Ail-leinio, ail-sylfaenu, atgyweirio ac addasu prosthesisau symudadwy
Trosolwg
Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar ail-leinio, ail-sylfaenu, atgyweirio ac addasu prosthesisau symudadwy. Bydd angen i chi baratoi'r amgylchedd gwaith, ac ail-leinio ac ail-sylfaenu prosthesis symudadwy pan na fydd yn ffitio mwyach. Mae ail-leinio ac ail-sylfaenu'n cynnwys ychwanegu deunydd polymerig pellach at y prosthesis presennol i sicrhau'r ffit ofynnol. Mae hyn yn golygu bod angen i chi nodi ymhle y mae angen polymerig ychwanegol a faint ohono y mae ei angen trwy greu cast o argraff a gymerwyd gan y clinigwr gan ddefnyddio'r prosthesis presennol fel cafn.
Mae atgyweirio prosthesis sydd wedi torri neu ei ddifrodi yn gofyn i chi gydosod gweddill rhannau'r prosthesis a gwerthuso a yw'n bosibl ei atgyweirio'n effeithiol. Gellir gwneud y gwerthusiad hwn yn uniongyrchol gyda'r unigolyn neu heb i'r unigolyn fod yn bresennol. Os yw'n bosibl atgyweirio'n effeithiol heb yr angen am atgyfeirio i'r deintydd er mwyn cael argraff, bydd angen i chi drafod cost yr atgyweirio a chael cydsyniad yr unigolyn er mwyn i'r atgyweirio fynd yn ei flaen.
Bydd angen cast, a all gael ei arllwys o weddill darnau'r prosthesis wedi'u cydosod eto (os yw'r cyfan ohonynt ar gael) neu, os bydd rhannau ar goll, bydd y clinigwr yn rhoi'r darnau at ei gilydd eto, eu gosod yng ngheg yr unigolyn a chymryd argraff (argraff in-situ). Mae addasu prosthesis presennol yn cynnwys amnewid neu ychwanegu cydrannau, gan gynnwys dannedd, gafaelynnau neu ymestyn y sylfaen a'r ffedogau presennol. Eto, bydd angen castiau a all gael eu ffurfio fel ar gyfer ail-leinio ac ail-sylfaenu, neu bydd y clinigwr yn ffitio'r prosthesis presennol yng ngheg yr unigolyn ac yn cymryd argraff.
Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi ail-leinio, ail-sylfaenu, atgyweirio neu addasu'r prosthesis. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y prosthesis a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- sicrhau bod yr argraff sy'n dod i law wedi cael ei lanhau'n effeithiol
- arllwys deunydd y cast i'r argraff a chynhyrchu cast sydd heb wagleoedd na diffygion gweladwy eraill
- mynegeio'r cast er mwyn ei ail-sylfaenu neu ei ail-leinio
- tynnu'r argraff mewn ffordd sy'n cynnal cywirdeb y cast ac sy'n tarfu cyn lleied â phosibl ar y dannedd
- tynnu trwch priodol o ddeunydd o arwyneb gosod y prosthesis a siapio'r prosthesis yn briodol i gynhyrchu digon o asio ar gyfer y deunydd newydd
- gwerthuso dimensiwn fertigol achludol y cast yn erbyn y mynegai a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
- ychwanegu cyfrwng rhyddhau at arwynebau paru i'w gwneud hi'n hawdd eu gwahanu'n effeithiol
asesu'r darnau sydd wedi'u cydosod eto a phenderfynu p'un ai i:
- ofyn am argraff gyda'r prosthesis wedi'i ail-gydosod yn ei le
- mae angen argraff newydd fel y gall y prosthesis gael ei atgyweirio
- nid yw'n bosibl atgyweirio'r prosthesis difrodedig
atgyweirio'r prosthesis symudadwy, gosod y darnau hynny o'r prosthesis symudadwy y mae'n bosibl eu hailgydosod yn eu perthynas gywir a'u huno wrth ei gilydd
- gwahanu'r cast rhag yr argraff, ail-gydosod y darnau neu ychwanegu at y prosthesis
- tynnu'r prosthesis wedi'i atgyweirio o'r mowldiau heb achosi difrod iddo ar ôl y prosesu a thocio unrhyw ddeunydd gormodol
- glanhau'r darnau o'r prosthesis yn effeithiol a'u paratoi i'w huno
- sicrhau eich bod yn uno cydrannau'n gywir wrth y pwyntiau cywir i lunio uniadau diogel, cryf a hyfyw
- archwilio'r cast i nodi safle a maint tandoriadau, penderfynu ar lwybr gosod priodol ar gyfer y prosthesis arfaethedig a blocio unrhyw dandoriadau anaddas
- ychwanegu dargadwad mecanyddol ychwanegol at y prosthesis os oes ei angen a pharatoi'r arwynebau'n briodol ar gyfer yr addasiad a wneir
- addasu'r prosthesis, dewis a pharatoi neu ail-wneud cydrannau i newid natur ac adeiledd y prosthesis symudadwy fel ei fod yn cyd-fynd â deintiad naturiol yr unigolyn
- gosod cydrannau polymerig neu fetelig newydd neu ychwanegol yn y lle cywir ar y prosthesis a'u huno'n ddiogel gyda swm priodol o ddeunydd uno
- cymysgu resin a monomer a'u prosesu yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr
- ychwanegu resin polymerig gan ddefnyddio'r dechneg gywir i gael y siâp a'r trwch gofynnol i sicrhau ei fod yn ffitio
- ffitio'r prosthesis wedi'i docio a'i lathru at y cast ac ailosod y castiau ar argysylltydd priodol, lle bo angen
- asesu'r prosthesis sydd wedi'i argysylltu, cadarnhau bod yr achludiad yn briodol i'r presgripsiwn a deintiad naturiol yr unigolyn, gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i gynnal dimensiwn fertigol gwreiddiol yr achludiad
- gwerthuso'r prosthesis gorffenedig i sicrhau ei fod yn addas at ei ddiben
- glanhau'r prosthesis gorffenedig yn effeithiol, nodi cyfeirnod unigryw'r unigolyn arno a'i becynnu'n ddiogel i'w anfon, ynghyd ag unrhyw gyfarwyddiadau i'r unigolyn a/neu'r cleient
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
- strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
- anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
- etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
- y newidiadau ffisolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
- pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
- y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
- yr ymateb emosiynol gan yr unigolyn i golli dannedd
rôl prosthesisau symudadwy wrth adfer a chynnal a chadw:
- ategiad meinweoedd
- estheteg
- seineg
- swyddogaeth achludiad a'r cymal arlais-fandiblol
pwysigrwydd adfer a chynnal a chadw'r dimensiwn fertigol achludol
- buddion a chyfyngiadau ailosod dannedd yn syth wrth ddarparu prosthesisau symudadwy
- buddion a chyfyngiadau cadw adeileddau gwreiddiau wrth ddarparu prosthesisau symudadwy
- y defnydd o brosthesisau symudadwy dros dro a'r angen amdanynt
- diben leininau hydwyth a chyflyryddion meinwe, a'r defnydd ohonynt
- cyfyngiadau dylunio tandoriadau blaen mawr a chyflyrau deintyddol sydd eisoes yn bodoli
egwyddorion ac ymarfer:
- dargadwad a sefydlogrwydd
- estheteg a seineg
- argysylltiad
egwyddorion dyluniad prosthesis symudadwy rhannol
- dulliau o addasu a chynnal a chadw prosthesisau symudadwy
- dulliau o atgyweirio prosthesisau symudadwy
- ail-leinio ac ail-sylfaenu
- dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
- priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau
- cynnyrch ar gyfer gweithgynhyrchu castiau a mowldiau
- cwyrau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu prosthesisau symudadwy
- polymerau deintyddol
- nodweddion strwythurol cadwyni polymer
- polymerau sylfaen deintiol
- deunyddiau dannedd artiffisial
- deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
- aloiau deintyddol
- deunyddiau gwrthsafol deintyddol
- dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig ag ail-leinio, ail-sylfaenu ac atgyweirio dyfeisiau
- dulliau o reoli haint wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg
- y rhesymau dros gynnal cofnodion trwy gydol y broses a nodi'r cynnyrch a ddefnyddiwyd yn ystod y broses weithgynhyrchu yn glir
- egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
- dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
- effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
- yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
- dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
- dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
- dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel