Adolygu delweddau mamograffeg am bresenoldeb annormaleddau a gwneud argymhellion ar gyfer camau pellach
URN: SFHM3
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag archwilio delweddau mamograffeg yn weledol er mwyn amlygu mannau sy’n dangos annormaleddau posibl. Bydd yr archwiliad hwn, a’r holl wybodaeth berthnasol arall a all fod ar gael, yn cael ei ddefnyddio gan yr ymarferydd i wneud penderfyniad ynghylch galw’r unigolyn yn ôl i wneud ymchwiliadau pellach. Mae’r safon hon yn berthnasol i ddehongli delweddau radiograffig a wnaed o’r fron fel rhan o brawf sgrinio arferol neu raglen symptomatig.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. gwirio manylion adnabod y delweddau yn erbyn dogfennau cysylltiedig
2. adolygu’r holl wybodaeth a gofnodwyd yn ystod y mamogram
3. archwilio’r delweddau i wirio ansawdd technegol a diagnostig
4. archwilio’r delweddau dan amodau priodol gan ddefnyddio estyniadau gweledol priodol
5. archwilio arwynebedd cyfan pob delwedd yn fanwl
6. cymharu mamogramau blaenorol gyda delweddau cyfredol am unrhyw newidiadau sylweddol
7. adolygu’r holl dystiolaeth sydd ar gael wrth gynnal archwiliadau gweledol ar y mamogram cyfredol, mamogramau blaenorol a’r hanes a ddogfennwyd
8. archwilio’r mannau sy’n cael eu hystyried yn annormal er mwyn pennu eu natur a chofnodi eich asesiad yn unol â phrotocol lleol
9. cydnabod lle mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol
10. cymharu canlyniadau unrhyw ddarllenydd/darllenwyr eraill a chymryd camau priodol yn unol â phrotocolau lleol
11. penderfynu p’un a ddylid galw’r unigolyn yn ôl ai peidio a gweithredu yn unol â phrotocol lleol
12. sicrhau, os gelwir unigolion yn ôl, yr amlygir gweithdrefnau delweddu/diagnostig priodol yn unol â phrotocolau lleol a chanllawiau cenedlaethol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadau a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt
3. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
4. pwrpas gwasanaethau diagnostig a sgrinio’r fron
5. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron
6. ffiseg ymbelydredd a delweddu pelydr-x
7. y meini prawf ar gyfer derbynioldeb technegol mamogramau
8. yr angen i optimeiddio’r ddos o ymbelydredd y mae unigolion yn ei dderbyn
9. nodweddion technegol delweddau mamograffeg, y broses ddelweddu a’r amodau gweld gorau posibl
10. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig
11. hanes meddygol yr unigolyn os bydd hwnnw ar gael
12. arwyddion mamograffig o glefydau’r fron ac amrywiadau normal yn sgil oedran, cyflwr hormonaidd, llawdriniaeth a radiotherapi
13. marcwyr cyfeirio ac amlygu
14. y mannau ar y fron sydd mewn perygl penodol o ddatblygu ymddangosiad annormal neu lle gallai fod yn anodd dod o hyd i ganser
15. y canfyddiadau clinigol sy’n gysylltiedig â meinwe normal, anfalaen a malaen
16. rhyngddibyniaeth ac arwyddocâd gwybodaeth a gofnodir ac ymddangosiad mamograffig
17. sut i gael gafael ar gofnodion a delweddau blaenorol
18. y rhesymau dros gymharu â mamogramau blaenorol ac arwyddocâd y newidiadau a allai fod wedi digwydd
19. strategaethau gwneud penderfyniadau a chategoreiddio’r perygl o falaenedd
20. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHM3
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
2217
Geiriau Allweddol
radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu; adrodd