Darparu cymorth wrth ochr y gadair yn ystod triniaeth endodontig anllawfeddygol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn mynd i'r afael â chymorth wrth ochr y gadair yn ystod triniaeth endodontig anllawfeddygol, fel triniaeth sianel y gwreiddyn, a gall alw am ddefnyddio deintyddiaeth pedair llaw. Bydd angen i chi ragweld anghenion y gweithredwr am gyfarpar, offerynnau, deunyddiau a meddyglynnau, a dewis y rhai cywir. Hefyd, bydd angen i chi gadw yr ardal weithredu'n glir, gan sicrhau bod eich gweithredoedd yn ategu gweithredoedd aelodau eraill y tîm.
Bydd angen i chi wybod am ddiben y driniaeth anllawfeddygol a'r rhesymau drosti, risgiau posibl y driniaeth, a'r cyfarpar, yr offerynnau, y deunyddiau a'r meddyglynnau sydd ynghlwm.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chymryd camau iechyd a diogelwch priodol eraill
- adalw a darparu siartiau, cofnodion a delweddau'r unigolyn a nodi'r driniaeth arfaethedig yn gywir
- darparu cymorth priodol wrth roi analgesia lleol neu ranbarthol
rhagweld, dewis a threfnu'r cyfarpar, yr offer, y deunyddiau a'r meddyglynnau ar gyfer camau canlynol y driniaeth endodontig:
- mynediad
- ynysu
- paratoi
- mesur
- argáu
- adfer
cynorthwyo'r gweithredwr a chefnogi'r unigolyn wrth ynysu'r dant
- allsugno ardal y driniaeth, gan gynnal ardal weithredu glir a chynorthwyo â monitro a chefnogi'r unigolyn yn ystod y driniaeth
- sicrhau bod cyfarpar a thoddiant dyfrhau ar gael a'u bod yn cael eu trafod yn gywir
- cynorthwyo'r gweithredwr â mesur a chofnodi hyd y gwreiddyn
- paratoi'r deunyddiau a'r meddyglynnau priodol ar gyfer gosod dros dro neu osod yn barhaol yn y sianel neu siambr y bywyn
- monitro a thawelu meddwl yr unigolyn yn barhaus, nodi unrhyw gymhlethdodau a chymryd y camau angenrheidiol yn ddi-oed
- paratoi'r deunydd adfer gofynnol a'i gynnig i'r gweithredwr
- rhoi cyfarwyddiadau ôl-lawdriniaethol ar ofal y geg i'r unigolyn
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- strwythur a swyddogaeth dannedd a'r periodontiwm, gan gynnwys nifer y gwreiddiau
- anatomi rhanbarthol y pen a'r gwddf ac anatomi deintyddol
- diben triniaeth endodontig anllawfeddygol
- gwahanol ffurfiau posibl triniaeth endodontig anllawfeddygol, gan gynnwys rhandyllu'r bywyn (pulpotomy) a thrychu'r bywyn (pulpectomy)
- triniaeth endodontig anllawfeddygol a'i pherthynas â mathau eraill o driniaeth ddeintyddol
- y rhesymau pam y gall fod angen cynnal triniaeth endodontig anllawfeddygol
- y risgiau a'r cymhlethdodau posibl a allai godi yn ystod ac ar ôl triniaeth endodontig anllawfeddygol
- y cyfarpar a ddefnyddir wrth roi anesthesia lleol a rhanbarthol
- dulliau o lanhau a pharatoi sianelau'r gwreiddyn
y cyfarpar, yr offer, y deunyddiau a'r meddyglynnau a ddefnyddir mewn triniaeth endodontig ar gyfer:
- mynediad
- ynysu
- paratoi
- mesur
- argáu
y gwahanol ddeunyddiau a ddefnyddir wrth baratoi, argáu ac adfer sianelau'r gwreiddyn ar ôl rhandyllu'r bywyn mewn dannedd cynradd
- y cyfarpar, y dulliau a'r rhesymau dros reoli lleithder ac ynysu
- ergonomeg gwaith deintyddol, gan gynnwys seddi, safle'r unigolyn a'r tîm, pasio offerynnau, gosodiad blaen yr allsugnydd
- dulliau o sicrhau bod gan y gweithredwr olygfa glir o ardal y driniaeth a chanlyniadau gwneud hyn yn anghywir
- dulliau allsugno yn ystod triniaeth
- dulliau o amddiffyn a gwrthdynnu'r meinweoedd meddal
- dulliau gweithio a fydd yn ategu gwaith y gweithredwr a'r rhesymau dros hyn
- sut i fonitro, cynorthwyo a thawelu meddwl yr unigolyn trwy gydol y driniaeth, gan gynnwys nodi gorbryder
- y rhesymau dros wylio'r gweithredwr yn barhaus yn ystod y weithdrefn
- pam mae'n bwysig bod gweithredoedd y gweithiwr yn ategu gwaith aelodau eraill y tîm a sut mae hyn yn cael ei gyflawni
- rhagofalon safonol a safonau ansawdd atal a rheoli heintiau, a'ch rôl wrth gynnal y rhain
- y gwahanol fathau o siartiau a chofnodion a ddefnyddir yn y sefydliad, gan gynnwys hanes meddygol, manylion personol, siartiau deintyddol, radiograffau/ffotograffau a modelau astudio ar gyfer asesu a chynllunio triniaeth, a'u diben
- dulliau gweithio'n effeithiol mewn tîm ym maes gofal iechyd y geg
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel