Dylunio a gweithgynhyrchu argaeadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar ddylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, argaeadau (obturators). Bwriedir i argaeadau ddisodli taflod y genau ac ardaloedd cysylltiedig, hyd at ac yn cynnwys cynnal crau'r llygad. Gall argaeadau gynnwys set o ddannedd gosod cyflawn neu rannol yn eu dyluniad a, hefyd, gallant gael eu defnyddio wrth adsefydlu unigolion y mae angen prosthesisau wynebol arnynt.
Defnyddir argaeadau i gywiro problemau cynhwynol, fel taflodau bylchog, neu ddiffygion caffaeledig, er enghraifft pan fydd meinwe wedi'i chodi oherwydd presenoldeb tiwmorau. Gall argaeadau fod yn barhaol fel y maent ar gyfer y rhan fwyaf o broblemau cynhwynol, yn rhannol barhaol neu dros dro pan fydd angen gwneud argaead yn gyflym yn dilyn llawdriniaeth frys, neu pan fydd dannedd gosod presennol unigolyn yn cael eu defnyddio fel argaead dros dro. Oherwydd cymhlethdod anghenion yr unigolyn a'r gwaith cysylltiedig, mae angen i'r technegydd weithio'n agos gydag aelodau eraill tîm iechyd y geg.
Gall argaeadau gael eu gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau polymerig, o bolymerig gyda rhai cydrannau metelig, er enghraifft mecanweithiau cloi i'w cadw yn y geg, neu gyda fframwaith aloi metelig, megis ar y cyd â mewnblaniadau deintyddol. Mae'n hanfodol bod argaeadau'n ffitio'n union i'r unigolyn, neu bydd bwyd a diod yn dianc trwy drwyn yr unigolyn. Dylai argaeadau adfer golwg naturiol o ran lliw, siâp a maint; dylent ffitio ceg yr unigolyn yn gyfforddus, dylent gael eu cadw yn eu lle yng ngheg yr unigolyn, ni ddylent ganiatáu i weddillion bwyd gronni a dylent hwyluso lleferydd. Er mwyn gweithgynhyrchu prosthesis sy'n bodloni'r gofynion esthetig a swyddogaethol hyn, bydd angen cast cywir arnoch ac, i'r graddau y bo hynny'n bosibl o ystyried natur y broblem, cofnod cywir o'r berthynas rhwng gên uwch ac is yr unigolyn.
Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r prosthesis a wneir yn bwrpasol. Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir yr argaead a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer, neu'r rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr lle bo hynny'n briodol. Oherwydd natur problemau iechyd y geg sy'n gofyn am ddatblygu argaeadau, bydd technolegwyr deintyddol yn tueddu i weithio'n agos gyda chleientiaid, unigolion (neu eu rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr fel y bo'n briodol) ac aelodau eraill y tîm gofal i'w datblygu. Mae hyn yn gofyn am sgiliau cyfathrebu da gyda phob un o'r uchod ac aelodau eraill y tîm gofal fel ei gilydd.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r argaead
- cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
- dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
- gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
- gweithgynhyrchu'r argaead gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
- monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen
- tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
- gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
- gwirio bod yr argaead gorffenedig yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
- cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
- yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
- strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
- anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
- etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
- y newidiadau ffisiolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
- pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
- heintiau'r genau a'u triniaeth
- effeithiau afiechyd y geg ar ddyluniad a swyddogaeth prosthesisau a chyferpynnau
- malaenedd y geg a'r rheolaeth lawfeddygol a meddygol ar falaenedd y geg
- egwyddorion radiotherapi a chemotherapi a'u heffeithiau ar ddyluniad a swyddogaeth dyfeisiau
- dyluniad a gwneuthuriad y ddyfais cyn-lawdriniaethol
- effaith triniaethau ar y dewis o ddeunyddiau, dyluniad a swyddogaeth y cyferpyn a'r technegau gweithgynhyrchu; gwneuthuriad cyferpyn triniaeth radiotherapi a'r defnydd ohono
- trin deunydd ymbelydrol
- egwyddorion trosglwyddo meinwe, strwythur y croen, dulliau clinigol trosglwyddo meinwe, egwyddorion dylunio cyferpynnau a ddefnyddir wrth drosglwyddo meinwe
- adferiad llawdriniaethol
- anatomi a ffisioleg ôl-driniaeth
- y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
- anghenion corfforol ac ymarferol yr unigolyn o ran colli meinwe feddal yng ngheudod y geg
- yr ymateb emosiynol gan yr unigolyn a phobl agos at yr unigolyn o ran colli meinwe feddal a dannedd
rôl argaeadau wrth adfer a chynnal a chadw:
- meinweoedd
- ategiad meinweoedd
- estheteg
- seineg
- swyddogaeth achludiad a'r cymal arlais-fandiblol
pwysigrwydd adfer a chynnal y dimensiwn fertigol achludol
- buddion a chyfyngiadau ailosod meinwe yn syth wrth ddarparu prosthesisau symudadwy
- y defnydd o brosthesisau symudadwy dros dro a'r angen amdanynt
- y defnydd o leininau hydwyth a chyflyryddion meinwe
- cyfyngiadau dylunio tandoriadau blaen mawr a chyflyrau deintyddol sydd eisoes yn bodoli
egwyddorion ac ymarfer:
- dargadwad a sefydlogrwydd
- estheteg a seineg
- argysylltiad
egwyddorion dyluniad argaead
- dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
- priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau
- cynnyrch ar gyfer gweithgynhyrchu castiau a mowldiau
- cwyrau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu prosthesisau symudadwy
- polymerau deintyddol
- nodweddion strwythurol cadwyni polymer
- polymerau sylfaen dannedd gosod
- aloiau deintyddol
- deunyddiau dannedd artiffisial
- deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
- mewnblanoleg ac oseointegreiddio
- deunyddiau gwrthsafol
- dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
- dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny
- egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
- dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
- effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
- yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
- dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
- dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
- dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel