Caffael delweddau radiograffig o sbesimenau’r fron
URN: SFHM11
Sectorau Busnes (Suites): Sgrinio ac Asesu’r Fron
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
01 Chwef 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chaffael delweddau radiograffeg o sbesimenau’r fron. Gall sbesimenau’r fron ddod o ymchwiliad diagnostig neu o lawdriniaeth. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth a’r polisïau diweddaraf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. defnyddio rhagofalon sylfaenol ar gyfer rheoli heintiau a mesurau iechyd a diogelwch priodol eraill
2. sicrhau bod y cyfarpar radiograffig yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio
3. gwirio manylion adnabod y sbesimen a defnyddio’r wybodaeth i amlygu’r delweddau priodol sy’n ofynnol ar gyfer y drefn ddelweddu gan ymgynghori â gweithwyr proffesiynol perthnasol a dilyn protocol lleol
4. dewis a defnyddio cyfarpar mamograffeg ategol er mwyn helpu lleoli delweddau sbesimen priodol
5. trin y sbesimen yn ddiogel ac yn unol â’r gweithdrefnau a gytunir yn lleol
6. cyfeirio’r sbesimen yn unol â phrotocol lleol
7. sicrhau bod y delweddau’n cael eu gwirio am ansawdd diagnostig ac y gwneir penderfyniad i ailadrodd y delweddu yn ôl yr angen
8. labelu’r delweddau’n gywir ac yn barhaol cyn prosesu neu storio’r ddelwedd
9. dilyn y weithdrefn adrodd briodol
10. glanhau’r cyfarpar ar ôl eu defnyddio gan ddefnyddio rhagofalon sylfaenol yn unol â phrotocol lleol
11. cofnodi gwybodaeth ynglŷn â’r sbesimen yn unol â phrotocol lleol
12. cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod y sbesimen yn cael ei gludo’n ddiogel yn unol â phrotocol lleol
13. sicrhau bod mannau wedi’u heintio yn cael eu trin yn unol â’r rhagofalon sylfaenol ar gyfer atal a rheoli heintiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion cyfreithiol, sefydliadol a pholisi sy’n berthnasol i’ch rôl, rôl pobl eraill yn eich sefydliad a’r gweithgareddau a wneir
2. y safonau, canllawiau, polisïau a’r gweithdrefnau lleol a chenedlaethol perthnasol sydd ar gael, a sut a phryd dylid mynd atynt
3. cyfyngiadau eich gwybodaeth a’ch profiad eich hunan a phwysigrwydd gweithredu o fewn cwmpas eich ymarfer
4. rolau a chyfrifoldebau aelodau eraill y tîm
5. pwrpas gwasanaethau sgrinio a diagnosis y fron
6. y rhaglenni sicrhau ansawdd mewn gwasanaethau symptomatig, asesu a sgrinio’r fron
7. gweithdrefnau ar gyfer trin sbesimenau a meinwe’r corff yn ddiogel
8. y gwahanol fathau o gynwysyddion a ffyrdd o gludo sy’n cael eu defnyddio’n aml a pha mor addas ydyn nhw ar gyfer pob math o sbesimen
9. y gwahanol fathau o farcwyr a ddefnyddir i gyfeirio’r sbesimenau
10. swyddogaethau, manylebau a nodweddion perfformiad y cyfarpar radiograffig a ddefnyddir i ddelweddu sbesimenau
11. swyddogaethau, manylebau a nodweddion perfformiad y dyfeisiau trin delweddau lleol
12. ble a sut i gael mynediad at gofnodion a delweddau blaenorol a sut i ychwanegu rhagor o wybodaeth
13. nodweddion y cyfarpar mamograffeg a’r broses ddelweddu
14. pwysigrwydd rhoi gwybod am namau a diffygion yn brydlon a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer rhoi gwybod am y rhain
15. y mathau o esboniadau sydd ar gael yn yr uned ac ar y cyfarpar, a dealltwriaeth o bwysigrwydd cydymffurfio â’r protocolau lleol ar gyfer eu defnyddio
16. pwysigrwydd cadw cyfarpar radiograffig yn lân a dilyn protocol lleol ar gyfer rheoli heintiau
17. y gweithdrefnau lleol ar gyfer gwirio cyfarpar radiograffig a dyfeisiau trin delweddau, a deall pwysigrwydd cynnal y rhain yn rheolaidd, a chymryd camau priodol yn ôl yr angen
18. ffiseg ymbelydredd sylfaenol a delweddu pelydr-x
19. beth sy’n achosi arteffactau ar ddelweddau a pha mor bwysig yw eu hosgoi
20. y ffactorau sy’n dylanwadu ar y gosodiad amlygiad
21. y gweithdrefnau cofnodi canlyniadau a phwysigrwydd rhoi gwybodaeth brydlon a chywir i’r atgyfeiriwr
22. y safonau radiograffig ar gyfer cynhyrchu’r ddelwedd ddiagnostig gorau posibl
23. pwysigrwydd labelu cywir, yn unol â phrotocolau lleol
24. y ffordd gywir o ddangos delweddau a’r amodau amgylcheddol gofynnol
25. canlyniadau posibl heintio’r sbesimen clinigol
26. dulliau adnabod ac olrheiniadwyedd y sbesimen
27. anatomeg, ffisioleg a phatholeg y fron, y gesail, meinwe o dan y croen a strwythurau cysylltiedig
28. pathoffisioleg clefydau’r fron
29. pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol o fewn y tîm amlddisgyblaethol a gydag unigolion
30. y wybodaeth y dylid ei chofnodi mewn perthynas â sbesimenau clinigol
31. pwysigrwydd rhoi gwybod am unrhyw broblemau sydd y tu hwnt i gwmpas eich cymhwysedd i’r aelod staff perthnasol heb oedi
32. gweithdrefnau’n ymwneud â chofnodi, casglu a pharatoi gwybodaeth, dogfennau a delweddau priodol i’w trosglwyddo neu eu storio yn unol â phrotocol lleol
33. sut i gadw cofnodion llawn, cywir a chlir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â’r dimensiwn canlynol o fewn Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: HWB8 Ymchwilio ac ymyrraeth biofeddygol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Chwef 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Iechyd
URN gwreiddiol
SFHM11
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Cod SOC
1
Geiriau Allweddol
radiograffeg; mamograffeg; mamogram; clinigol; delweddu; sampl; ymchwiliad