Dylunio a gweithgynhyrchu adferiadau lliw dant sengl

URN: SFHOH23
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio dylunio a gweithgynhyrchu, gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol, adferiadau lliw dant sengl o ddeunyddiau seramig, polymerig, cyfansawdd a deunyddiau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r adferiadau hyn yn cynnwys mewnosodiadau, trosgaenau, argaenau (veneers), argaeniadau (facings), adferiadau dros dro a choronau. Mae angen i chi weithgynhyrchu'r adferiadau lliw dant sengl sydd wedi'u rhagnodi a'u gorffen nhw yn barod i'w ffitio yng ngheg yr unigolyn. Mae cast yn ffurf gadarnhaol, gywir yn ddimensiynol, o ardaloedd o geudod y geg wedi'i gynhyrchu o argraff negyddol. Mae dei yn ddarn o gast o ddant unigol.

Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r ddyfais ddeintyddol a wneir yn bwrpasol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir yr adferiad a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  5. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  6. casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r adferiadau lliw dant sengl
  7. cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
  8. dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
  9. gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
  10. gweithgynhyrchu'r adferiadau lliw dant sengl gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
  11. monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu fel bo'r angen
  12. tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
  13. gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
  14. danfon yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  15. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
  7. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
  10. cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol perthnasol
  11. yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
  12. strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
  13. anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
  14. etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
  15. y newidiadau ffisiolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
  16. pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
  17. y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
  18. egwyddorion ac ymarfer:

    • argysylltiad
    • estheteg a seineg 
  19. egwyddorion dylunio adferiadau

  20. cyfansoddion adferiadau (trosgaenau, coronau, pyst a chreiddiau, mewnosodiadau) a sut y cânt eu gwneud
  21. dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
  22. priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau
  23. cynnyrch ar gyfer gweithgynhyrchu castiau a mowldiau
  24. cwyrau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu adferiadau
  25. deunyddiau adferol esthetig
  26. y berthynas rhwng asiadau cemegol a phriodweddau deunyddiau solet
  27. deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
  28. dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol 
  29. pwysigrwydd cyfathrebu â phobl eraill berthnasol
  30. dulliau o amddiffyn rhag halogiad a rheoli heintiau wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg; pam mae'n bwysig gwneud hynny
  31. egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
  32. dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
  33. effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
  34. sut i sicrhau cydymffurfiad â rheoliadau statudol y Deyrnas Unedig ar gyfer Dyfeisiau Deintyddol a Wnaed yn Bwrpasol.
  35. yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
  36. dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
  37. dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
  38. dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
  39. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  40. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHOH23

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Deintyddol

Cod SOC

3218

Geiriau Allweddol

Adferiadau, lliw, dant, sengl; digidol