Lleihau risg lledaenu haint wrth dynnu dillad/dillad gwely wedi’u defnyddio
URN: SFHIPC9
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thynnu dillad/dillad gwely wedi'u defnyddio a rhai budr mewn ffordd sy'n lleihau risg halogi a chroes-heintio. Mae'n berthnasol ym mhob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, ac mewn lleoliadau gofal ambiwlans.
Nid yw'r safon hon yn ymwneud â thynnu dillad/dillad gwely ymbelydrol nac oddi ar unigolion â chlefydau heintus hysbys, pan fydd angen camau rhagofalus ychwanegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyflawni hylendid effeithiol y dwylo a gwisgo cyfarpar diogelu personol yn unol â pholisi/canllawiau cenedlaethol a rhai'r sefydliad
- casglu ynghyd y cyfarpar a'r cyflenwadau y mae eu hangen i dynnu dillad/dillad gwely a ddefnyddiwyd yn ddiogel a symud y cyfarpar mor agos â phosibl at y man lle byddwch yn ei ddefnyddio
- pan fyddwch chi'n tynnu dillad/dillad gwely gyda'r unigolyn yn bresennol, byddwch yn esbonio beth fyddwch yn ei wneud mewn ffordd sy'n briodol i'w anghenion cyfathrebu a chyflymder a lefel ei ddealltwriaeth
- sicrhau nad oes unrhyw eitemau estron, fel eiddo'r unigolyn/defnyddiwr y gwasanaeth, offer miniog a ddefnyddiwyd neu gyfarpar clinigol arall, yn cael eu gwaredu'n ddiofal gyda'r dillad/dillad gwely a ddefnyddiwyd
- cyn tynnu dillad/dillad gwely, defnyddio tywelion papur i gael gwared ar unrhyw garthion solet neu chŵyd a'u taflu i'r bin gwastraff â'r cod lliw cywir, yn unol â pholisi'r sefydliad
- tynnu'r dillad/dillad gwely a ddefnyddiwyd, gan osgoi ysgwyd, gwaredu unrhyw hylifau'r corff/celloedd y croen, a chysylltiad â dillad, y llawr neu arwynebau eraill, a gosod pob eitem yn y cynheilydd dynodedig, gan ofalu peidio â lapio dillad/dillad gwely gyda'i gilydd, peidio â'u hailgyffwrdd a pheidio â gorlenwi'r cynheilydd
- gosod dillad/dillad gwely budr, a rhai a ddefnyddiwyd, yn y bagiau lliw/cynheilydd priodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu storio'n gywir yn unol â pholisi'r sefydliad
pan fydd cysylltiad wrth dynnu'r dillad/dillad gwely:
- dylid rhoi cymorth cyntaf ar unwaith i'r ardal gyswllt, gan ddilyn canllawiau'r sefydliad
- dylid rhoi gwybod am y digwyddiad ar unwaith a cheisio cyngor pellach ar yr angen am ofal meddygol pellach
- dylid cofnodi'r digwyddiad, gan ddilyn polisïau'r sefydliad
gosod unrhyw gyfarpar diogelu personol tafladwy yn y bin gwastraff priodol yn syth ar ôl ei ddefnyddio a chyflawni hylendid effeithiol yr dwylo yn ddi-oed
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y gadwyn heintio
- sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
- sut i roi cymorth cyntaf a chael at adnoddau cymorth cyntaf a chefnogaeth
- technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
- y cyfarpar diogelu personol priodol i'w ddefnyddio wrth gyffwrdd â dillad/dillad gwely
- sut i wisgo, tynnu a chael gwared ar gyfarpar diogelu personol yn ddiogel
- sut i ddidoli categorïau dillad/dillad gwely budr, a rhai a ddefnyddiwyd, a'u rhoi mewn bagiau
- y bagiau a'r biniau gwastraff â chodau lliw gwahanol, a'r defnydd cywir o bob un ohonynt
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Health
URN gwreiddiol
SFHIPC9
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Lechyd, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Gwasanaethau Gofal Iechyd a Gwasanaethau Personol Cysylltiedig
Cod SOC
2219
Geiriau Allweddol
Defnyddio, dillad, dillad gwely, risg, haint, atal