Darparu cymorth wrth ochr y gadair wrth dynnu dannedd ac yn ystod mân lawdriniaeth y geg

URN: SFHOH8
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Bwriedir y safon hon i'r bobl sy'n cynnig cymorth agos wrth dynnu dannedd sydd wedi brigo, tynnu dannedd sydd heb frigo neu dynnu gwreiddiau, a thynnu asgwrn. Bydd angen i chi sicrhau bod yr unigolyn wedi paratoi'n gywir ar gyfer y weithdrefn a'i fonitro ym mhob cam o'r driniaeth, gan roi gwybod i'r gweithredwr am unrhyw broblemau neu bryderon. Hefyd, bydd angen i chi ragweld gofynion y gweithredwr er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oedi diangen yn ystod y weithdrefn. Mae atal a rheoli haint yn ofyniad allweddol hefyd. Bydd angen i chi wybod am y gwahanol fathau o dynnu a mân lawdriniaethau, gan gynnwys y rhesymau dros eu gwneud, a'r offer, y deunyddiau, y cyfarpar a'r meddyglynnau sy'n gysylltiedig.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad 
  6. ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol 
  7. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  8. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  9. rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  10. adalw a darparu siartiau, cofnodion a delweddau'r unigolyn cywir a nodi'r driniaeth arfaethedig yn gywir
  11. cadarnhau gyda'r unigolyn ei fod wedi dilyn y cyfarwyddiadau cyn-triniaeth a ragnodwyd a rhoi gwybod ar unwaith i aelod priodol y tîm os na chydymffurfiwyd â nhw
  12. cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chymryd camau iechyd a diogelwch priodol eraill
  13. darparu cymorth priodol wrth roi analgesia lleol neu ranbarthol
  14. rhagweld, dewis a threfnu'r cyfarpar, yr offer, y deunyddiau a'r meddyglynnau yn nhrefn eu defnyddio fwy na thebyg ac o fewn cyrraedd hawdd i ochr y gadair, mewn ffordd sy'n lleihau'r posibilrwydd o ddifrod a thraws-heintiad
  15. amddiffyn meinweoedd meddal yr unigolyn gan ddefnyddio offer a deunyddiau sy'n briodol i'r weithdrefn, dyfrhau ac allsugno ardal y driniaeth a chadw'r ardal  weithredu'n glir
  16. monitro a thawelu meddwl yr unigolyn yn barhaus, nodi unrhyw gymhlethdodau a chymryd y camau angenrheidiol yn ddi-oed
  17. cynorthwyo'r gweithredwr â lleoli a thorri pwythau os cânt eu defnyddio, cofnodi'r pwythau'n gywir a pharatoi gorchudd ôl-driniaethol priodol
  18. roi cyfarwyddiadau neu wybodaeth ôl-driniaethol i'r unigolyn ar ofal y geg, gwaedlif ar ôl tynnu dant a thynnu pwythau os bydd angen, a sut i gael gafael ar ofal a chyngor brys 
  19. cefnogi'r unigolyn yn briodol gydol y driniaeth a chadarnhau gyda'r gweithredwr bod yr unigolyn yn iawn i adael y ddeintyddfa cyn iddo wneud hynny
  20. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  21. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl 
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol 
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn 
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus 
  11. strwythur a swyddogaeth dannedd a'r periodontiwm, gan gynnwys nifer y gwreiddiau 
  12. anatomi rhanbarthol y pen a'r gwddf ac anatomi deintyddol 
  13. y cyfarpar, yr offer, y deunyddiau a'r meddyglynnau a ddefnyddir yn y gweithdrefnau canlynol:

    • tynnu dannedd sydd wedi brigo
    • tynnu dannedd sydd heb frigo a thynnu gwreiddiau
    • anesthesia lleol a rhanbarthol 
  14. diben amrywiaeth o gyfarpar, offer, deunyddiau a meddyglynnau, a'r dulliau cywir o'u paratoi a'u trafod

  15. y defnydd o gyfarpar, offer, deunyddiau a meddyglynnau ar gyfer y gwahanol weithdrefnau a'r drefn y bydd eu hangen yn ôl pob tebyg
  16. y gwahanol fathau o reolaeth poen a gorbryder sydd ar gael ym maes deintyddiaeth
  17. y rhesymau pam y gall fod angen tynnu dannedd
  18. diben tynnu gwreiddiau a dannedd sydd heb frigo, gwahanol ffurfiau gwneud hyn a'i berthynas â mathau eraill o driniaeth ddeintyddol
  19. diben codi fflapiau mwco-beriosteol a'r rhesymau dros wneud hyn, a'ch rôl yn darparu cymorth wrth ochr y gadair ar gyfer y weithdrefn hon
  20. diben torri dant neu dynnu asgwrn a'r rheswm dros hynny, a'ch rôl yn darparu cymorth wrth ochr y gadair ar gyfer y weithdrefn hon
  21. y risgiau a'r cymhlethdodau posibl a all godi yn ystod ac ar ôl tynnu dannedd, gan gynnwys difrod i nerfau, gwaedlif a ffistwlâu oro-antrol
  22. rhagofalon safonol a safonau ansawdd atal a rheoli heintiau, a'ch rôl wrth gynnal y rhain
  23. beth sy'n faes steril ai peidio a sut gellir cynnal y lefel lendid gywir ar gyfer cyflwr yr unigolyn, y driniaeth a'r lleoliad
  24. ergonomeg gwaith deintyddol, gan gynnwys seddi, safle'r unigolyn a'r tîm, pasio offerynnau, gosodiad blaen yr allsugnydd
  25. dulliau gweithio a fydd yn ategu gwaith y gweithredwr a'r rhesymau dros hyn
  26. y rhesymau dros wylio'r gweithredwr yn barhaus yn ystod y weithdrefn
  27. dulliau o amddiffyn a gwrthdynnu'r meinweoedd meddal
  28. dulliau allsugno yn ystod triniaeth
  29. sut i gynorthwyo yn achos hemostasis, gan gynnwys cynorthwyo â lleoli a thorri pwythau, paratoi paciau
  30. sut i fonitro, cynorthwyo a thawelu meddwl yr unigolyn trwy gydol y driniaeth, gan gynnwys nodi gorbryder
  31. sut i adnabod ac ymateb i argyfyngau gwirioneddol neu bosibl
  32. pam y dylid cadarnhau bod yr unigolyn yn iawn cyn gadael y ddeintyddfa
  33. sut i roi cyfarwyddiadau neu wybodaeth ôl-driniaethol i'r unigolyn ar ofal y geg, gwaedlif ar ôl tynnu dant a thynnu pwythau, a sut i gael gafael ar ofal a chyngor brys
  34. y gwahanol fathau o gofnodion a ddefnyddir yn y sefydliad, gan gynnwys hanes meddygol, manylion personol, siartiau deintyddol, radiograffau/ffotograffau a modelau astudio ar gyfer asesu a chynllunio triniaeth, a'u diben
  35. dulliau gweithio'n effeithiol mewn tîm ym maes gofal iechyd y geg 
  36. anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  37. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  38. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH8

Galwedigaethau Perthnasol

Nyrsys Deintyddol, Gofal iechyd y geg, Cynorthwyydd Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Cymorth; wrth ochr y gadair; tynnu; dannedd; mân lawdriniaeth y geg