Darparu cymorth wrth ochr y gadair wrth ddarparu prosthesisau sefydlog a symudadwy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu cymorth wrth ochr y gadair wrth baratoi a gosod prosthesisau sefydlog a symudadwy. Mae prosthesisau sefydlog yn cynnwys coronau a phontydd wedi'u cynnal/adlynol, mewnosodiadau, argaenau, pontydd dros dro a choronau dros dro. Mae prosthesisau symudadwy'n cynnwys prosthesisau metel, acrylig a pharod. Mae'r gweithdrefnau'n cynnwys yr argraff gyntaf, yr ail argraff, cofrestru achludol, dannedd gosod ar brawf a gosod. Bydd angen i chi baratoi a chymysgu amrywiaeth fawr o ddeunyddiau ac, os na wneir hyn yn gywir, gall effeithio ar lwyddiant y driniaeth. Felly bydd angen i chi wybod am ddibenion y gwahanol ddeunyddiau, eu defnydd, eu perthynas â deunyddiau eraill, dulliau a symiau ar gyfer cymysgu, effeithiau tymheredd, a'u trin a'u trafod yn gywir.
Mae'r safon hon yn berthnasol i aelodau tîm gofal iechyd y geg sy'n rhoi cymorth wrth ochr y gadair ar gyfer paratoi a gosod prosthesisau sefydlog neu symudadwy, gan gynnwys cyferpynnau orthodontig.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chymryd camau iechyd a diogelwch priodol eraill
- darparu amrywiaeth o gafnau addas posibl i'r gweithredwr ac, ar ôl i'r gweithredwr ddewis cafn, ei baratoi i'w ddefnyddio yn gydnaws â'r deunydd a'r cafn sy'n cael eu defnyddio
dewis y deunyddiau argraff priodol a'u paratoi nhw:
- yn unol â'r meintiau cywir sy'n berthnasol i faint y cafn
- yn ôl y cysondeb cywir
- o fewn yr amser trafod a chaledu, yn gysylltiedig â'r deunydd a'r tymheredd
- gan ddefnyddio'r dechneg gywir
llwytho deunyddiau argraff ar gafn yr argraff yn gywir, gan ddefnyddio dull sy'n caniatáu am wneud argraff gyflawn a chywir
- cynnig cymorth priodol i unigolion tra bydd yr argraffau yn eu ceg
- diheintio argraffau, blociau brathu a dannedd gosod ar brawf yn briodol ar ôl eu tynnu a chofnodi manylion cywir, dealladwy a chyflawn y camau, yr arlliwiau a'r gofynion ar y presgripsiwn i'r labordy a'i gysylltu'n ddiogel wrth y pecynnu
paratoi'r cyfarpar a'r deunyddiau cywir ar gyfer cofnodi'r:
- cofrestriad achludol
- dannedd gosod ar brawf
- gosodiad y dannedd gosod
- addasiad dannedd gosod
darparu cymorth priodol wrth roi analgesia lleol neu ranbarthol
- paratoi unrhyw gyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol i baratoi dant cyn gwneud yr argraff
- gweithio mewn ffordd a fydd yn ategu gwaith y gweithredwr, gan gynnwys allsugno a diogelu a gwrthdynnu'r meinweoedd meddal
- cymysgu a pharatoi'r deunyddiau priodol pan fydd coronau
asesu faint a pha fath o ddeunydd adlynol sy'n ofynnol ar gyfer prosthesisau sefydlog a'i baratoi:
- yn ôl y cysondeb cywir
- gan ddefnyddio techneg sy'n briodol i'r deunydd
- pan fydd y gweithredwr ei angen
cynnig yr offer a'r deunyddiau cywir ar gyfer naddu, glanhau a gwirio addasiad terfynol y gosodiad pan fydd eu hangen
- monitro a thawelu meddwl yr unigolyn yn barhaus, nodi unrhyw gymhlethdodau a chymryd y camau angenrheidiol yn ddi-oed
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- strwythur a swyddogaeth dannedd a'r periodontiwm, gan gynnwys nifer y gwreiddiau
- anatomi rhanbarthol y pen a'r gwddf ac anatomi deintyddol
yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer gosod dannedd newydd yn lle dannedd coll a buddion cymharol bob un ohonynt, gan gynnwys:
- prosthesisau sefydlog
- prosthesisau symudadwy
- mewnblaniadau
diben technegau paratoi coron, pont, mewnosodiad ac argaen
- diben coronau a phontydd dros dro a'u lluniad
- y cyfarpar a'r offer a ddefnyddir i baratoi dannedd ar gyfer prosthesisau sefydlog
- y cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau ar gyfer gwrthdynnu gorfannol cyn cael argraff
- sut i ddewis a pharatoi cafn argraff a chymysgu a llwytho deunydd priodol yr argraff
- sut i baratoi a chynllunio coronau a phontydd dros dro, gan gynnwys smentiau
- cael arlliw a defnyddio canllawiau arlliwiau
- dulliau cofrestru achludol a pham mae'r rhain yn angenrheidiol
yr offer a'r deunyddiau sy'n angenrheidiol i:
- dynnu prosthesisau dros dro
- gwirio ac addasu prosthesisau sefydlog cyn y gosod terfynol
gwahanol fathau o smentiau a'r dulliau cywir o'u cymysgu, a dulliau o ynysu yn ystod smentiad
- defnyddio deunyddiau argraff wrth greu modelau astudio neu gastiau gweithio er mwyn adeiladu'r cyferpyn ac o'r bwa neu'r dant gyferbyn
- y gwahanol ffurfiau y mae deunyddiau argraff yn eu cymryd a pherthynas y rhain â'r driniaeth a wneir
- paratoi, cymhwyso a storio argraffau, a'u hôl-ofal, i ddiogelu cywirdeb yr argraff
- pam y dylai deunyddiau argraff gael eu diheintio cyn ychwanegu'r presgripsiwn i'r labordy wrthynt
- y gwahanol gamau wrth greu prosthesisau symudadwy, ail-leinio, ail-sylfaenu ac ychwanegiadau cyflawn a rhannol
diben:
- llawdriniaeth cyn-brosthetig
- paratoi dannedd cyn lluniadau dannedd gosod rhannol
- defnyddio argaeadau
- cyflyryddion meinwe
- defnyddio dannedd gosod siâp llwy
y cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau sy'n cael eu defnyddio i wneud argraffau sylfaenol ac eilaidd
y cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau sy'n cael eu defnyddio:
- wrth wneud cofrestriadau achludol
- mewn dannedd gosod ar brawf
- wrth osod prosthesisau symudadwy
- wrth osod, monitro ac addasu cyferpynnau orthodontig
rôl y technegydd deintyddol yn nhîm gofal iechyd y geg a diben cydweithio'n agos â staff technegol a'r labordy deintyddol ynghylch deunyddiau ac amseru apwyntiadau deintyddol
- perthnasedd a phwysigrwydd y presgripsiwn i'r labordy deintyddol o ran rheoleiddio dyfeisiau meddygol a wneir yn arbennig
- y math o gymorth y gall fod ar unigolion ei angen wrth gael prosthesisau symudadwy newydd a'r pryderon posibl sydd ganddynt
- sut i ofalu am brosthesisau symudadwy
- ôl-ofal ar gyfer dannedd gosod parod
- ergonomeg gwaith deintyddol, gan gynnwys seddi, safle'r unigolyn a'r tîm, pasio offer, gosodiad blaen yr allsugnydd
- dulliau o amddiffyn a gwrthdynnu'r meinweoedd meddal
- dulliau allsugno yn ystod triniaeth
- dulliau gweithio a fydd yn ategu gwaith y gweithredwr a'r rhesymau dros hyn
- y rhesymau dros wylio'r gweithredwr yn barhaus yn ystod y weithdrefn
- y cyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio i roi anesthesia lleol a rhanbarthol
- sut i fonitro, cynorthwyo a thawelu meddwl yr unigolyn trwy gydol y driniaeth, gan gynnwys nodi gorbryder
- rhagofalon safonol a safonau ansawdd atal a rheoli heintiau, a'ch rôl wrth gynnal y rhain
- y gwahanol fathau o siartiau a chofnodion a ddefnyddir yn y sefydliad, gan gynnwys hanes meddygol, manylion personol, siartiau deintyddol, radiograffau/ffotograffau a modelau astudio ar gyfer asesu a chynllunio triniaeth, a'u diben
- dulliau gweithio'n effeithiol mewn tîm ym maes gofal iechyd y geg
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel