Cymryd cofnod crymyn wyneb ar gyfer gweithdrefn ddeintyddol
URN: SFHOH11
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymarfer diogel cymryd cofnodion crymyn wyneb uniongyrchol er mwyn cynhyrchu cofnodion trosglwyddo, fel y bo angen, ar gyfer gosod castiau ar argysylltwyr. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- nodi cyflyrau clinigol rhagdueddol a allai effeithio ar ddefnyddio crymyn wyneb ar wyneb yr unigolyn, gan gyfrif am ddiogelwch yr unigolyn a/neu ofynion cywirdeb
- penderfynu ar dechneg addas a diogel yn gysylltiedig â'r math o grymyn wyneb i'w ddefnyddio, ac a yw'r unigolyn heb ei ddannedd ei hun, heb ei ddannedd ei hun yn rhannol, neu a oes gan yr unigolyn ei ddannedd ei hun
- esbonio'r weithdrefn yn glir i'r unigolyn
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau
- paratoi'r cyfarpar y mae ei angen ac unrhyw ddeunyddiau ategol, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- gosod yr unigolyn yn gyfforddus ar gyfer y weithdrefn a sicrhau bod tiwbiau'r glust a meinweoedd yr wyneb wedi'u hamddiffyn
- nodi nodweddion anatomegol perthnasol a gosod y crymyn wyneb, a'i leoli'n briodol ar wyneb yr unigolyn
- addasu'r fforc gofnodi achludol a dangosydd llinell sylfaen orbitol ar y crymyn wyneb a'i gloi yn ei le i gael cofnod cywir, gan ofalu'n briodol am feinweoedd yr unigolyn
- tynnu'r crymyn wyneb oddi ar yr unigolyn a gwirio'r cofnod am gywirdeb a chwmpas
- trafod y cofnod gyda'r unigolyn ac esbonio'r cam nesaf yn y broses
- dihalogi'r crymyn wyneb
- cysylltu cofnod y crymyn wyneb ag unrhyw gofnodion mewneneuol cysylltiedig
- cymryd rhagofalon priodol i storio'r cofrestriad mewn cynhwysydd priodol a fydd diogelu'r cofnod hyd nes caiff ei ddefnyddio
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun, fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- pwysigrwydd cymhwyso rhagofalon rheoli heintiau safonol i gymryd cofnodion o'r geg, a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- anatomi a ffisioleg berthnasol yn gysylltiedig â'r cymal arlais-fandiblol (TMJ) a nodweddion y wyneb ac anhwylderau cysylltiedig
- yr amrywiaeth o systemau crymyn wyneb sydd ar gael ar hyn o bryd
- ymarfer a gweithdrefnau clinigol yn gysylltiedig â chymryd cofnod crymyn wyneb ar unigolyn â dannedd, â dannedd yn rhannol a heb ei ddannedd ei hun
- sut i reoli ac integreiddio gweithdrefn cofnodi crymyn wyneb i gynorthwyo â darparu prosthesisau deintyddol ymarferol ac esthetig (sefydlog a symudadwy) yn unol â gofynion neu anghenion unigol
- sut i fesur symudiadau cysylltiedig gyda chrymynnau wyneb hybrid
- datblygiadau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu o ran cofnodi agweddau ar leoliad TMJ
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHOH11
Galwedigaethau Perthnasol
Technegwyr Deintyddol
Cod SOC
3218
Geiriau Allweddol
Cofnod, crymyn, wyneb, uniongyrchol, gweithdrefn, deintyddol