Gosod dyfeisiau prosthetig deintyddol wrth ochr y gadair
URN: SFHOH13
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymarfer diogel gosod, gwerthuso ac addasu dyfeisiau prosthetig deintyddol er mwyn gwella achludiad, estheteg neu swyddogaeth. Gall yr amrywiaeth o ddyfeisiau gynnwys adferiadau symudadwy (dannedd gosod cyflawn a rhannol), adferiadau sefydlog (coronau a phontydd) a gorchuddion deintgig. Gall hwn fod yn ffitiad prawf neu ffitiad dyfais gyflawn neu orffenedig. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- nodi cyflyrau clinigol rhagdueddol a allai effeithio ar osod y prosthesis, gan gyfrif am ddiogelwch, cyflwr emosiynol a chysur yr unigolyn
- trafod y gweithdrefnau arfaethedig gyda'r unigolyn mewn ffordd a fydd yn lleihau unrhyw bryder ac yn rhoi tawelwch meddwl
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau
- paratoi'r cyfarpar a'r deunyddiau y bydd eu hangen arnoch, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- sicrhau bod yr unigolyn yn eistedd yn gyfforddus a'i fod yn y safle priodol ar gyfer y weithdrefn
archwilio a gwerthuso'r prosthesis y tu mewn a'r tu allan i'r geg o safbwynt:
- dargadwad a sefydlogrwydd
- cydberthynas achludol
- y cysur i'r unigolyn
- golwg esthetig
- yr effaith ar seineg
- y gyfatebiaeth a chofnod y gwiriad canoli ymlaen llaw
cynnwys yr unigolyn yn y gwerthusiad i sicrhau bod y prosthesis yn bodloni ei anghenion
- addasu'r prosthesis, lle bo angen ,ac ailadrodd y dannedd gosod ar brawf a'r gwerthusiadau hyd nes byddwch chi a'r unigolyn yn fodlon
- esbonio cam nesaf y broses wrth yr unigolyn a chadarnhau ei fod wedi deall
- lle y bo'n briodol, esbonio a thrafod gweithdrefnau cynnal a chadw a hylendid y geg gyda'r unigolyn, a chynghori ar unrhyw driniaeth ddilynol
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- pwysigrwydd cymhwyso rhagofalon rheoli heintiau safonol i gymryd argraffau, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- anatomi a ffisioleg berthnasol y geg yn gysylltiedig â cheudodau'r genau, argysylltiad ac achludiad
- ymarfer a gweithdrefnau clinigol yn gysylltiedig ag addasu dyfeisiau deintyddol prosthodontig sefydlog a/neu ddyfeisiau deintyddol prosthodontig symudadwy a wnaed yn bwrpasol, a'r amrywiaeth o addasiadau y gellir eu gwneud
- sut i reoli ac integreiddio gweithdrefn addasiadau prawf i ddyfais i gynorthwyo â darparu prosthesisau deintyddol esthetig, gweithredol a/neu ffonetig yn unol â gofynion neu anghenion unigol
- y datblygiadau ym maes dynameg achludol fel y bo'n briodol i ddyfeisiau deintyddol a wnaed yn bwrpasol
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHOH13
Galwedigaethau Perthnasol
Technegwyr Deintyddol
Cod SOC
3218
Geiriau Allweddol
Gosod, dyfeisiau, prosthetig, deintyddol, wrth ochr y gadair