Dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig sefydlog

URN: SFHOH29
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio dylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, cyferpynnau orthodontig sefydlog.  Mae hyn yn cynnwys prosesau gweithgynhyrchu cyferpynnau sefydlog eu hunain a chydrannau sefydlog cyferpynnau sefydlog/symudadwy. Mae'n cwmpasu prosesau dylunio, gweithgynhyrchu a gosod safle cydrannau, cydosod ac uno cydrannau, a'r gorffen terfynol. Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r clinigwr sydd wedi rhagnodi a manylu'r cyferpyn orthodontig. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y cyferpyn ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  5. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  6. casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r cyferpynnau orthodontig sefydlog
  7. cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
  8. dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
  9. gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
  10. gweithgynhyrchu'r cyferpynnau orthodontig sefydlog gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol 
  11. monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu, fel y bo angen 
  12. tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
  13. gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  14. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill 
  6. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
  10. cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
  11. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg a morffoleg dannedd sy'n ofynnol ar gyfer adeiladu cyferpyn orthodontig sefydlog
  12. swyddogaeth a symudiad cyhyrau'r geg a'r cymal arlais-fandiblol 
  13. egwyddorion argysylltiad cytbwys a'i effaith ar swyddogaeth cyferpynnau orthodontig sefydlog
  14. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
  15. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  16. patrymau twf a brigo dannedd cynradd a pharhaol
  17. y newidiadau ffisiolegol sy'n gysylltiedig â symudiad dannedd
  18. twf a datblygiad macsila a mandibl
  19. cyfyngiadau cyfaddasiadau twf; cyfyngiadau a gwrtharwyddion i gyfaddasiad twf
  20. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  21. egwyddorion dylunio ac adeiladu cyferpynnau orthodontig sefydlog
  22. cwmpas triniaeth orthodontig gan ddefnyddio cyferpynnau orthodontig sefydlog, gan gynnwys ystod a chyfeiriad y symudiad sy'n bosibl
  23. arwyddion a gwrtharwyddion ar gyfer triniaeth cyferpyn sefydlog
  24. y gwahanol fathau o gyferpynnau orthodontig sefydlog a'r cydrannau sy'n ofynnol
  25. swyddogaeth y gwahanol gydrannau a ddefnyddir mewn cyferpynnau orthodontig sefydlog, a safle, dibenion, swyddogaethau a defnydd pob un ohonynt
  26. y defnydd o gastiau wrth ddylunio, gweithgynhyrchu a gosod safle cydrannau ar gyfer cyferpynnau
  27. defnyddio triniaethau cyfunol
  28. rhyngweithio rhwng triniaethau
  29. sut mae'r broses galedu yn effeithio ar y dewis o ddeunyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu
  30. sut i nodi maint y cydrannau a'r math o gydrannau y bydd eu hangen
  31. yr amrywiaeth o gydrannau rhagffurfiedig sydd ar gael a dulliau o asesu eu haddasrwydd i'w defnyddio wrth adeiladu cyferpyn
  32. gwahanol drwch weiars a ddefnyddir ar gyfer mathau gwahanol o gydrannau a dulliau o nodi pa un sy'n ofynnol ac yn addas
  33. dulliau o sythu a phlygu weiar a'r offer a ddefnyddir
  34. goddefedd trafod y weiars, effeithiau eu trafod yn ormodol a sut i adnabod pan fydd hyn wedi digwydd
  35. diben, swyddogaeth a'r defnydd o gyfarpar diogelu wrth weithgynhyrchu cydrannau
  36. dulliau o asesu addasrwydd cydrannau gwneuthuredig
  37. diben y gwahanol fathau o lwyfannau brathu a'r defnydd ohonynt, a sut caiff y rhain eu hadeiladu
  38. dulliau o ychwanegu'r polymerig; pam y caiff gwahanol dechnegau eu defnyddio
  39. y defnydd o sbotweldio a sodro
  40. sut mae hyd a lefel y cerrynt yn effeithio ar gryfder a hyfywedd yr uniad a gynhyrchwyd
  41. dulliau o raddnodi cyfarpar, sut i benderfynu ar y gosodiadau cywir ar gyfer y maint a'r math o ddeunyddiau sy'n cael eu weldio
  42. sut i farnu pryd bydd y metelau wedi cael eu cynhesu'n ddigonol i doddi sodr, ond nid i ymyrryd â strwythur mecanyddol y metel
  43. canlyniadau gorgynhesu metelau a sodr yn ystod y sodro, gan wanhau a meddalu metelau yn benodol ac achosi sodr i dasgu yn hytrach na llifo'n llyfn, effaith y rhain ar gryfder a chyfanrwydd yr uniad a'r camau unioni y gellir eu cymryd
  44. sut i nodi'r rhesymau dros fethiant uniad wedi'i sodro
  45. y dulliau caledu gwahanol, sut mae pob un ohonynt yn gweithio, eu heffaith ac ym mha sefyllfa y caiff pob un ohonynt eu defnyddio orau 
  46. sut mae'r broses galedu yn effeithio ar y deunyddiau a'r cydrannau y gellir eu defnyddio
  47. nodweddion ffisegol deunyddiau a ddefnyddir mewn cyferpynnau a sut mae'r prosesau caledu yn effeithio arnynt
  48. y cyfryngau gwahanu gwahanol, pryd cânt eu defnyddio a pham
  49. dulliau tynnu'r fflasgiau
  50. ffyrdd o lanhau cyferpynnau i baratoi ar gyfer gorffen a llathru
  51. technegau ar gyfer gorffen a llathru cyferpynnau
  52. y gwahanol fathau o sgriffio a llathrydd a'u diben 
  53. dulliau o lanhau cyferpynnau yn ddiogel ac yn effeithiol
  54. dulliau o asesu a gwirio diogelwch a derbynioldeb esthetig, swyddogaethol a chlinigol cyferpynnau gorffenedig
  55. dewis argysylltydd addas ar gyfer y math o gyferpyn sy'n cael ei ddylunio a'i weithgynhyrchu
  56. cofnodion achludol canolog
  57. cofnodion symudiadau ochrol ac allwthiol a'u defnydd
  58. dadansoddi achludiad deintiol sy'n gofyn am drosgaenau
  59. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
  60. dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny 
  61. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  62. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  63. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
  64. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
  65. dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill 
  66. dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
  67. dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
  68. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  69. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH29

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Cyferpynnau, orthodontig, sefydlog, digidol