Dylunio a gweithgynhyrchu adferiadau pontydd lliw dannedd wedi’u seilio ar is-strwythurau anfetelig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio dylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, adferiadau lliw dannedd trwy ddylunio a gweithgynhyrchu is-strwythurau pont anfetelig. Bydd angen i chi ddylunio a gweithgynhyrchu is-strwythurau pont anfetelig, gosod deunyddiau lliw dant at is-strwythurau pont anfetelig a'u gorffen nhw'n barod i'w ffitio yng ngheg yr unigolyn.
Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r adferiad. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir yr adferiad a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r adferiadau lliw dannedd sydd wedi'u seilio ar is-strwythurau anfetelig
- cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
- dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
- gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
- gweithgynhyrchu'r adferiadau lliw dannedd sydd wedi'u seilio ar is-strwythurau anfetelig gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
- monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen
- tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
- gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
- danfon yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
- cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
- yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
- strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
- anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
- etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
- y newidiadau ffisiolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
- pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
- y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
egwyddorion ac ymarfer:
- argysylltiad
- estheteg a seineg
egwyddorion dylunio adferiadau
- effaith grymoedd cnoi ar adferiadau deintyddol, priodweddau gofynnol deunydd a dyluniad a gwneuthuriad yr adferiad i wrthsefyll llwythi cnoi a chynnal strwythurau dannedd caled.
- dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
- deunyddiau anfetelig a ddefnyddir mewn adferiadau
- diben pentanau, dargadwyr a phontigau
sut i osod yr is-strwythur anfetelig ar y cast a chadarnhau:
- ei fod yn ffitio'r cast
- ei fod yn cydymffurfio â'r presgripsiwn
- na fydd yn difrodi meinweoedd cyfagos yng ngheg yr unigolyn
ystyriaethau gweithgynhyrchu, gan gynnwys:
- ffurf dannedd naturiol yr unigolyn
- morffoleg y dannedd
- effeithiau dannedd naturiol cyfagos ac adferiadau
- ffurf coronol pontig
- proffil y pontig yn gysylltiedig ag estheteg ac i osgoi trawma i'r gwrym gweddilliol
- gofynion esthetig
- gofynion y presgripsiwn
priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau a chwyrau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu adferiadau
- deunyddiau adferol esthetig
- y berthynas rhwng asiadau cemegol a phriodweddau deunyddiau solet
- deunyddiau dyblygu a glanhau
- dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
- dulliau o reoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg
- egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
- dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
- effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
- yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
- dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
- dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
- dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel