Cynhyrchu delweddau radiograffig arferol o’r fron

URN: SFHM2
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod unigolion a gosod cywasgedd ar gyfer delweddu radiograffig y bronnau. Hefyd, mae’r safon yn cwmpasu paratoi’r cyfarpar radiograffig a’r gwiriadau perfformiad ar gyfer delweddu’r fron yn arferol, ac ar gyfer gosod y cysylltiad cywir. Mae delweddau radiograffig arferol o’r fron yn famogramau lletraws medio-ochrol a chreuanol-gynffonol. Mae’r rhain yn cael eu cynnal fel rhan o raglen sgrinio arferol neu weithdrefnau diagnostig. Mae’r safon hon yn cynnwys cynhyrchu mamogramau diagnostig trwy osod yr unigolyn yn gywir, defnyddio cyfarpar radiograffig, cyflenwi ymbelydredd yn ddiogel, ac adfer y cyfarpar i’r modd gorffwys. Y bobl allweddol yw’r rheiny sydd ynghlwm â gofal yr unigolyn a phobl eraill sydd ynghlwm â darparu gwasanaethau. Mae delweddu unigolion sydd wedi cael triniaeth i fwyhau eu bronnau wedi’i eithrio o’r safon hon. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. glanhau’r peiriant mamograffeg gyda deunydd glanhau addas cyn ei ddefnyddio ac ar ôl pob archwiliad 2. gwirio’r peiriant mamograffeg i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn perfformio cystal â phosibl cyn ei ddefnyddio 3. gwirio’r dyfeisiau trin delweddau ac adnabod i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn perfformio cystal â phosibl cyn eu defnyddio  4. cynnal yr holl wiriadau ychwanegol ar gyfarpar yn unol â safonau cenedlaethol a phrotocol lleol 5. rhoi gwybod am ddiffygion yn brydlon i’r unigolyn/unigolion priodol a’u dogfennu’n briodol  6. gweld cofnodion blaenorol a mamogramau sy’n berthnasol i’r unigolyn os byddant ar gael, a defnyddio’r wybodaeth ynddynt i lywio a gwneud addasiadau i’r weithdrefn ddelweddu 7. sicrhau bod yr amgylchedd yn eich galluogi i gadw preifatrwydd ac urddas yr unigolyn 8. gwirio’r manylion adnabod cyn dechrau’r driniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lleol  9. cyflwyno eich hunain ac aelodau staff eraill sy’n bresennol yn ystod yr archwiliad  10. cyfathrebu â’r unigolyn / y bobl allweddol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r archwiliad a’u cydweithrediad  11. sefydlu gallu’r unigolyn i ddeall y weithdrefn gyda chymorth y bobl allweddol os oes angen  12. cael cydsyniad dilys ar gyfer y weithdrefn yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  13. esbonio’r weithdrefn mewn modd sy’n annog yr unigolyn i ymlacio a chydweithredu â gofynion y weithdrefn  14. parchu preifatrwydd, urddas, credoau a phenderfyniadau’r unigolyn  15. caffael a chofnodi’r holl wybodaeth sy’n berthnasol i’r delweddu, a gweithredu arni yn ôl yr angen yn unol â phrotocol lleol  16. asesu anghenion emosiynol yr unigolyn ac ymateb mewn modd priodol 17. gofyn i’r unigolyn ddadwisgo ar gyfer y delweddu 18. asesu gallu a symudedd corff yr unigolyn er mwyn pennu a ddylid addasu’r dechneg a’r cyfarpar a ddewisir  19. arsylwi a chofnodi unrhyw abnormaleddau allanol amlwg ar y bronnau 20. gosod yr unigolyn yn ei le ar gyfer y delweddu gyda chyn lleied o anesmwythder â phosibl ac i gyflawni’r delweddau gorau posibl  21. sicrhau bod cydymffurfiaeth â’r broses yn cael ei chadarnhau, a chymryd y camau priodol os tynnir y cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg 22. addasu ongl y tiwb i sicrhau bod meinwe’r fron yn cael ei orchuddio cymaint â phosibl 23. dewis y ffactorau amlygiad priodol os oes angen 24. dewis a chofnodi pa fron sy’n cael ei delweddu ynghyd ag unrhyw esboniadau eraill y mae’r protocol lleol yn galw amdanynt  25. sicrhau bod bron yr unigolyn wedi’i lleoli’n iawn ac wedi’i chywasgu i sicrhau bod y fron gyfan yn cael ei chynnwys ac nad oes arteffactau posibl yn bresennol  26. pennu faint o ddelweddau sydd eu hangen er mwyn sicrhau y cyrhaeddir cymaint o’r fron â phosibl 27. defnyddio’r holl wybodaeth sydd ar gael i wneud amlygiad priodol gan gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n llywodraethu defnyddio ymbelydredd ïoneiddio  28. rhoi gwybod i’r unigolyn beth