Cynnal archwiliad clinigol o’r fron
URN: SFHM9
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal archwiliad clinigol o’r fron er mwyn amlygu mannau sydd o bosibl yn annormal. Caiff unrhyw rannau o’r fath eu nodweddu a’u categoreiddio, a ddefnyddir, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, i gynnal neu gyfeirio archwiliadau pellach ac adrodd ar y canlyniadau. Bydd yr archwiliad hwn yn cynnwys archwilio unrhyw ddelweddau mamograffig a gynhyrchwyd. Bydd hyn yn cael ei gynnal naill ai ar fenter y gweithredwr fel elfen greiddiol o archwilio’r fron, neu er mwyn ymateb i gais gan weithiwr iechyd proffesiynol. Yr unigolion allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gynnal preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
3. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r broses yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
4. cyfathrebu â’r unigolyn / bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad
5. pennu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen
6. esbonio’r weithdrefn a’r canlyniadau posibl yn glir, gan gynnwys risg, buddion a chyfyngiadau
7. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
8. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn
9. cadarnhau priodoldeb y cais yn unol â chanllawiau lleol
10. adolygu gwybodaeth glinigol a’r hanes clinigol sydd ar gael, ac archwilio unrhyw ddelweddau blaenorol
11. archwilio’r fron a strwythurau cysylltiedig
12. dehongli unrhyw fannau clinigol sy’n cael eu hystyried yn annormal i bennu eu natur
13. gwneud cofnod llawn, cywir a chlir o faint, safle a natur unrhyw annormaledd, ei ddehongliad, ei gategori a’r camau pellach gofynnol
14. gwneud cais am weithdrefnau delweddu priodol er mwyn esbonio mannau o ddiddordeb ymhellach
15. archwilio’r holl ddelweddau, a nodweddu a chategoreiddio unrhyw annormaleddau yn unol â phrotocol lleol a chanllawiau cenedlaethol
16. cyfateb yr holl ganfyddiadau mamograffig a chanlyniadau gweithdrefnau delweddu diagnostig eraill â’r canfyddiadau o’r hanes clinigol a’r archwiliad clinigol
17. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r archwiliad yn ôl yr angen
18. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
19. cyfathrebu’r holl wybodaeth berthnasol i aelodau eraill y tîm amlddisgyblaethol yn unol â phrotocol lleol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid mynd atynt
3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion
4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
7. pwrpas gwasanaethau diagnostig a sgrinio’r fron
8. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron
9. pwysigrwydd a goblygiadau adnabod yr unigolyn yn gywir
10. y canllawiau lleol ar gyfer derbyn ceisiadau am famogramau
11. sgrinio’r boblogaeth wrth ganfod clefydau
12. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig
13. arwyddion mamograffig o glefydau’r fron ac amrywiadau normal yn sgil oedran, stad hormonaidd, llawdriniaeth a radiotherapi
14. y newidiadau o ran delweddau, ymddangosiad corfforol neu deimlad meinwe’r fron yn sgil oedran, cyflwr hormonaidd, meddyginiaeth neu radiotherapi
15. pathoffisioleg clefydau’r fron
16. y mannau ar y fron sydd mewn perygl penodol o ddatblygu ymddangosiad annormal neu lle gall fod yn bwysig dod o hyd i ganser
17. pwysigrwydd optimeiddio’r ddos o ymbelydredd y mae’r unigolyn yn ei dderbyn
18. nodweddion delweddau mamograffig a’r broses ddelweddu ddigidol
19. sut i amlygu cyfeiriad a lleoliad cywir y fron ar ddelwedd ddigidol
20. y canfyddiadau clinigol sy’n gysylltiedig â meinwe normal, anfalaen a malaen
21. rhyngddibyniaeth ac arwyddocâd y wybodaeth a gofnodir a’r ymddangosiad mamograffig
22. sut i gael gafael ar gofnodion a delweddau blaenorol
23. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn
24. dulliau o gyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol
25. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
26. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl gorffen yr archwiliad
27. sut i gynnal archwiliad clinigol o’r fron a strwythurau cysylltiedig
28. pwysigrwydd lleihau unrhyw anesmwythdra diangen a sut i wneud hynny
29. yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael ar ôl cael archwiliad clinigol, a rôl a phwysigrwydd delweddu ychwanegol a chyflenwol a thechnegau biopsi
30. strategaethau gwneud penderfyniadau, categoreiddio’r perygl o falaenedd, pennu’r batholeg debygol a’r meini prawf ar gyfer camau dilynol yn ôl protocol lleol
31. rôl a phwysigrwydd mamograffeg mewn ‘asesu triphlyg’
32. cryfderau a gwendidau mamograffeg a rhyngddibyniaeth ac arwyddocâd ymddangosiadau uwchsain a mamograffeg glinigol
33. risgiau clefydau’r fron sy’n gysylltiedig â hanes teuluol, therapi adfer hormonau
34. triniaeth a llawdriniaeth ar y fron a sut gall y rhain ddylanwadu ar yr hyn sy’n ymddangos wrth ddelweddu
35. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHM9
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu