Derbyn a thrafod sbesimenau clinigol yn y maes di-haint
URN: SFHPCS17
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn sbesimenau clinigol a gesglir yn ystod gweithdrefnau llawdriniaethol.
Gall fod angen y sbesimen at ddiben ymchwiliad, diagnosis, rhodd awtologaidd neu drawsblaniad.
Byddwch yn gweithio mewn rôl 'mewn sgrybs' pan fyddwch chi'n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau gofynion y clinigwr ar gyfer y math o sbesimen clinigol sydd i'w chasglu a bod cydsyniad perthnasol wedi'i gael
- sicrhau bod y cynhwysydd a'r cyfrwng cludo cywir ar gael ar gyfer y math o sbesimen sy'n cael ei gasglu
- cael a thrafod y sbesimen yn gywir ac yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- labelu'r sbesimen yn gywir ac yn glir gyda'r holl wybodaeth berthnasol, yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr perthnasol
- cadarnhau'n ddi-oed unrhyw ansicrwydd ynghylch y gofynion ar gyfer trafod ac anfon gydag ymarferwr perthnasol
- anfon y sbesimen ar yr amser priodol ac yn y modd priodol i'r cyrchfan cywir i'w archwilio
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a'i rôl wrth wella gofal
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y mathau o bathogenau sy'n benodol i'r unigolyn a'u gweithred, haint clwyfau a halogiad posibl sbesimenau clinigol
- canlyniadau posibl halogiad y sbesimen clinigol
y gwahanol fathau o gynhwysydd a chyfryngau cludo sbesimenau ar gyfer:
- histoleg
- haematoleg
- microbioleg
- sytoleg
- biocemeg
- rhodd awtologaidd
- trawsblaniad
y gofynion penodol ar gyfer trafod a chludo mathau gwahanol o sbesimenau er mwyn iddynt gyrraedd mewn cyflwr addas ar gyfer ymchwiliad
- y peryglon a'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig â labelu neu anfon sbesimenau yn anghywir
- y gofynion arbennig yn gysylltiedig â thrafod trychiadau rhewedig, a rôl yr ymarferwr ar gyfer delio â sbesimenau o'r fath
- rôl yr ymarferwr o ran monitro, adrodd a chofnodi gwybodaeth sy'n gysylltiedig â sbesimenau clinigol a sut mae hyn yn cysylltu ag aelodau eraill y tîm gofal
- rôl gwasanaethau cymorth diagnostig yn gysylltiedig â sbesimenau clinigol
- pwysigrwydd cofnodi gwybodaeth yn gysylltiedig â sbesimenau clinigol
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHPCS17
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, amdriniaethol, cael, trafod, sbesimenau, clinigol, di-haint