Darparu offerynnau ac eitemau llawfeddygol i’r tîm llawfeddygol a chynnal y maes di-haint
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol i'r tîm llawfeddygol a monitro'r defnydd ohonynt. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol ar draws y maes di-haint a gwirio a chyfrif eitemau llawfeddygol gyda'r ymarferwr cofrestredig, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad.
Byddwch yn gweithio mewn rôl 'mewn sgrybs' pan fyddwch chi'n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- sicrhau nad yw eich safle, eich osgo na'ch symudiadau yn peryglu'r maes di-haint na diogelwch unigol
- cyfathrebu'n glir ac yn bendant gydag eraill, gan roi gwybodaeth, cyfarwyddyd a chyngor priodol fel nad ydynt yn peryglu'r maes di-haint
- monitro gweithgareddau'r tîm llawfeddygol yn effeithiol a rhagweld eu gofynion am offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol
- trafod offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol yn gywir ac yn ddiogel, gan sicrhau nad yw'r maes di-haint a diogelwch unigol yn cael eu peryglu wrth eu trosglwyddo i'r tîm llawfeddygol
cadarnhau unrhyw ansicrwydd ynghylch gofynion yn ddi-oed gyda'r aelod priodol o'r tîm llawfeddygol pan fyddwch yn nodi problem yn gysylltiedig ag:
- offeryn neu eitem
- y maes di-haint
- halogi offerynnau
dewis a pharatoi'r offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol cywir yn unol â'r arbenigedd clinigol, gofynion disgwyliedig y weithdrefn lawdriniaethol, ac anghenion yr unigolyn
- cyfrif a chofnodi offerynnau, nodwyddau, swabiau ac eitemau atodol ar y cyd ag ymarferwr cofrestredig fel ail wiriwr awdurdodedig cyn dechrau ac ar ôl gorffen, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- rhoi gwybod yn glir i'r tîm llawfeddygol am niferoedd yr offerynnau ac eitemau atodol ar adegau priodol yn ystod y weithdrefn
- cael gwared ar offerynnau ac eitemau atodol sydd wedi'u defnyddio a'u trosglwyddo i'r ardal ansteril ar gyfer cyfrif amdanynt a chydymffurfio â gofynion olrhain dyfeisiau meddygol, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- tynnu gorchuddion yn ofalus oddi ar yr unigolyn, gan sicrhau ei urddas a'i ddiogelwch, a chael gwared â nhw yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- y gwahaniaeth rhwng rolau mewn sgrybs a rolau cylchredol
- egwyddorion asepsis yn gysylltiedig â pharatoi offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol a chynnal y maes di-haint, a chanlyniad posibl arfer gwael
- ffynonellau, llwybrau trosglwyddo a dinistr organebau pathogenaidd
- natur a diben meysydd di-haint a disgrifio sut cânt eu sefydlu a'u cynnal
- sut mae'r maes di-haint yn cyfrannu at reoli haint
- pwysigrwydd cadw at y dulliau cywir o basio eitemau i'r tîm di-haint a'r ymarferwr perthnasol, a chael eitemau oddi wrthynt
- sut y gellir peryglu meysydd di-haint yn ystod gweithdrefnau, a'r camau i'w cymryd os bydd hyn yn digwydd
- y dulliau diogel o gael gwared ar bob math o wastraff o'r maes di-haint
- y peryglon posibl sy'n gysylltiedig ag offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol a sut y gellir eu hosgoi neu eu lleihau
- y meini prawf a'r dulliau ar gyfer barnu a yw'r offerynnau llawfeddygol a'r eitemau atodol i'w defnyddio yn ddi-haint
- y mathau o offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol a ddefnyddir yn gyffredin yn yr arbenigeddau clinigol sy'n berthnasol i'ch ymarfer, eu diben a'u swyddogaeth
- y gofynion ar gyfer offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol ar gyfer yr arbenigeddau clinigol sy'n berthnasol i'ch ymarfer, a'u haddasrwydd
- y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol
- pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr ynghylch paratoi offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol ar gyfer llawdriniaeth
- pwysigrwydd gwirio a chadarnhau bod cyflwr offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol yn addas cyn eu defnyddio
- y ffyrdd y mae'r math o weithdrefn a'r arbenigedd clinigol yn effeithio ar yr offerynnau a'r eitemau atodol y mae ar y tîm llawfeddygol eu hangen
- egwyddorion, dulliau a thechnegau o fonitro offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol
- dulliau gofalu am offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol, a'u trafod, wrth eu defnyddio
- yr amseroedd penodol pan mae'n rhaid cynnal gwiriadau ar offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol wrth eu defnyddio
- pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau ar gyfer tracio ac olrhain offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol wrth eu defnyddio
- canlyniadau posibl ymarfer gwael yn gysylltiedig â thrafod offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol
- ffyrdd o allu peryglu'r maes di-haint wrth drosglwyddo eitemau, a sut gellir osgoi hyn
- dulliau cyfathrebu effeithiol ag aelodau'r tîm gofal amdriniaethol yn ystod gweithdrefnau llawdriniaethol
- cyfrifoldebau unigol holl aelodau'r tîm clinigol o ran monitro a chyfrif am y defnydd o offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol yn ystod gweithdrefnau clinigol
- y llinellau atebolrwydd penodol o fewn y tîm llawfeddygol
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel