Dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio dylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, cyferpynnau orthodontig ffwythiannol. Mae angen i chi ddylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau deintyddol a wnaed yn bwrpasol sy'n cael eu defnyddio i gywiro anghysondebau esgyrnol a dant-orfannol yn y plentyn neu'r oedolyn ifanc sy'n datblygu.
Yn y safon hon, defnyddir y term 'cleient' i olygu'r clinigwr sydd wedi rhagnodi a manylu'r cyferpyn orthodontig ffwythiannol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y cyferpyn ar ei gyfer.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
- cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
- dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
- gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
- gweithgynhyrchu'r cyferpynnau orthodontig ffwythiannol gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
- monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu, fel y bo angen
- tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
- gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
- gwirio bod y cyferpynnau orthodontig ffwythiannol gorffenedig yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
- cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
- yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg a morffoleg dannedd sy'n ofynnol ar gyfer adeiladu cyferpyn orthodontig ffwythiannol
- swyddogaeth a symudiad cyhyrau'r geg a'r cymal arlais-fandiblol
- egwyddorion argysylltiad cytbwys a'i effaith ar swyddogaeth cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
- anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
- etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
- patrymau twf a brigo dannedd cynradd a pharhaol
- y newidiadau ffisiolegol sy'n gysylltiedig â symudiad dannedd
- twf a datblygiad macsila a mandibl
- cyfyngiadau cyfaddasiadau twf; cyfyngiadau a gwrtharwyddion i gyfaddasiad twf
- y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
- nodau ac amcanion triniaeth orthodontig
- y ffactorau allweddol yn llwyddiant triniaeth orthodontig, problemau cyffredin ac achosion cyffredin methiant y driniaeth
- y camau mewn triniaeth orthodontig a'r mathau o driniaeth orthodontig, a sut maent yn perthyn i'w gilydd
- egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
- cwmpas triniaeth orthodontig gan ddefnyddio cyferpynnau orthodontig ffwythiannol
- egwyddorion dylunio ac adeiladwaith plât sylfaen a phlân cyfeirio cefn sy'n cyd-gloi
- natur a diben castiau archwilio
- defnydd a maint y grymoedd a ddefnyddir wrth symud dannedd a datblygiad twf mandiblol
- y gwahanol fathau o gyferpynnau orthodontig ffwythiannol a'r cydrannau sy'n ofynnol
- y defnydd o gastiau wrth ddylunio, gweithgynhyrchu a gosod safle cydrannau ar gyfer cyferpynnau
- dulliau o actifadu ac ail-actifadu cydrannau a chyferpynnau ffwythiannol
- sut caiff cyferpynnau eu ffitio, eu haddasu a'u hactifadu
- dulliau o addasu, atgyweirio a chynnal a chadw cyferpynnau ffwythiannol
- egwyddorion technoleg cyferpynnau cyhyrffwythiannol a'i chymhwyso
- dulliau o fesur a dadansoddi ceffalometreg, gan gynnwys nodweddion, patrymau esgyrnol, uchder yr wyneb a pherthynas minddannedd
- sut mae'r broses galedu yn effeithio ar y dewis o ddeunyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu
- sut i nodi maint y cydrannau a'r math o gydrannau y bydd eu hangen
- yr amrywiaeth o gydrannau rhagffurfiedig sydd ar gael a dulliau o asesu eu haddasrwydd i'w defnyddio wrth adeiladu cyferpyn
- gwahanol drwch weiars a ddefnyddir ar gyfer mathau gwahanol o gyferpynnau
- dulliau o nodi pa weiar sy'n ofynnol ac sy'n addas
- dulliau o sythu a phlygu weiar a'r offer a ddefnyddir
- goddefedd trafod y weiars, effeithiau eu trafod yn ormodol a sut i adnabod pan fydd hyn wedi digwydd
- dulliau o asesu addasrwydd cydrannau gwneuthuredig
- diben y gwahanol fathau o lwyfannau brathu a'r defnydd ohonynt, a sut caiff y rhain eu hadeiladu
- dulliau o ychwanegu'r polymerig; pam caiff gwahanol dechnegau eu defnyddio
- y defnydd o sbotweldio a sodro
- sut mae hyd a lefel y cerrynt yn effeithio ar gryfder a hyfywedd yr uniad a gynhyrchwyd
- dulliau o raddnodi cyfarpar, sut i benderfynu ar y gosodiadau cywir ar gyfer y maint a'r math o ddeunyddiau sy'n cael eu weldio
- sut i farnu pryd bydd y metelau wedi cael eu cynhesu'n ddigonol i doddi sodr, ond nid i ymyrryd â strwythur mecanyddol y metel
- achosion ac effeithiau namau mewn sodro
- sut i nodi'r rhesymau dros fethiant uniad wedi'i sodro
- y dulliau caledu gwahanol, sut mae pob un ohonynt yn gweithio, eu heffaith ac ym mha sefyllfa y caiff pob un ohonynt eu defnyddio orau
- nodweddion ffisegol y deunyddiau a ddefnyddir mewn cyferpynnau a sut mae'r prosesau caledu yn effeithio arnynt
- y cyfryngau gwahanu gwahanol, pryd cânt eu defnyddio a pham
- dulliau tynnu'r fflasgiau
- ffyrdd o lanhau cyferpynnau i baratoi ar gyfer gorffen a llathru
- technegau ar gyfer gorffen a llathru cyferpynnau
- y gwahanol fathau o sgriffio a llathrydd a'u diben
- dulliau o lanhau cyferpynnau yn ddiogel ac yn effeithiol
- dulliau o asesu a gwirio diogelwch a derbynioldeb esthetig, swyddogaethol a chlinigol cyferpynnau gorffenedig
- dewis argysylltydd addas ar gyfer y math o gyferpyn sy'n cael ei ddylunio a'i weithgynhyrchu
- cofnodion achludol canolog
- cofnodion symudiadau ochrol ac allwthiol a'u defnydd
- dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
- dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny
- egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
- dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
- effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
- yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
- dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
- dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
- dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel