Cael argraff geneuol uniongyrchol o unigolyn er mwyn cynhyrchu analog neu gast
URN: SFHOH09
Sectorau Busnes (Suites): Iechyd y geg
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag arfer diogel ac effeithiol gwneud argraff mewneneuol uniongyrchol i gynhyrchu analog neu gast gan ddefnyddio technegau â llaw neu dechnegau digidol. Byddai’r gweithgaredd a ddisgrifir yma’n digwydd fel rhan o gynllun triniaeth, ar ôl asesiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cadarnhau pwy yw'r unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- ennill cydsyniad gwybodus, dilys gan yr unigolyn yn unol â gweithdrefnau penodol
- cyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w ddealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
- rhoi cymorth i'r unigolyn a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
- gwirio cynllun y driniaeth a nodi diben cymryd yr argraff
- cadarnhau hanes meddygol yr unigolyn a nodi unrhyw gyflyrau meddygol rhagdueddol a allai effeithio ar dechneg yr argraff, diogelwch unigol, neu gywirdeb yr argraff
- esbonio'r weithdrefn yn glir i'r unigolyn, gan ei thrafod mewn ffordd a fydd yn lleihau unrhyw bryder fydd gan yr unigolyn ac yn gwella'i gysur a'i gydweithrediad
- cymhwyso rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau
- archwilio a pharatoi safle'r argraff, gan ystyried risgiau niwed i unrhyw feinweoedd meddal neu galed neu ddeintiad sy'n weddill, a chymryd y camau priodol
- dewis cyfarpar a deunyddiau priodol i'r unigolyn a'r weithdrefn, a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- addasu cafn yr argraff i sicrhau cysur a chywirdeb, fel y bo angen
- sicrhau bod llwybr anadlu'r unigolyn ac unrhyw ardaloedd lle mae'r feinwe'n ddifrodedig yn cael eu hamddiffyn
- cynghori'r unigolyn ar sut i gymryd rhan yn y weithdrefn, a'i fonitro a thawelu ei feddwl, lle y bo'n briodol
- sicrhau bod swm priodol o'r deunydd yn cael ei gymysgu a'i ddefnyddio'n gywir
- mewnosod a thynnu'r argraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- archwilio'r unigolyn am unrhyw anaf neu ysgyrion ar ôl tynnu'r argraff, a gweithredu'n briodol, lle bo angen, i adfer diogelwch a chysur yr unigolyn
- dihalogi'r argraff yn unol â'r safon gytunedig, gan ddileu'r holl waed, meinweoedd a hylifau eraill y corff
- cadarnhau cywirdeb ac ansawdd yr argraff a'i storio yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- lle y bo nam ar yr argraff, nodi'r rheswm dros hyn, esbonio'r sefyllfa i'r unigolyn a, lle y bo'n bosibl, cymryd argraff arall
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i gyfathrebu â phobl eraill berthnasol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth a'u hanghenion, a'r hyn sy'n well ganddynt
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
- pwysigrwydd cymhwyso rhagofalon rheoli heintiau safonol i gymryd argraffau a chanlyniadau posibl ymarfer gwael
- anatomi a ffisioleg berthnasol y geg
- gweithdrefnau perthnasol sy'n gofyn am argraffau uniongyrchol neu ddigidol
- yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â thechnegau digidol ar gyfer cofnodi data'r geg
- yr ystod o ddeunyddiau sydd ar gael ar gyfer cymryd argraffiadau ac arwyddion/rhybuddion ynghylch eu defnyddio
- sut i reoli ac integreiddio gweithdrefn cymryd argraff i ddarparu prosthesisau deintyddol bio-gydnaws, gweithredol ac esthetig (sefydlog a symudadwy) yn unol â gofynion neu anghenion unigol
- anghenion unigolion, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
- y gweithdrefnau a'r dulliau sy'n gysylltiedig â chydlynu timau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o fewn ac ar draws gwasanaethau
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHOH9
Galwedigaethau Perthnasol
Technegwyr Deintyddol
Cod SOC
3218
Geiriau Allweddol
Arlliw, meinwe, cyfatebiaeth, deintyddol, dyfais, prosthetig; digidol