Cynhyrchu delweddau mamograffeg ategol ac ychwanegol
URN: SFHM8
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod unigolion yn eu safle a chynhyrchu delweddau mamograffeg ategol ac ychwanegol yn ôl yr angen. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwirio bod y peiriant mamograffeg yn ddiogel ac yn perfformio cystal â phosibl cyn ei ddefnyddio
2. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gynnal preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
3. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r broses yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
4. cyfathrebu â’r unigolyn/bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad
5. pennu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen
6. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
7. esbonio’r weithdrefn mewn modd sy’n annog yr unigolyn i ymlacio a chydweithredu â gofynion y weithdrefn
8. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn
9. asesu anghenion emosiynol yr unigolyn ac ymateb mewn modd priodol
10. gwirio’r wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r unigolyn a’i defnyddio i amlygu’r delweddau priodol sy’n ofynnol ar gyfer y weithdrefn gan ymgynghori â gweithwyr proffesiynol perthnasol a gan ddilyn protocol lleol
11. gofyn cwestiynau priodol targededig yn ymwneud â hanes yr unigolyn ac unrhyw symptomau sydd wedi dod i’r amlwg
12. ystyried amrywiaeth o gyfarpar mamograffeg ategol er mwyn eich helpu i osod delweddau priodol
13. ystyried y technegau ategol ac ychwanegol sydd eu hangen i ddangos yr ardal sydd o ddiddordeb o fewn y fron
14. cyfathrebu’r camau sy’n rhan o osod yr unigolyn
15. cynhyrchu delweddau mamograffeg ategol ac ychwanegol yn unol â’r safonau cyfredol
16. sicrhau bod y delweddau’n cael eu gwirio am ansawdd diagnostig ac y gwneir penderfyniad i ailadrodd y delweddau os oes angen
17. sicrhau bod yr unigolyn yn cael gwybod am y broses adrodd ac yn cael unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol
18. labelu’r delweddau’n gywir ac yn barhaol gyda manylion adnabod yr unigolyn cyn eu prosesu neu eu storio
19. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion
4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
7. pwrpas gwasanaethau diagnostig a sgrinio’r fron
8. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron
9. y polisi a’r protocol lleol ar gyfer trefnu a gweithio gyda hebryngwr
10. pwysigrwydd a goblygiadau adnabod yr unigolyn yn gywir
11. y newidiadau o ran delweddau, golwg corfforol neu deimlad meinwe’r fron o ganlyniad i oedran, llawdriniaeth, cyflwr hormonaidd, meddyginiaeth neu radiotherapi
12. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig
13. arwyddion a symptomau sylfaenol canser y fron
14. pwysigrwydd labelu’n gywir, yn unol â phrotocol lleol
15. sut dylid arddangos y delweddau’n gywir
16. anatomeg a ffisioleg y corff dynol
17. pathoffisioleg clefydau’r fron
18. ffiseg ymbelydredd sylfaenol a delweddu pelydr-x
19. risgiau anhwylderau yn ymwneud â’r gwaith, a sut i leihau’r risgiau
20. y rhesymau pam mai’r defnyddiwr sy’n gyfrifol am gadarnhau bod y cyfarpar yn gweithio’n iawn
21. nodweddion, manylebau a nodweddion perfformiad peiriannau mamograffeg a systemau cyfathrebu ac archifo lluniau (PACs)
22. ble a sut i gael mynediad at gofnodion a delweddau blaenorol a sut i ychwanegu rhagor o wybodaeth
23. nodweddion cyfarpar mamograffeg a’r broses ddelweddu
24. pwysigrwydd rhoi gwybod am ddiffygion a namau’n brydlon a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer rhoi gwybod am y rhain
25. pwysigrwydd a goblygiadau dewis y golwg delweddu cywir
26. pwysigrwydd prosesau rheoli heintiau da a sut i’w defnyddio
27. y gweithdrefnau lleol ar gyfer gwirio cyfarpar mamograffeg a systemau cyfathrebu ac archifo lluniau (PACs) a pha mor bwysig yw cynnal y rhain yn rheolaidd
28. y wybodaeth berthnasol y dylid ei cheisio a’i chofnodi
29. beth sy’n creu arteffactau ar ddelweddau a pha mor bwysig yw eu hatal rhag bod yn bresennol
30. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, gofyn cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn
31. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol
32. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
33. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad
34. yr angen am gydymffurfiaeth yr unigolyn trwy gydol y delweddu a’r ffactorau a all ddylanwadu ar gydymffurfio
35. y gwahanol ffyrdd posibl o achosi gofid ac anesmwythder a dealltwriaeth o’r strategaethau ar gyfer ymdrin â’r rhain
36. yr angen i optimeiddio’r ddos o ymbelydredd y mae’r unigolyn yn ei dderbyn
37. y ffactorau sy’n dylanwadu ar y gosodiadau amlygiad
38. y gweithdrefnau ar gyfer adrodd ar ganlyniadau a phwysigrwydd rhoi gwybodaeth amserol a chywir i’r unigolyn
39. y safonau radiograffig ar gyfer cynhyrchu’r mamogram diagnostig gorau posibl
40. technegau i optimeiddio safle’r fron er mwyn goresgyn cyfyngiadau corfforol
41. technegau i optimeiddio’r safle wrth ddelweddu bronnau sydd wedi’u mwyhau
42. pwysigrwydd lleihau unrhyw anesmwythdra diangen a sut i wneud hynny
43. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol
44. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHM8
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu