Cynnal triniaeth leoleiddio yn y fron gan ddefnyddio delweddu
URN: SFHM6
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar delweddu i leoli mannau yn y fron sy’n cael eu hystyried yn annormal. Hefyd, mae’n trafod defnyddio cyfarpar i lywio mewnosod gwifrau marcio ar gyfer llawdriniaethau. Mae’n hanfodol bod unrhyw unigolyn sy’n cynnal y driniaeth hon yn gyfredol gymwys mewn Cynnal Bywyd Sylfaenol a Dadebru Cardio-Anadlol. Yr unigolion allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. paratoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer y broses a gwirio ei fod yn gweithio’n iawn
3. archwilio delweddau perthnasol cyn cynnal y broses er mwyn cadarnhau lleoliad(au) y man(nau) o ddiddordeb
4. adolygu’r holl wybodaeth berthnasol a phenderfynu ar y dull mwyaf priodol
5. adolygu hanes clinigol yr unigolyn am ffactorau a all wrtharwyddo’r weithdrefn
6. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
7. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r broses yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
8. cyfathrebu â’r unigolyn / bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad
9. pennu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen
10. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
11. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn
12. esbonio’r broses mewn ffordd sy’n galluogi’r unigolyn i ymlacio a chydweithredu â gofynion y weithdrefn
13. asesu anghenion emosiynol yr unigolyn ac ymateb mewn ffordd briodol
14. cymryd delweddau priodol er mwyn cadarnhau’r safle cywir ar gyfer gosod y nodwydd a’r ymylon diogelwch
15. cymryd yr holl ragofalon priodol er mwyn sicrhau techneg lân/aseptig
16. sicrhau y rhoddir anesthetig lleol yn unol â phrotocol lleol a gwirio colli teimlad a, lle bo angen, endorri’r croen
17. gosod y nodwydd gywir ar gyfer y driniaeth yn unol â gweithdrefnau a phrotocol lleol
18. gwirio bod safle’r nodwydd yn gywir trwy gymryd mwy o ddelweddau a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol yn unol â gweithdrefnau a phrotocol lleol
19. gosod y wifren neu’r marciwr yn ôl y math o leoleiddio
20. rhwymo’r safle’n briodol
21. adolygu a chadarnhau safle’r wifren neu farciwr mewn perthynas â’r ardal o ddiddordeb
22. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r driniaeth ac ôl-ofal pan fo angen
23. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
24. dogfennu’r driniaeth gan roi digon o fanylion i lywio’r lawdriniaeth
25. dosbarthu adroddiadau ar radiograff y sbesimen i’r tîm llawfeddygol yn unol â phrotocol lleol
26. cydnabod lle mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid mynd atynt
3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion
4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
7. pwrpas gwasanaethau diagnostig a sgrinio’r fron
8. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron
9. pwysigrwydd a goblygiadau manylion adnabod cywir yr unigolyn
10. y protocol lleol ar gyfer lleoleiddio wedi’i lywio gan ddelweddau
11. ymddangosiad mannau annormal neu amheus ar ddelweddau
12. arwyddion mamograffig clefydau’r fron ac amrywiadau normal yn sgil oedran, cyflwr hormonaidd, llawdriniaeth a radiotherapi
13. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig
14. y gwrtharwyddion i’r driniaeth
15. polisïau lleol ar gyfer techneg aseptig
16. sut i adolygu hanes clinigol unigolyn am ffactorau a all wrtharwyddo’r driniaeth
17. egwyddorion sylfaenol stereotacsis
18. y cyfarpar lleoleiddio, ei baratoi’n gywir, ei osod a’i raddnodi
19. defnyddio anesthesia lleol yn ddiogel
20. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol ar gyfer anghenion yr unigolyn
21. dulliau o gyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol
22. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
23. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl gorffen yr archwiliad
24. yr angen i optimeiddio’r ddos o ymbelydredd y mae’r unigolyn yn ei dderbyn
25. sut i osod marcwyr yn ôl pa fath o leoleiddio sydd ei angen
26. nodweddion y cyfarpar delweddu perthnasol a’r broses ddelweddu
27. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB7 Ymyriadau a thriniaeth
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHM6
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu