Gwaredu gwastraff gofal iechyd, gan gynnwys offer miniog, yn ddiogel i atal lledaenu haint

URN: SFHIPC7
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwaredu gwastraff gofal iechyd, gan gynnwys offer miniog, fel y byddwch yn lleihau risgiau caffael a lledaenu heintiau. Mae'r safon yn berthnasol i weithgareddau sy'n digwydd mewn unrhyw amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, a lleoliadau gofal ambiwlans.

Caiff gwastraff gofal iechyd ei gynhyrchu o ganlyniad i weithgareddau gofal iechyd ac mae'n cynnwys sylweddau peryglus posibl a allai achosi haint i unrhyw berson sy'n dod i gysylltiad â nhw.

Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.

Caiff gwahanol fathau o wastraff peryglu eu categoreiddio o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Dylech gadw at y rheoliadau a'r polisïau cenedlaethol, gan gynnwys y disgrifiadau o fathau o wastraff, sy'n berthnasol i'ch gwlad.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. cyfathrebu â'r unigolyn a phobl allweddol yn ôl cyflymder, modd a lefel sy'n briodol i ddealltwriaeth ac anghenion yr unigolyn, a'r hyn sy'n well ganddo
  6. parchu hawliau a dymuniadau'r unigolyn yn gysylltiedig â'i breifatrwydd, ei gredoau a'i urddas
  7. darparu cymorth i'r unigolyn ac i ofalwyr a sicrhau bod mesurau iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu bob amser
  8. defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol pan fyddwch yn trafod offer miniog wedi'u defnyddio a gwastraff gofal iechyd arall yn unol â gofynion y sefydliad
  9. annog unigolion/defnyddwyr gwasanaeth i waredu eu gwastraff eu hunain lle y gallant wneud hynny'n ddiogel, a rhoi'r cynwysyddion a'r wybodaeth briodol iddynt ar gyfer hyn
  10. gwahanu gwastraff gofal iechyd mewn ffrydiau a chynwysyddion priodol i'w gwaredu'n ddiogel, gan gyfeirio at ofynion y sefydliad
  11. gwaredu gwastraff gofal iechyd cyn gynted â phosibl, mor agos at y man defnyddio, i'r cynhwysydd gwastraff priodol, gan sicrhau'r defnydd cywir o unrhyw nodweddion diogelwch cynwysedig
  12. sicrhau hylendid effeithiol y dwylo ar ôl trafod gwastraff, a galluogi unigolion/defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi gwaredu eu gwastraff eu hunain i sicrhau hylendid effeithio eu dwylo hefyd
  13. selio cynwysyddion gwastraff yn ddiogel a threfnu iddynt gael eu symud oddi yno a bod cynwysyddion newydd yn cael eu gosod yn eu lle, yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch a pholisi/gweithdrefnau lleol
  14. sicrhau bod man tarddiad y gwastraff wedi'i nodi'n glir ar gynwysyddion gan ddefnyddio tag, tâp neu label priodol, fel bod eu cynnwys yn glir ac yn dilyn codau cydnabyddedig
  15. os bydd unrhyw wastraff yn cael ei ollwng, ei lanhau, gyda neu heb ddiheintio, cyn gynted â phosibl yn unol â pholisïau/gweithdrefnau lleol/cenedlaethol
  16. sicrhau nad yw cynwysyddion gwastraff yn cael eu gorlenwi, eu bod yn cael eu cadw'n lân ac yn ddiogel ac mewn cyflwr da, a'u bod yn gweithio
  17. sicrhau nad yw gwastraff yn cael ei adael lle y gall pobl anawdurdodedig neu blâu gael ato
  18. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  19. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau 
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. anghenion unigolion a gofalwyr, gan gynnwys materion yn gysylltiedig ag urddas, cyfrinachedd a phreifatrwydd
  10. y gadwyn heintio
  11. hierarchaeth mesurau rheoli
  12. camau allweddol hylendid y dwylo
  13. sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
  14. sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
  15. technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
  16. yr amrywiaeth o gyfarpar diogelu personol ar gyfer gweithgareddau o fewn eich rôl
  17. sut i lanhau'n ddiogel ac yn effeithiol, gyda neu heb ddiheintydd, yn dilyn gollyngiadau
  18. sut i wisgo, tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn ddiogel
  19. sut i drafod a gwaredu offer miniog yn ddiogel
  20. sut i wahanu gwahanol fathau o wastraff yn briodol ac yn ddiogel gan ddefnyddio'r bagiau a'r cynwysyddion gwastraff cod lliw sydd ar gael, a'r defnydd cywir o bob un ohonynt
  21. sut i wahaniaethu rhwng cyfarpar a/neu gyfarpar diogelu personol defnydd untro, defnydd unigol untro ac ailddefnyddadwy, a sut i'w gwaredu, eu golchi, eu glanhau, eu diheintio neu eu storio'n ddiogel
  22. cludo offer miniog yn ddiogel pan na fyddant wedi'u halogi
  23. storio offer miniog yn ddiogel i sicrhau nad ydynt yn achosi anaf damweiniol
  24. sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
  25. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  26. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHICP7

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Gwaredu, gwastraff, gofal iechyd, offer miniog, risg, haint, atal, glanhau