Lleihau risg lledaenu haint wrth gludo a storio gwastraff sy’n gysylltiedig ag iechyd a gofal
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chludo gwastraff gofal iechyd, gan gynnwys offer miniog, o'r man storio naill ai ar y safle neu oddi ar y safle i fan dinistrio terfynol. Mae'r safon hon yn berthnasol i bob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, a cherbydau/gorsafoedd ambiwlans.
Caiff gwastraff gofal iechyd ei gynhyrchu o ganlyniad i weithgareddau gofal iechyd ac mae'n cynnwys sylweddau peryglus posibl a allai achosi haint i unrhyw berson sy'n dod i gysylltiad â nhw. Dylech ddilyn y rheoliadau a'r polisïau cenedlaethol, gan gynnwys y disgrifiadau o fathau o wastraff, sy'n berthnasol i'ch gwlad chi.
Glanhau a diheintio yw'r termau a ddefnyddir yn y safon hon, fodd bynnag mewn rhai ardaloedd, defnyddir y term 'dihalogi'. Mae 'Dihalogi' yn derm ymbarél sy'n cynnwys glanhau, diheintio a sterileiddio fel y bo'n briodol.
Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol pan fyddwch yn trafod, yn cludo neu'n storio gwastraff gofal iechyd, yn unol â gofynion y sefydliad
- sicrhau bod pob cynhwysydd gwastraff yn addas at ei ddiben ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth bresennol
- trafod pob cynhwysydd gwastraff yn ofalus i leihau risgiau torri neu rwygo
- sicrhau bod cynwysyddion wedi'u selio'n ddiogel a bod y label, cofnod, cod lliw neu dag cywir arnynt ar gyfer categori a tharddiad y gwastraff ynddynt, gan ddefnyddio codau cydnabyddedig yn unol â gofynion y sefydliad
- tynnu cynwysyddion o'r amgylchedd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- gwneud yr ardal yn ddiogel a'i glanhau/diheintio ar unwaith yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad os bydd gollyngiad
- cludo'r cynwysyddion i ardal ddynodedig yn unol â deddfwriaeth bresennol, heb eu hagor, gan osgoi cysylltiad ag arwynebau glân
- rhannu gwastraff mewn storfa a storio'r holl gynwysyddion gwastraff fel eu bod yn sefyll
- sicrhau bod unrhyw drolïau neu gerbydau a ddefnyddioch i gludo'r gwastraff yn cael eu glanhau, gyda neu heb ddiheintio, ar ôl eu defnyddio a gwirio eu bod yn gweithio'n iawn cyn eu hailddefnyddio; os nad ydynt, dylid eu cadw ar wahân a rhoi gwybod amdanynt
- tynnu cyfarpar diogelu personol gan waredu unrhyw gyfarpar defnydd untro mewn cynhwysydd gwastraff priodol, glanhau neu ddiheintio unrhyw gyfarpar ailddefnyddiadwy yn barod i'w ailddefnyddio
- cyflawni hylendid effeithiol y dwylo
- sicrhau nad yw gwastraff yn cael ei adael lle y gall pobl anawdurdodedig neu blâu gael ato
- rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, helyntion neu ddamweiniau yn ymwneud â storio a/neu gludo gwastraff gofal iechyd ar unwaith, gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
- rheoliadau a chanllawiau ar sylweddau peryglus
- y gadwyn heintio
- hierarchaeth mesurau rheoli
- camau allweddol hylendid y dwylo
- sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
- sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
- technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
- sut i wisgo, tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn ddiogel
- sut i drafod a gwaredu offer miniog yn ddiogel
sut i drafod pob cynhwysydd gwastraff yn ofalus i leihau risgiau torri neu rwygo, gan gynnwys
- eu dal oddi wrth eich corff i osgoi halogiad neu anaf
- dal bagiau wrth eu gwddf yn unig
- technegau symud a thrafod cywir
- defnyddio trolïau, cerbydau a chyfarpar priodol a luniwyd yn benodol ar gyfer cludo gwastraff, lle y byddant ar gael
sut i wahanu gwahanol fathau o wastraff yn ddiogel gan ddefnyddio'r bagiau a'r cynwysyddion gwastraff cod lliw sydd ar gael, a'r defnydd cywir o bob un ohonynt
- sut i lanhau, gyda neu heb ddiheintio, yn dilyn gollyngiadau
- egwyddorion storio gwastraff gofal iechyd yn ddiogel
- sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel