Cynnal biopsi o feinwe’r fron gan ddefnyddio delweddu
URN: SFHM5
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio cyfarpar delweddu i ganfod mannau yn y fron sy’n cael eu hystyried yn annormal. Hefyd, mae’r safon hon yn trafod defnyddio’r cyfarpar hwn i lywio gweithdrefnau biopsi.
Mae’n hanfodol bod unrhyw unigolyn sy’n cynnal y driniaeth hon yn gyfredol gymwys mewn Cynnal Bywyd Sylfaenol a Dadebru Cardio-Anadlol. Yr unigolion allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. paratoi’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer y broses a gwirio ei fod yn gweithio’n iawn
3. archwilio delweddau perthnasol cyn cynnal y weithdrefn er mwyn cadarnhau lleoliad(au) y man(nau) o ddiddordeb
4. adolygu’r holl wybodaeth berthnasol a phenderfynu ar y dull mwyaf priodol
5. adolygu hanes clinigol yr unigolyn am ffactorau a all wrtharwyddo’r weithdrefn
6. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gynnal preifatrwydd ac urddas yr unigolyn
7. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r broses yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol
8. cyfathrebu â’r unigolyn / bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad
9. pennu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen
10. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
11. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn
12. esbonio’r broses mewn ffordd sy’n galluogi’r unigolyn i ymlacio a chydweithredu â gofynion y weithdrefn
13. asesu anghenion emosiynol yr unigolyn ac ymateb mewn ffordd briodol
14. cymryd delweddau priodol er mwyn cadarnhau’r safle cywir ar gyfer gosod y nodwydd a’r ymylon diogelwch
15. cymryd yr holl ragofalon priodol er mwyn sicrhau techneg lân/aseptig
16. sicrhau y rhoddir anesthetig lleol yn unol â phrotocol lleol a gwirio colli teimlad a, lle bo angen, endorri’r croen
17. gosod y nodwydd gywir ar gyfer y driniaeth yn unol â gweithdrefnau a phrotocol lleol
18. gwirio bod safle’r nodwydd yn gywir trwy gymryd mwy o ddelweddau a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol yn unol â gweithdrefnau a phrotocol lleol
19. cymryd, gwirio a nodi safle samplau yn unol â gweithdrefnau a phrotocolau lleol
20. sicrhau haemostasis y briw
21. rhwymo safle’r biopsi’n briodol
22. labelu cynwysyddion y samplau a llenwi ffurflenni cais patholeg
23. darparu gwybodaeth i’r unigolyn yn ymwneud â’r driniaeth ac ôl-ofal pan fo angen
24. esbonio’r broses ar gyfer cael canlyniadau
25. dogfennu’r driniaeth yn unol â phrotocol lleol
26. dosbarthu adroddiadau ar radiograff y sbesimen i’r tîm llawfeddygol yn unol â phrotocol lleol
27. cydnabod lle mae angen help neu gyngor a chael hyn o ffynonellau priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid mynd atynt
3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion
4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol
7. pwrpas gwasanaethau diagnostig a sgrinio’r fron
8. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron
9. arwyddion mamograffig clefydau’r fron ac amrywiadau normal yn sgil oedran, cyflwr hormonaidd, llawdriniaeth a radiotherapi
10. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig
11. y newidiadau o ran delweddau, ymddangosiad corfforol neu deimlad meinwe’r fron yn sgil oedran, cyflwr hormonaidd, meddyginiaeth neu radiotherapi
12. y protocol lleol ar gyfer triniaethau biopsi
13. ymddangosiad mannau annormal neu amheus ar famogramau
14. polisïau lleol ar gyfer techneg aseptig
15. y gwrtharwyddion i’r driniaeth
16. sut i adolygu hanes clinigol unigolyn am ffactorau a all wrtharwyddo’r driniaeth
17. egwyddorion sylfaenol stereotacsis
18. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, holi cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol ar gyfer anghenion yr unigolyn
19. dulliau o gyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol
20. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth
21. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl gorffen yr archwiliad
22. cyfarpar y biopsi, ei baratoi, ei atodi a’i raddnodi yn gywir
23. defnyddio anesthetig lleol yn ddiogel
24. ymddangosiad samplau biopsi a dangosyddion ar gyfer sbesimenau delweddu
25. pwysigrwydd labelu samplau yn gywir
26. y cymhlethdodau posibl yn ystod ac ar ôl biopsi meinwe’r fron a sut i’w rheoli
27. yr angen i optimeiddio’r ddos o ymbelydredd y mae’r unigolyn yn ei dderbyn
28. nodweddion y cyfarpar delweddu perthnasol a’r broses ddelweddu
29. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHM5
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu