Paratoi a chynnal amgylcheddau, offer a chyfarpar ar gyfer gweithdrefnau deintyddol clinigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynnal a chadw amgylcheddau, offerynnau a chyfarpar ar gyfer gweithdrefnau deintyddol clinigol, a rheoli haint a thraws-heintiad. Mae'n cynnwys glanhau yn gyffredinol, paratoi'r deunyddiau priodol ar gyfer gweithdrefnau clinigol, delio â gwastraff a gollyngiadau, cynnal a chadw arferol, rheoli stoc a sterileiddio.
Bydd angen i chi wybod am wahanol ddulliau glanhau, atal a rheoli heintiau, a sterileiddio, pryd y dylai'r rhain gael eu defnyddio a pham, a chanlyniadau posibl peidio â gweithredu.
Mae'r safon hon yn berthnasol i aelodau'r tîm gofal iechyd y geg sy'n gyfrifol am baratoi a chynnal a chadw amgylcheddau ar gyfer gweithdrefnau deintyddol clinigol, p'un a yw'r rhain mewn ysbyty, deintyddfa neu yn y gymuned.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau na allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau a chymryd camau iechyd a diogelwch priodol eraill
- gwisgo'r cyfarpar diogelu personol priodol bob amser yn ystod gweithdrefnau glanhau a sterileiddio a chynnal hylendid personol
- sicrhau bod yr amgylchedd lle bydd y gweithdrefnau'n cael eu cynnal yn lân ac yn daclus, a'i fod yn caniatáu am arferion gweithio diogel bob amser
- defnyddio cyfarpar a deunyddiau glanhau sy'n briodol i'r eitemau neu'r arwyneb i'w glanhau, a'r lefel lendid ofynnol, yn gywir ac yn ddiogel
- glanhau a chynnal y cyfarpar allsugno yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- glanhau, cynnal a chadw, a diheintio'r llinellau dŵr a'r cyfarpar storio dŵr yn unol â gofynion y sefydliad
- paratoi'n llawn offerynnau, cyfarpar, deunyddiau a meddyginiaethau sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithdrefnau a gynlluniwyd fel eu bod yn ddiogel ac yn barod
- sicrhau bod y cyfarpar yn gweithredu'n gywir a chymryd y camau priodol pan nad ydyw
- defnyddio cyfarpar mewn ffordd sy'n gyson â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'i adael yn barod i'w ailddefnyddio
- addasu'r gwresogi, y goleuo, yr awyru a'r lleithder yn briodol i fodloni anghenion y weithdrefn a'r unigolyn
- defnyddio dulliau o reoli haint sy'n briodol i:
- yr amgylchedd
- natur y weithdrefn ddeintyddol glinigol
- paratoi a thrafod offerynnau a theclynnau llaw i'w diheintio mewn ffordd sy'n lleihau perygl i chi'ch hun ac i eraill
- cynnal gweithdrefnau sterileiddio priodol yn y drefn gywir ac am yr hyd cywir, gan gynnwys rhag-lanhau offerynnau, paratoi blychau offerynnau, gweithredu'r ffwrn aerglos a thynnu offerynnau ar yr adeg gywir yn ystod y cylchred
- rhoi gwybod am unrhyw beryglon, problemau neu dystiolaeth o gyflyrau heintus posibl i'r person priodol cyn gynted â phosibl
- gwneud cyfarpar a deunyddiau'n ddiogel a sicr a'u gadael ar y lefel lendid gywir, ac yn y lleoliad cywir, ar ôl cwblhau'r gweithdrefnau
- pecynnu a storio eitemau wedi'u sterileiddio yn gywir, gan ddefnyddio'r math mwyaf priodol o gyfrwng pecynnu a chynnal cyfanrwydd y pecynnu
- sicrhau bod cyflenwadau digonol o stoc ar gael ar gyfer gweithdrefnau clinigol
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- egwyddorion ac achosion haint a thraws-heintiad
- micro-organebau – ystyr ac arwyddocâd y termau pathogenaidd ac amhathogenaidd
- cyflyrau heintus posibl, beth yw'r rhain, y camau priodol i'w cymryd a pham y dylid rhoi gwybod am y rhain
- egwyddorion gwyddonol sterileiddio, asepsis, diheintio a glendid cymdeithasol, a'r gwahaniaeth rhyngddynt, a sut mae pob un ohonynt yn gysylltiedig â'r unigolyn, y lleoliad, y weithdrefn a'r cyfarpar
- beth yw ystyr rhagofalon safonol a sut mae hyn yn cael ei gymhwyso wrth baratoi amgylcheddau, gan gynnwys creu parthau a rhwystrau amddiffynnol
- egwyddorion ac ymarfer Rhagofalon Safonol Rheoli Heintiadau (SICPs)
- pryd y gall fod angen cynnal gweithdrefnau steril, aseptig a di-haint, a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny
- arferion hylendid da a dulliau o gynnal hylendid da
- glanhau'r dwylo'n effeithiol a dulliau o gyflawni hyn
- y cyfryngau glanhau sy'n briodol i wahanol arwynebau
- y mathau o ddihalogyddion a'u priodweddau, pryd y cânt eu defnyddio a pham
- dulliau o lanhau gwahanol fathau o gyfarpar, offer a theclynnau llaw a'r gwahanol weithgareddau sy'n briodol i bob un ohonynt
- dulliau sterileiddio, y mathau o sterilyddion sy'n cael eu defnyddio a'u perthynas â'r gwahanol gyfarpar/offerynnau, gan gynnwys eitemau wedi'u pacio ymlaen llaw a gwaredu gwastraff
- dulliau profi i ddangos bod ffyrnau aerglos a chyfarpar arall yn gweithredu'n effeithiol
- y drefn a'r hyd cywir ar gyfer gwahanol fathau o sterileiddio
- y gwahanol fathau o becynnu a storio offerynnau a theclynnau llaw wedi'u sterileiddio a pha ddulliau sy'n briodol i ba amgylchiadau
- canlyniadau posibl defnyddio nwyddau steril wedi'i difrodi neu a ddefnyddiwyd eisoes
- dulliau o drafod eitemau yn ddiogel â llaw, cyn ac ar ôl sterileiddio, a'r rhesymau dros hyn
- y camau sy'n briodol i'w cymryd pan na fydd cyfarpar sterileiddio yn gweithio ar y lefel orau bosibl
- dibenion cadw'r amgylchedd clinigol mor rhydd rhag annibendod ac mor lân â phosibl
- y rhesymau dros gadw'r gwresogi, y goleuo a'r awyru yn briodol i'r driniaeth a'r effeithiau y gallant eu cael ar heintio a thraws-heintiad
- amgylcheddau diogel a sicr – beth mae hyn yn ei olygu i ardaloedd triniaeth a'r peryglon sy'n gynhenid ynddynt
- yr offerynnau, y cyfarpar, y deunyddiau a'r meddyginiaethau a all fod yn angenrheidiol ar gyfer gwahanol driniaethau a dulliau cywir o baratoi'r rhain
- pam y dylid rhoi gwybod am fethiannau i offerynnau, cyfarpar, deunyddiau a meddyginiaethau
- diben a dulliau cywir paratoi a thrafod â llaw yr amrywiaeth o gyfarpar, offerynnau, deunyddiau a meddyginiaethau a ddefnyddir ym maes deintyddiaeth
- sut i ddefnyddio a chynnal a chadw allsugnydd
- y rhesymau dros gynnal a chadw a diheintio llinellau dŵr a chyfarpar storio dŵr, a pha mor aml y dylid gwneud hyn
- y gofynion cyfreithiol a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ynghylch gwasanaethu'r cyfarpar, gan gynnwys cofnodi a chynnal cyfnodau rhwng gwasanaeth
- y gwahanol fathau o wastraff a gollyngiadau, gan gynnwys y rhai a all fod yn arbennig o berthnasol i'r weithdrefn a'r lleoliad
- y gweithdrefnau ar gyfer cael gwared ar eitemau steril wedi'u pecynnu ymlaen llaw, sydd wedi'u difrodi
- peryglon peidio â gwaredu ar wastraff a gollyngiadau yn y ffyrdd cywir
- pam mae angen rhoi gwybod am gynwysyddion gwaredu sydd wedi'u difrodi
- pam mae'n rhaid gosod cyfarpar yn y lleoliadau cywir i'w storio, eu sterileiddio neu eu cludo
- sut i roi gwybod am unrhyw beryglon, problemau neu dystiolaeth o gyflyrau heintus posibl i'r person priodol cyn gynted ag y bo'n bosibl
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel