Darparu cymorth ‘wrth ochr y gadair’ wrth atal a rheoli clefyd periodontol a charïedd ac adfer ceudyllau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio rôl gweithiwr iechyd y geg wrth ddarparu cymorth 'wrth ochr y gadair' yn ystod y gwaith o atal a rheoli clefydau periodontol a charïedd, ac adfer ceudyllau. Bydd angen i chi baratoi a chymysgu amrywiaeth eang o ddeunyddiau/ meddyglynnau a all effeithio'n ddifrifol ar lwyddiant y driniaeth os na chânt eu gwneud yn gywir. Bydd angen i chi wybod y rheswm dros ddefnyddio deunyddiau a meddyglynnau penodol, yr opsiynau y gellir eu defnyddio yn eu lle a'r cyfarwyddiadau cymysgu a thrafod sy'n cael eu hargymell gan y gwneuthurwyr.
Mae'r safon hon yn berthnasol i weithwyr ym mhob lleoliad lle y mae angen triniaeth ar unigolion yn gysylltiedig ag atal a rheoli clefydau periodontol a pharatoi ac adfer ceudyllau.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- adalw a darparu siartiau, cofnodion a delweddau'r unigolyn cywir a nodi'r driniaeth arfaethedig yn gywir
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chymryd camau iechyd a diogelwch priodol eraill
- darparu cymorth priodol wrth roi analgesia lleol neu ranbarthol
rhagweld, dewis a threfnu'r cyfarpar, yr offer, y deunyddiau a'r meddyglynnau yn nhrefn fwyaf tebygol eu defnyddio ac o fewn cyrraedd hawdd i ochr y gadair ar gyfer:
- atal a rheoli clefydau periodontol
- atal a rheoli carïedd dannedd
- darparu adferiadau amalgam
- darparu adferiadau cyfansawdd
- darparu adferiadau ionomer gwydr
allsugno ardal y driniaeth, cynnal ardal weithredu glir a diogelu meinweoedd meddal yr unigolyn yn briodol gan ddefnyddio offer a deunyddiau sy'n briodol i'r weithdrefn
rhagweld, dewis a chynnig y canlynol yn gywir i'r gweithredwr:
- system fatrics addas i helpu i leoli adferiad
- y swm cywir o'r deunyddiau adfer wedi'u cymysgu'n briodol
- unrhyw ddeunyddiau neu gyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer gorffen yr adferiad
trafod cyfarpar, offerynnau, deunyddiau a meddyglynnau â llaw mewn ffordd sy'n lleihau'r posibilrwydd o anaf, difrod a thraws-heintiad
- monitro a thawelu meddwl yr unigolyn yn barhaus, nodi unrhyw gymhlethdodau a chymryd y camau angenrheidiol yn ddi-oed
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- strwythur a swyddogaeth dannedd a'r periodontiwm, gan gynnwys nifer y gwreiddiau
- anatomi rhanbarthol y pen a'r gwddf ac anatomi deintyddol
- datblygiad plac deintiol a dulliau o'i reoli
- prif achosion clefyd periodontol a charïedd, a'u triniaeth
- dulliau a'r defnydd o dechnegau, cyfryngau neu ddeunyddiau i atal carïedd
- natur a dilyniant clefyd deintiol a chlefyd y geg
- dulliau o ddiogelu a gwrthdynnu'r meinweoedd meddal
- dulliau o allsugno yn ystod triniaeth
- ffyrdd o allu atal a/neu leihau clefyd periodontol, gan gynnwys technegau hylendid y geg effeithiol
- y gwahanol fathau o fflworid a'u priodweddau
swyddogaeth y gwahanol fathau o gyfarpar, offer a deunyddiau/meddyglynnau a ddefnyddir mewn:
- therapi periodontol
- paratoi ac adfer ceudyllau
- atal carïedd sylfaenol ac eilaidd
ergonomeg gwaith deintyddol, gan gynnwys seddi, safle'r unigolyn a'r tîm, pasio offer, gosodiad blaen yr allsugnydd
- dulliau o weithio a fydd yn ategu gwaith y gweithredwr a'r rhesymau dros hyn
- dulliau o hwyluso golwg glir o ardal y driniaeth i'r gweithredwr a chanlyniadau gwneud hyn yn anghywir
- y cyfarpar a ddefnyddir wrth roi anesthesia lleol a rhanbarthol
- y gwahanol gamau wrth baratoi ceudwll ar gyfer dannedd cyntaf a dannedd parhaol
- yr amgylchiadau pan y gall fod angen leininau, a pha ddeunyddiau sydd ar gael
manteision ac anfanteision y gwahanol fathau o:
- amalgam
- adferiadau dros dro
- adferiadau cyfansawdd
- adferiad ionomer gwydr
- selyddion
diben ysgythryddion, y gwahanol fathau ohonynt a phryd a ble y cânt eu defnyddio
- diben cyfryngau asio, y gwahanol fathau ohonynt a phryd a ble y cânt eu defnyddio
- pwysigrwydd gorffen adferiadau a'r cyfarpar, yr offer a'r deunyddiau a all gael eu defnyddio
- pwysigrwydd systemau matrics a'r cyfarpar a'r offer a all gael eu defnyddio
- defnyddio diogel o oleuadau caledu a'u peryglon posibl
- rhagofalon safonol a safonau ansawdd atal a rheoli heintiau, a'ch rôl wrth gynnal y rhain
y peryglon sy'n gysylltiedig ag amalgam, gan gynnwys:
- y rhesymau dros baratoi amalgam mewn ardaloedd wedi'u hawyru, a phwysigrwydd hynny
- y rhagofalon priodol y dylid eu cymryd i atal mercwri rhag gollwng
- y camau cywir i'w cymryd os bydd mercwri'n gollwng
sut i fonitro, cynorthwyo a thawelu meddwl yr unigolyn trwy gydol y driniaeth, gan gynnwys nodi gorbryder
- y rhesymau dros wylio'r gweithredwr yn barhaus yn ystod y weithdrefn
- sut i adnabod ac ymateb i argyfyngau gwirioneddol neu argyfyngau posibl
- y gwahanol fathau o gofnodion a ddefnyddir yn y sefydliad, gan gynnwys hanes meddygol, manylion personol, siartiau deintyddol, radiograffau/ffotograffau a modelau astudio ar gyfer asesu a chynllunio triniaeth, a'u diben
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel