Paratoi offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol ar gyfer y tîm llawfeddygol
URN: SFHPCS14
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol ar gyfer y tîm llawfeddygol. Mae hyn yn cynnwys paratoi'r troli, offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol di-haint.
Byddwch yn gweithio mewn rôl 'mewn sgrybs' pan fyddwch chi'n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- paratoi a chynnal offerynnau ac eitemau atodol di-haint mewn ardal baratoi ddynodedig i sicrhau asepsis
- dewis a pharatoi'r offerynnau llawfeddygol a'r eitemau atodol cywir yn ôl yr arbenigedd clinigol, gofynion disgwyliedig y weithdrefn lawfeddygol, ac anghenion yr unigolyn
- gwirio eitemau wedi'u cyfyngu gan ddyddiad a chadarnhau eu bod o fewn eu dyddiad dirwyn i ben
- trafod, symud a gwirio offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr, gan gadarnhau eu bod yn ddiogel ac yn gweithredu'n gywir cyn eu paratoi nhw'n barod i'w defnyddio
- gosod cyfarpar llawfeddygol yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr, ac i fodloni anghenion y weithdrefn lawfeddygol a chynlluniau gofal unigolion
- cyfrif a chofnodi offerynnau, nodwyddau, swabiau ac eitemau atodol ar y cyd ag ymarferwr cofrestredig fel yr ail wiriwr awdurdodedig cyn dechrau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- paratoi'r troli llawfeddygol, gan osod offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol mewn modd sy'n ei gwneud hi'n haws cael atynt a'u defnyddio, yn unol â dilyniant disgwyliedig y weithdrefn lawfeddygol
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- rôl cyrff rheoleiddiol yn gysylltiedig â chynnyrch meddygol a gofal iechyd, a rheoliadau'n gysylltiedig â dyfeisiau meddygol
- defnyddio camau rhagofalus safonol wrth baratoi dyfeisiau meddygol ac offerynnau llawfeddygol a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- y gwahaniaeth rhwng rolau mewn sgrybs a rolau cylchredol
- egwyddorion asepsis yn gysylltiedig â pharatoi offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol
- y mathau o offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol a ddefnyddir yn gyffredin yn yr arbenigeddau clinigol sy'n berthnasol i'ch ymarfer, eu diben a'u swyddogaeth
- y gofynion ar gyfer offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol ar gyfer yr arbenigeddau clinigol sy'n berthnasol i'ch ymarfer, a'u haddasrwydd
- y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol
- pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr ynghylch paratoi offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol
- pwysigrwydd gwirio a chadarnhau bod cyflwr offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol yn addas cyn eu defnyddio
- y mathau o weithdrefn sy'n cael eu cyflawni yn yr arbenigeddau clinigol sy'n berthnasol i'ch ymarfer
- pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau ar gyfer dilyn ac olrhain deunyddiau ac offerynnau llawfeddygol yn ystod y paratoi
- pwysigrwydd gwirio a chadarnhau bod cyflwr offerynnau llawfeddygol ac eitemau atodol yn addas cyn eu defnyddio
- y meini prawf a'r dulliau ar gyfer gwirio bod yr offerynnau llawfeddygol a'r eitemau atodol i'w defnyddio yn ddi-haint
- ffyrdd y gall pobl sy'n gweithio'r tu allan i'r maes di-haint ei beryglu, a sut gellir osgoi hyn
- y llinellau atebolrwydd penodol o fewn y tîm llawfeddygol
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHPCS14
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, amdriniaethol, paratoi, llawfeddygol, offerynnau, atodol, tîm