Paratoi a gwisgo ar gyfer rolau clinigol mewn sgrybs
URN: SFHPCS13
Sectorau Busnes (Suites): Gofal amdriniaethol
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gwisgo’n gywir i ymgymryd â rôl ‘mewn sgrybs’ yn y tîm amdriniaethol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- golchi a sychu'ch dwylo a'ch breichiau yn effeithiol, yn unol â pholisïau a phrotocolau'r sefydliad
- dewis a gwisgo pob PPE perthnasol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- tynnu a chael gwared ar bob cyfarpar diogelu personol a ddefnyddiwyd mewn ffordd sy'n lleihau risg croes-heintio
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
pwysigrwydd, a thechnegau ar gyfer:
- golchi a sychu dwylo a breichiau yn barod ar gyfer y rôl mewn sgrybs
- dewis a gwisgo gwn a menig di-haint o faint addas
- tynnu a chael gwared ar ddillad diogelu personol amldro ac untro budr, sydd wedi'u ddefnyddio ac sydd wedi'u difrodi
ffactorau sy'n effeithio ar y dewis o ddillad ar gyfer gwahanol weithdrefnau
- eich cyfrifoldeb am baratoi a gwisgo mewn cyfarpar diogelu personol priodol a glan ar gyfer y rôl mewn sgrybs
- y gofynion ar gyfer defnyddio a chynnal cyfarpar diogelu wrth weithio gyda risgiau sy'n gysylltiedig â laserau, ymbelydredd, cemegau a hylifau'r corff
- sut mae'r defnydd cywir o gyfarpar diogelu personol ar gyfer y rôl mewn sgrybs yn cyfrannu at gynnal y maes di-haint
- eich cyfrifoldeb am sicrhau nad yw'r ymarferwr perthnasol sy'n eich cynorthwyo chi i baratoi a gwisgo mewn PPE perthnasol yn peryglu sterileiddiwch yr eitemau
- pwysigrwydd rhoi gwybod i aelodau priodol y tîm llawfeddygol am unrhyw halogi posibl
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHPCS13
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Gofal, amdriniaethol, paratoi, sgrybs, clinigol