Rhoi cymorth wrth ochr y gadair yn ystod gweithdrefnau asesu iechyd y geg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cymorth wrth ochr y gadair yn ystod gweithdrefnau asesu iechyd y geg.
Mae hyn yn cynnwys paratoi offer, offerynnau, deunyddiau a meddyginiaethau sydd eu hangen ar gyfer asesu. Mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth agos yn ystod asesiadau unigolion trwy gofnodi a siartio gwybodaeth a gafwyd o archwiliadau o'r pen, y gwddf, y dannedd, y periodontiwm a'r meinwe meddal, a monitro unigolion yn ystod triniaeth i nodi cymhlethdodau, a chymryd camau angenrheidiol.
Gellir cynnal triniaethau deintyddol mewn practisau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol cyhoeddus, lleoliadau ysbyty, yn y cartref neu amgylcheddau ansafonol eraill.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1.Adfer cofnodion unigolion a sicrhau eu bod ar gael i nodi triniaethau a gynlluniwyd yn unol â gweithdrefnau’r gweithle
2.Cymhwyso Rhagofalon Rheoli Heintiau Safonol a chymryd mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill trwy gydol y cymorth wrth ochr y gadair yn unol â gweithdrefnau'r gweithle
3.Dewis, cynnig a pharatoi offer, offerynnau, deunyddiau a meddyginiaethau cywir sydd eu hangen ar gyfer asesiadau clinigol llawn o'r pen, y gwddf a'r geg
4.Monitro unigolion yn ystod triniaethau i adnabod cymhlethdodau, gan gymryd camau angenrheidiol yn unol â gweithdrefnau’r gweithle ac o fewn eich cwmpas ymarfer eich hun
5.Cofnodi asesiadau wedi’u cyfleu gan aelodau eraill o'r tîm yn gywir yn unol â gweithdrefnau’r gweithle
6.Trefnu asesiadau a thriniaethau pellach fel y rhagnodir gan y gweithredwr clinigol ac yn unol â gweithdrefnau'r gweithle
7.Gwaredu gwastraff yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau a gweithdrefnau gweithle perthnasol
8.Cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth yn unol â deddfwriaeth, canllawiau a gweithdrefnau gweithle perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1.Gwahanol fathau o gofnodion a siartiau deintyddol a ddefnyddir, a’u swyddogaethau, gan gynnwys
manylion personol, delweddau a modelau astudiaeth ar gyfer asesu a chynllunio triniaeth
2.Gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer hanes meddygol, a goblygiadau sydd gan glefydau systemig a chyflyrau meddygol perthnasol ar iechyd y geg a thriniaeth ddeintyddol
3.Risgiau iechyd yn sgil defnyddio a chamddefnyddio cyffuriau ar bresgripsiwn, heb bresgripsiwn a chyffuriau adloniant ar iechyd y geg ac iechyd cyffredinol a sut i roi cyngor a chymorth priodol gan gynnwys cyfeirio ac atgyfeirio
4.Pwrpas asesu iechyd y geg a dulliau o gyfleu hyn yn briodol i unigolion
5.Anatomeg, strwythur a gweithrediad y dannedd a’r periodontiwm
6.Gweithrediad a lleoliad y chwarennau poer
7.Gweithrediad a lleoliad y cyhyrau cnoi a chyhyrau mynegiant yr wyneb
8.Cyflyrau a allai effeithio ar symudiadau'r wyneb
9.Arwyddion a symptomau canser y geg a phwysigrwydd codi pryderon ac atgyfeiriadau cynnar
10.Cyflyrau’r geg a dulliau ar gyfer eu diagnosis, eu hatal a'u rheoli
11.Diagnosis a rheoli clefydau esgyrn yr wyneb, mwcosa’r geg, meinweoedd meddal eraill, chwarennau poer a chymalau
12.Rhagofalon Rheoli Heintiau Safonol a sut i gymhwyso’r rhain
13.Offer, offerynnau, deunyddiau a meddyginiaethau sydd eu hangen ar gyfer asesiadau clinigol llawn o'r pen, y gwddf a'r geg
14.Dulliau o fesur bywioldeb bywyn a'u rhinweddau cymharol
15.Prif ddosbarthiadau cyffuriau a ddefnyddir mewn deintyddiaeth a'r rhesymau dros eu defnyddio, gan gynnwys poenleddfwyr, gwrthfiotigau, tawelyddion, cyffuriau hypnotig, cyffuriau brys, cyffuriau sy'n gwrthdroi gweithred cyffuriau eraill
16.Sut i fonitro a chefnogi unigolion, a rheoli gorbryder
17.Dulliau o fonitro nodweddion corfforol unigolion ac arwyddion a symptomau i fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn adnabod cymhlethdodau ac argyfyngau posibl
18.Sut i adnabod argyfyngau meddygol a darparu cymorth priodol i unigolion ac i'r rhai sy'n rheoli argyfwng ar unwaith
19.Sut i adnabod arwyddion anaf, cam-drin neu esgeulustod a sut i godi pryderon gyda phobl ac asiantaethau priodol
20.Terminoleg a nodiant siartio, symbolau siartio ar gyfer arwynebau dannedd, tyllau a phroblemau dannedd penodol sy'n gysylltiedig â'r math o siartiau deintyddol sy'n cael eu defnyddio
21.Rhesymau dros gymryd delweddau a modelau astudio ar gyfer cynllunio a monitro triniaeth unigolion
22.Mesuriadau, cofnodion a dosbarthiadau sy'n gysylltiedig â chofnodion camgymheiriad
23.Mathau o driniaeth orthodontig sydd ar gael a’u dibenion
24.Pwysigrwydd ystyried dewisiadau, anghenion a gwerthoedd unigolion wrth gyfathrebu
25.Egwyddorion didwylledd ac ymdrin â chwynion yn effeithiol a sut i gymhwyso'r rhain
26.Gwahanol ddulliau o waredu gwastraff a sut i gymhwyso'r rhain
27.Pwysigrwydd y rheoliadau diogelu data cyfredol a sut i gymhwyso’r rhain
28.Pam mae'n bwysig diweddaru dogfennaeth a storio cofnodion unigolion yn ddiogel
29.Pwysigrwydd diwallu anghenion unigolion gan gynnwys materion sy'n ymwneud ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd