gorchuddion, gan gynnwys asesu cylchrediad perifferol (â llaw neu â doppler), gofal clwyfau a draenio
- dulliau a thechnegau ar gyfer paratoi a chymhwyso gorchuddion a chynalyddion clwyfau
- dulliau a thechnegau ar gyfer paratoi, cysylltu a diogelu draeniau
- y llinellau atebolrwydd penodol o fewn y tîm llawfeddygol
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHPCS18
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, amdriniaethol, paratoi, gosod, cysylltu, gorchuddion, clwyfau, cynalyddion, draeniau