yw’r weithdrefn adrodd a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol  29. ateb unrhyw gwestiynau, neu eu cyfeirio at bobl eraill os byddant y tu hwnt i’ch maes cymhwysedd  30. labelu’r delweddau’n gywir ac yn barhaol gyda manylion adnabod yr unigolyn cyn eu prosesu neu eu storio 31. gwirio’r delweddau am ansawdd diagnostig ac ailadrodd y delweddau os oes angen  32. cydnabod ble mae angen help neu gyngor a chael gafael arno o ffynonellau priodol 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir  2. y safonau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau sydd ar gael a sut a phryd dylid mynd atynt  3. pwysigrwydd parchu diwylliant, preifatrwydd, urddas, dymuniadau, credoau a phenderfyniadau unigolion 4. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hun a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer  5. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm 6. pwysigrwydd cael cydsyniad dilys yn unol â chanllawiau cenedlaethol a lleol  7. pwrpas gwasanaethau diagnostig a sgrinio’r fron  8. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron  9. pwysigrwydd a goblygiadau adnabod yr unigolyn yn gywir  10. y newidiadau o ran delweddau, golwg corfforol neu deimlad meinwe’r fron o ganlyniad i oedran, llawdriniaeth, cyflwr hormonaidd, meddyginiaeth neu radiotherapi  11. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig  12. arwyddion a symptomau clefydau’r fron, gan gynnwys canser  13. ffiseg ymbelydredd a delweddu pelydr-x 14. yr angen i optimeiddio’r ddos o ymbelydredd y mae’r unigolyn yn ei dderbyn  15. risgiau anhwylderau yn ymwneud â’r gwaith, a sut i leihau’r risgiau  16. mai’r defnyddiwr sy’n gyfrifol am gadarnhau bod y cyfarpar yn gweithio’n iawn  17. nodweddion, manylebau a nodweddion perfformiad peiriannau mamograffeg a systemau cyfathrebu ac archifo lluniau (PACs) 18. ble a sut i gael mynediad at gofnodion a delweddau blaenorol a sut i ychwanegu rhagor o wybodaeth  19. pwysigrwydd rhoi gwybod am ddiffygion a namau’n brydlon a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer rhoi gwybod am y rhain  20. pwysigrwydd a goblygiadau dewis y golwg delweddu cywir   21. beth sy’n creu arteffactau ar ddelweddau a pha mor bwysig yw eu hatal rhag bod yn bresennol 22. sut i addasu arddulliau cyfathrebu, gofyn cwestiynau a gwrando’n ofalus mewn ffyrdd sy’n briodol i anghenion yr unigolyn  23. dulliau cyfathrebu gwybodaeth anodd a chymhleth i unigolion a phobl allweddol  24. pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i unigolion a phobl allweddol ofyn cwestiynau a gwella eu dealltwriaeth 25. y wybodaeth y dylid ei rhoi i unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau’r archwiliad  26. yr angen am gydymffurfiaeth yr unigolyn trwy gydol y delweddu a’r ffactorau a all ddylanwadu ar y gydymffurfio  27. y gwahanol ffyrdd posibl o achosi gofid ac anesmwythder a’r strategaethau ar gyfer ymdrin â’r rhain  28. y ffactorau sy’n dylanwadu ar y gosodiadau amlygiad 29. y gweithdrefnau ar gyfer adrodd ar ganlyniadau a phwysigrwydd rhoi gwybodaeth amserol a chywir i’r unigolyn  30. pwysigrwydd prosesau da ar gyfer rheoli heintiau a sut i’w defnyddio  31. y gweithdrefnau lleol ar gyfer gwirio cyfarpar mamograffeg a systemau cyfathrebu ac archifo lluniau (PACs) a pha mor bwysig yw cynnal y rhain yn rheolaidd  32. technegau a safonau radiograffig ar gyfer cynhyrchu’r mamogram diagnostig gorau posibl 33. technegau i optimeiddio safle’r fron er mwyn goresgyn cyfyngiadau corfforol  34. pwysigrwydd defnyddio labelau cywir yn unol â phrotocol lleol  35. sut dylid arddangos y delweddau’n gywir 36. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol  37. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004): 
Dimensiwn: HWB6 Cynllunio asesiadau a thriniaethau  


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sgiliau Iechyd

URN gwreiddiol

SFHM2

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â Iechyd

Cod SOC

2217

Geiriau Allweddol

radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu