Cael arlliw uniongyrchol o feinweoedd unigolyn i gynhyrchu cyfatebiaeth ar gyfer dyfeisiau prosthetig deintyddol
URN: SFHOH10
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymarfer diogel cael arlliwiau uniongyrchol o feinweoedd unigolion, yn benodol, dannedd a meinweoedd meddal, er mwyn cynhyrchu gwybodaeth yn gysylltiedig â darparu dyfeisiau prosthetig deintyddol neu debyg gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol.
Gall fod angen arlliwiau dannedd a meinweoedd medal ar gyfer coronau a phontydd sefydlog, dannedd gosod llawn, dannedd gosod rhannol, neu ychwanegiadau at ddannedd gosod presennol. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- nodi unrhyw gyflyrau clinigol rhagdueddol a allai effeithio ar ddefnyddio systemau cael arlliw, gan gyfrif am ddiogelwch cyflwr emosiynol a chysur yr unigolyn
- penderfynu ar dechneg addas a diogel yn gysylltiedig â'r math o system cael arlliw, ac a yw'r unigolyn heb ei ddannedd ei hun, heb ei ddannedd ei hun yn rhannol, neu a oes gan yr unigolyn ei ddannedd ei hun
- defnyddio technegau digidol ar gyfer cael arlliw i gynhyrchu cyfatebiaeth ar gyfer dyfeisiau prosthetig deintyddol
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau
- ystyried cywirdeb y golau ar gyfer y weithdrefn, gan ystyried yr amgylchedd o'ch cwmpas, a chymryd y camau priodol
- trwy drafodaeth, sefydlu a chofnodi anghenion a gofynion yr unigolyn
- paratoi'r unigolyn, y cyfarpar y mae ei angen ac unrhyw ddeunyddiau ategol, a chynghori'r unigolyn ar sut i gymryd rhan yn ystod y weithdrefn
- gosod tab yr arlliw yn erbyn y brif ardal, dewis y gyfatebiaeth briodol a chofnodi'r canlyniad neu gofnodi prif gorff y dant yn gywir
- gosod tab yr arlliw yn erbyn ardaloedd eraill o'r feinwe neu'r dant, dewis y gyfatebiaeth briodol a chofnodi'r canlyniad yn gywir, neu gofnodi arlliwiau'r ardaloedd eraill yn ddigidol
- lle y bo'n briodol, dewis gwead arwyneb trwy gymhariaeth briodol a dewis nodwedd gwerth arwyneb i gyfateb i anghenion cytunedig yr achos
- trafod a chytuno ar y canfyddiadau gyda'r unigolyn ac esbonio gweithdrefnau'r driniaeth ddilynol
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- pwysigrwydd cymhwyso rhagofalon rheoli heintiau safonol i gymryd arlliwiau a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- anatomi a ffisioleg berthnasol y geg yn gysylltiedig â strwythur dannedd a lliwiau meinweoedd
- yr amrywiaeth o systemau cael arlliwiau sydd ar gael ar hyn o bryd
- yr ymarfer a'r gweithdrefnau clinigol sy'n gysylltiedig â chymryd arlliw dannedd neu feinweoedd meddal â llaw, cymryd nodwedd arwyneb dannedd neu feinweoedd meddal; cymryd y gwerth sy'n gysylltiedig â dannedd neu feinweoedd meddal
- effeithiau mathau o olau a gwerthoedd golau ar gael arlliwiau ac effeithiau amodau allanol, gan gynnwys lliwiau yn yr amgylchedd
- y datblygiadau mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), gan gynnwys cyfarpar delweddu, o ran cofnodi agweddau ar arlliw, gwead a sglein
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â thechnegau digidol ar gyfer cael arlliw
- sut i reoli ac integreiddio gweithdrefn arlliw, nodweddion arwyneb a sglein i helpu i ddarparu prosthesisau deintyddol esthetig (sefydlog a symudadwy) yn unol â gofynion neu anghenion unigol
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHOH10
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrsys Deintyddol, Gofal iechyd y geg, Technegwyr Deintyddol
Cod SOC
3218
Geiriau Allweddol
Arlliw, meinwe, cyfatebiaeth, deintyddol, dyfais, prosthetig; digidol