Dylunio a gweithgynhyrchu prosthesisau gan ddefnyddio cysylltion cywrain

URN: SFHOH33
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar ddylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, prosthesisau gan ddefnyddio cysylltion cywrain (precision attachment); dyfeisiau deintyddol a wneir yn bwrpasol i ffitio siâp ceg unigryw'r unigolyn ac sy'n cymryd lle un neu fwy o ddannedd coll ac sy'n cynnwys defnyddio cysylltydd cywrain (precision connector) dau ran neu fwy. Bydd un rhan o'r cysylltyn yn gysylltiedig â gwraidd, dant neu fewnblaniad, y rhan arall yn gysylltiedig â phrosthesis artiffisial; mae hyn yn darparu dargadwad mecanyddol (mechanical retention). Gall cysylltion cywrain gael eu defnyddio yn lle breichiau gafael (clasp arms): i ddargadw dannedd gosod rhannol gyda chysylltion allgoronol neu fewngoronol. Mewn dannedd gosod cyflawn, gallant gael eu defnyddio ar wreiddiau neu fewnblaniadau gan gario stydiau neu farrau. 

Dylai prosthesis rhannol neu gyflawn trwy ddefnyddio cysylltion cywrain adfer golwg ddeintyddol naturiol o ran lliw, siâp a maint; dylent ffitio ac achludo yng ngheg yr unigolyn yn gyfforddus, gael eu cadw'n ddiogel yn eu lle yng ngheg yr unigolyn ac ni ddylent ganiatáu i weddillion bwyd gronni. Er mwyn gweithgynhyrchu prosthesis sy'n bodloni'r gofynion esthetig, ffit, achludol a swyddogaethol, mae ar y technegydd angen cast neu gynrychiolaeth ddigidol gywir, cofnod cywir o'r berthynas rhwng gên uwch ac is yr unigolyn a chofnod o liw dannedd yr unigolyn.

Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r prosthesis a wneir yn bwrpasol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel ymarferwyr deintyddol cyffredinol) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y prosthesis a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  5. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  6. casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r prosthesisau gan ddefnyddio cysylltion cywrain
  7. cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
  8. dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
  9. gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
  10. gweithgynhyrchu'r prosthesisau gan ddefnyddio cysylltion cywrain gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol 
  11. monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen
  12. tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
  13. gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  14. danfon yn unol â gofynion y sefydliad
  15. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau 
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
  10. cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
  11. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
  12. strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
  13. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
  14. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  15. y newidiadau ffisiolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
  16. effaith colli dannedd ar y feinwe ddeintyddol ategol, prosesau ac effaith adsugnad gwrym (ridge resorption)
  17. pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
  18. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  19. argysylltiad
  20. estheteg a seineg
  21. egwyddorion dyluniad prosthesisau
  22. dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
  23. priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau
  24. ffurfio castiau a mowldiau
  25. cwyrau
  26. aloiau deintyddol
  27. egwyddorion gwaith cysylltion cywrain
  28. dulliau o adeiladu pontydd a choronau deintyddol gan ddefnyddio cysylltion cywrain
  29. technegau uno cydrannau a ddefnyddir mewn gwaith deintyddol
  30. deunyddiau gwrthsafol deintyddol
  31. y berthynas rhwng yr uniadau cemegol a phriodweddau deunyddiau solet
  32. deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
  33. patrymau castio
  34. dulliau o sbriwio metelau a systemau amrywiol
  35. dulliau o orffen arwynebau
  36. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  37. dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny 
  38. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  39. yr amrywiaeth o ffactorau i'w hystyried yn ystod gweithgynhyrchu
  40. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  41. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael 
  42. yr amrywiaeth o ffactorau i'w hystyried yn ystod gweithgynhyrchu; yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol; dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill; dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel; dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar a'ch rôl yn hyn
  43. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  44. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH33

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Prosthesis, cysylltion, cywrain, digidol