Dylunio a gweithgynhyrchu prosthesisau symudadwy cyflawn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar ddylunio a gweithgynhyrchu prosthesisau symudadwy cyflawn – dannedd gosod polymerig a wnaed gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol. Mae'r rhain yn ddyfeisiau deintyddol a wneir yn bwrpasol i ffitio siâp ceg unigryw'r unigolyn ac sy'n disodli'r set gyflawn o ddannedd uchaf a/neu isaf. Gall y prosthesis gynnwys amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- dull dargadw
- estheteg, gan gynnwys creu trosblat
- gradd yr achludiad, gan gynnwys defnyddio trosgaenau, gorfrathiad dwfn
- y gofyniad am fân argáu
- cysylltion sy'n cael eu cynnal gan fewnblaniadau.
Gall y prosthesisau symudadwy fod yn newydd, disodli hen rai, yn rhai parod neu'n rhai dyblyg a gallant gynnwys leininau hydwyth. Mae angen i chi ddylunio a gweithgynhyrchu prosthesis enghreifftiol, addasu'r rhain lle bo'r angen ar ôl defnyddio'r dannedd gosod ar brawf ac yna gweithgynhyrchu a gorffen y prosthesis symudadwy cyflawn terfynol.
Defnyddir y term 'cleient' i olygu'r aelod o'r tîm gofal iechyd y geg sydd wedi rhagnodi'r prosthesis a wneir yn bwrpasol. Gall cleientiaid ddod o'r tu allan i'r sefydliad (fel labordai eraill, ymarferwyr deintyddol, ysgolion hyfforddi) neu gallant fod yn fewnol (mewn ysbyty deintyddol). Yr unigolyn yw'r sawl y gwneir y ddyfais ddeintyddol a wneir yn bwrpasol ar ei gyfer.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- casglu holl wybodaeth y fanyleb ynghyd sy'n ofynnol i ddylunio a gweithgynhyrchu'r prosthesisau symudadwy cyflawn
- cadarnhau cywirdeb y fanyleb gyda phobl eraill berthnasol
- dewis y cydrannau, y deunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol a chadarnhau eu bod yn addas at y diben
- gosod y cyfarpar gweithgynhyrchu yn unol â'r fanyleb
- gweithgynhyrchu'r prosthesisau symudadwy cyflawn gan ddefnyddio dulliau a thechnegau priodol
- monitro'r broses weithgynhyrchu a'i haddasu, fel y bo angen
- tynnu neu adfer y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu gan ddefnyddio dull priodol sy'n rhyddhau'r eitem heb achosi difrod
- gwirio bod y cynnyrch wedi'i weithgynhyrchu yn cyfateb i'r fanyleb a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- egwyddorion dylunio a gweithgynhyrchu digidol, a'r defnydd ohonynt
- cyfarpar, dulliau a thechnegau gweithgynhyrchu digidol
- yr anatomi ysgerbydol, ffisioleg y pen a'r gwddf a morffoleg dannedd
- strwythur, swyddogaeth a symudiad y cyhyrau orowynebol, gan gynnwys y tafod a'r cymal arlais-fandiblol
- anhwylderau a chlefydau sy'n effeithio ar geudod y geg
- etioleg a dosbarthiadau camachludiadau
- y newidiadau ffisolegol a phatholegol sy'n gysylltiedig â'r broses heneiddio a thrawma yn gysylltiedig ag amgylchedd y geg
- pwysigrwydd dargadw'r ligament periodontol a'r newidiadau mewn ystumganfod (proprioception) oherwydd colli'r ligament periodontol
- y ffactorau ehangach (cymdeithasegol, ymddygiadol, amgylcheddol ac economaidd) sy'n cyfrannu at iechyd a salwch y geg
- yr ymateb emosiynol gan yr unigolyn i golli dannedd
rôl prosthesisau symudadwy wrth adfer a chynnal a chadw:
- ategiad meinweoedd
- estheteg
- seineg
- swyddogaeth achludiad a'r cymal arlais-fandiblol
pwysigrwydd adfer a chynnal a chadw'r dimensiwn fertigol achludol
- buddion a chyfyngiadau ailosod dannedd yn syth wrth ddarparu prosthesisau symudadwy
- buddion a chyfyngiadau cadw adeileddau gwreiddiau wrth ddarparu prosthesisau symudadwy
- y defnydd o brosthesisau symudadwy dros dro
- diben leininau hydwyth a chyflyryddion meinwe, a'r defnydd ohonynt; effaith yr amgylchedd in vivo ar berfformiad hirdymor leininau; halogiad microbaidd leininau, effaith topograffeg arwyneb ar berfformiad in vivo
- cyfyngiadau dylunio tandoriadau blaen mawr a chyflyrau deintyddol sydd eisoes yn bodoli
- defnyddio mesurydd deintyddol a nodi tandoriadau defnyddiadwy ac annefnyddiadwy yn nyluniad y dannedd gosod rhannol a gosodiad y gafaelyn
egwyddorion ac ymarfer:
- dargadwad a sefydlogrwydd
- estheteg a seineg
- argysylltiad
dosbarthiad ac isddosbarthiad deunyddiau ar sail cyfansoddiad cemegol a strwythur mewnol
- priodweddau mecanyddol, ffisegol, thermol, cemegol a biolegol deunyddiau
- cynnyrch ar gyfer gweithgynhyrchu castiau a mowldiau
- cwyrau neu ddefnyddiau tebyg a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu prosthesisau symudadwy
- polymerau deintyddol
- nodweddion strwythurol cadwyni polymer:
- polymerau sylfaen dannedd gosod
- deunyddiau dannedd artiffisial
- deunyddiau argraff, dyblygu a glanhau
- dulliau o ddatblygu, cynnal a gwella cyfathrebu a gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
- dulliau o reoli haint wrth drin argraffau sy'n dod i law ac eitemau eraill a fuodd, efallai, yn y geg neu y bwriedir eu rhoi yn y geg
- egwyddorion sicrhau ansawdd, gan gynnwys cofnodi a samplu yn effeithiol; prosesau a gweithdrefnau ar gyfer sicrhau ansawdd yn eich gweithle
- dulliau o osod a graddnodi cyfarpar a phrofi bod hyn yn gywir
- effeithiau addasu cynnyrch gweithgynhyrchwyr i fodloni gofynion y labordy ar briodweddau ffisegol cynnyrch ac ar gynnyrch y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau, a goblygiadau cyfreithiol gweithgynhyrchu gwael
- yr amrywiaeth o gyfarpar a ddefnyddir i ddylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol
- dulliau o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel, gan gynnwys defnyddio cemegion a sylweddau peryglus eraill
- dulliau o storio cyfarpar a deunyddiau gwahanol yn ddiogel
- dulliau glanhau a chynnal a chadw gwahanol fathau o gyfarpar
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel