Paratoi a chynhyrchu castiau a chofnodion ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar baratoadau ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, cyferpynnau orthodontig a wnaed yn bwrpasol: cyferpynnau orthodontig ffwythiannol, cyferpynnau orthodontig sefydlog, cyferpynnau orthodontig symudadwy confensiynol a chyferpynnau orthodontig symudadwy cymhleth. Mae angen i chi baratoi a chynnal amgylcheddau, deunyddiau a chyfarpar ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu'r cyferpyn a chynhyrchu cast archwilio orthodontig, castiau terfynol a chastiau dyblyg.
Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r clinigwr sydd wedi rhagnodi a manylu'r cyferpyn orthodontig. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y cyferpyn ar ei gyfer.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r castiau
- cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
- dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
- gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
- gweithgynhyrchu'r castiau gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
- monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen
- rhoi gwybod i'r cleient yn briodol os nad yw ansawdd yr argraff yn ddigonol a chael argraff newydd
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
- cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
- yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg a morffoleg dannedd sy'n ofynnol ar gyfer adeiladu cyferpyn orthodontig
- swyddogaeth a symudiad cyhyrau'r geg a'r cymal arlais-fandiblol
- egwyddorion argysylltiad cytbwys a'i effaith ar swyddogaeth cyferpynnau orthodontig a defnyddio argysylltwyr
- anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
- etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
- patrymau twf a brigo dannedd cynradd a pharhaol
- y newidiadau ffisiolegol sy'n gysylltiedig â symudiad dannedd
- twf a datblygiad macsila a mandibl
- y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
- nodau ac amcanion triniaeth orthodontig
- y camau mewn triniaeth orthodontig a'r mathau o driniaeth orthodontig, a sut maent yn perthyn i'w gilydd
- egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu cyferpynnau orthodontig
- natur a diben castiau archwilio
- y gwahanol fathau o gyferpynnau orthodontig a'r deunyddiau, y cyfarpar a'r cydrannau y mae eu hangen; dibenion pob un ohonynt a'u defnydd
- y defnydd o gastiau wrth ddylunio, gweithgynhyrchu a gosod safle cydrannau ar gyfer cyferpynnau
- y cofnodion (papur a deunydd) sy'n ofynnol
- sut i nodi maint y cydrannau a'r math o gydrannau y bydd eu hangen
- dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
- dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny
- egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
- dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
- effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
- yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
- dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
- dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
- dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel