Cynnal gweithgareddau dirprwyedig o ran derbyn, trafod ac anfon sbesimenau clinigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal gweithgareddau'n gysylltiedig â sbesimenau clinigol, sef gweithgareddau y mae ymarferwr cofrestredig mewn sgrybs wedi'u dirprwyo i chi.
Mae hyn yn cynnwys derbyn y sbesimen oddi wrth yr ymarferwr mewn sgrybs a sicrhau ei fod yn cael ei osod yn y math cywir o gynhwysydd/cyfrwng cludo. Hefyd, mae'n cynnwys labelu'r cynhwysydd yn gywir ac anfon y sbesimen i'w brosesu. Bydd angen i chi sicrhau nad yw eich gweithgareddau'n peryglu'r maes di-haint.
Gall fod angen y sbesimen at ddiben ymchwiliad, diagnosis, rhodd awtologaidd neu drawsblaniad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- defnyddio'r cynhwysydd a'r cyfrwng cludo cywir yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr perthnasol
- cael a thrafod y sbesimen yn gywir ac yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad
- labelu'r sbesimen yn gywir ac yn glir gyda'r holl wybodaeth berthnasol, yn unol â chyfarwyddyd yr ymarferwr perthnasol
- cadarnhau'n ddi-oed unrhyw ansicrwydd ynghylch y gofynion ar gyfer trafod ac anfon gydag ymarferwr perthnasol
- anfon y sbesimen ar yr amser priodol ac yn y modd priodol i'r cyrchfan cywir i'w archwilio
- sicrhau nad yw eich safle na'ch symudiadau yn peryglu'r maes di-haint
- cymryd camau priodol yn ddi-oed os bydd unrhyw ddifrod i'r maes di-haint
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- strwythurau, rolau a chyfrifoldebau rheoli'r sefydliad
- egwyddorion asepsis yn gysylltiedig â chynnal y maes di-haint
y gwahanol fathau o gynhwysydd a dulliau cludo sbesimenau ar gyfer:
- histoleg
- haematoleg
- microbioleg
- sytoleg
- biocemeg
- rhodd awtologaidd
- trawsblaniad
ffyrdd y gall pobl sy'n gweithio'r tu allan i'r maes di-haint ei beryglu, a sut gellir osgoi hyn
- y gofynion penodol ar gyfer trafod a chludo mathau gwahanol o sbesimenau er mwyn iddynt gyrraedd mewn cyflwr addas ar gyfer ymchwiliad
- y peryglon posibl a'r canlyniadau eraill sy'n gysylltiedig â labelu neu anfon sbesimenau yn anghywir
- y gofynion arbennig yn gysylltiedig â thrafod trychiadau rhewedig, a'r rôl gylchredol ar gyfer delio â sbesimenau o'r fath
- ble a sut i gofnodi gwybodaeth ar sbesimenau
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel