Rhoi gwybodaeth a chymorth i unigolion ar iechyd y geg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi gwybodaeth a chymorth ar wasanaethau deintyddol i helpu unigolion i wella a chynnal iechyd y geg. Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol mewn ffyrdd sy'n dangos cydraddoldeb, parch ac urddas a rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i unigolion.
Gellir cynnal triniaethau deintyddol mewn practisau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol cyhoeddus, lleoliadau ysbyty, yn y cartref neu amgylcheddau ansafonol eraill.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1.Cael caniatâd dilys, ar sail gwybodaeth gan unigolion yn unol â safonau proffesiynol a gweithdrefnau’r gweithle
2.Cyfathrebu ag unigolion mewn ffyrdd sy'n diwallu eu hanghenion ac yn dangos cydraddoldeb, parch ac urddas
3.Rhoi gwybodaeth a chymorth, fel y rhagnodwyd, i unigolion ar ffactorau a allai arwain at iechyd gwael y geg, yn unol â chanllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
4.Rhoi gwybodaeth a chymorth, fel y rhagnodwyd, i unigolion ar negeseuon allweddol iechyd y geg i atal pydredd dannedd a chlefyd periodontol yn unol â chanllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
5.Paratoi a chymhwyso cymhorthion addysg iechyd y geg i unigolion i hyrwyddo newid ymddygiad yn unol â gweithdrefnau’r gweithle
6.Dangos technegau hylendid y geg i unigolion fel y rhagnodir gan weithredwyr clinigol, gan gynnwys:
brwsio dannedd a glanhau rhwng y dannedd cyfryngau datgelu gofalu am brosthesisau/dyfeisiau orthodontig
7.Rhoi cyfleoedd i unigolion drafod a cheisio eglurhad ar bob agwedd ar ofal iechyd y geg yn unol â gweithdrefnau’r gweithle
8.Rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i unigolion mewn ffyrdd sy'n gyson ag aelodau eraill o dîm gofal iechyd y geg ac o fewn eich cwmpas ymarfer
9.Cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth yn unol â deddfwriaeth, canllawiau a gweithdrefnau gweithle perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1.Egwyddorion, arfer a gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad ar sail gwybodaeth
2.Gwahanol ddulliau cyfathrebu a sut i gymhwyso'r rhain
3.Pwysigrwydd ystyried dewisiadau, anghenion a gwerthoedd unigolion wrth gyfathrebu
4.Rhwystrau rhag cyfathrebu effeithiol a sut i oresgyn y rhain
5.Prif fathau ac achosion clefyd y geg a sut i'w hatal
6.Achosion colli arwyneb dannedd heb bydredd a dulliau ei reoli
7.Sut mae plac dannedd yn datblygu a dulliau o reoli hyn
8.Ffyrdd y gellir atal a lleihau pydredd dannedd a chlefyd periodontol gan gynnwys technegau effeithiol hylendid y geg
9.Gwahanol ffynonellau, mathau a'r lefelau gorau posibl o fflworid wrth atal clefyd dannedd
10.Ffyrdd y gall iechyd cyffredinol effeithio ar iechyd y geg
11.Dulliau, technegau, cyfryngau neu ddeunyddiau i atal pydredd dannedd
12.Natur a dilyniant clefyd dannedd a chlefyd y geg
13.Ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, seicolegol ac amgylcheddol sy'n cyfrannu at anghydraddoldeb o ran iechyd y geg ac iechyd cyffredinol
14.Negeseuon allweddol iechyd y geg a chanllawiau cysylltiedig sy'n seiliedig ar dystiolaeth a sut i gymhwyso'r rhain wrth roi gwybodaeth a chymorth i unigolion
15.Sut mae ymddygiadau unigol yn effeithio ar iechyd y geg ac iechyd cyffredinol
16.Dulliau o ofalu am brosthesisau sefydlog a datodadwy a dyfeisiau orthodontig
17.Systemau a phrosesau sydd ar gael i gefnogi lles a gofal diogel i chi’ch hun ac eraill
18.Cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd o fewn eich swydd
19.Y rhesymau pam y gellir cyfeirio unigolion at bobl eraill berthnasol, gan gynnwys defnydd priodol o rwydweithiau gofal sylfaenol ac eilaidd
20.Pam mae'n bwysig diweddaru dogfennaeth a storio cofnodion unigolion yn ddiogel