Defnyddio cyfarpar diogelu personol i atal lledaenu haint

URN: SFHIPC6
Sectorau Busnes (Suites): Atal a rheoli heintiau
Datblygwyd gan: Skills for Health
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae cyfarpar diogelu personol yn fesur iechyd a diogelwch hanfodol i amddiffyn gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a'u hunigolion/defnyddwyr gwasanaeth. Yn y safon hon, mae cyfarpar diogelu personol yn cyfeirio at fenig, ffedogau, gynau, gwisgoedd 'coverall', mygydau wyneb llawfeddygol, anadlyddion, gogls ac amddiffynwyr wyneb a ddefnyddir i leihau risgiau haint.

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, a lleoliadau gofal ambiwlans. Bydd polisïau lleol yn nodi'r cyfarpar diogelu personol sydd ar gael, ac y dylai gweithwyr gofal iechyd eu defnyddio ar sail asesiad risg a gynhaliwyd gan y sefydliad cyflogi.

Glanhau a diheintio yw'r termau a ddefnyddir yn y safon hon, fodd bynnag mewn rhai ardaloedd, defnyddir y term 'dihalogi'. Mae 'Dihalogi' yn derm ymbarél sy'n cynnwys glanhau, diheintio a sterileiddio fel y bo'n briodol.

Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  2. gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
  3. delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
  4. nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
  5. ystyried risgiau caffael a lledaenu haint cyn, yn ystod ac ar ôl pob gweithgarwch rydych yn ei wneud, gan gynnwys ystyried halogiad posibl yr amgylchedd rydych yn gweithio ynddo
  6. defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol ar gyfer y gweithgaredd rydych yn ei wneud ar sail yr asesiad risg a gofynion y sefydliad
  7. cyflawni hylendid effeithiol y dwylo cyn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac yn syth ar ôl ei dynnu
  8. archwilio pob darn o gyfarpar diogelu personol am lendid a difrod cyn eu defnyddio, a sicrhau eu bod yn ffitio'n gywir
  9. cyflawni gwiriad ffit bob tro y caiff anadlydd ei ddefnyddio
  10. tynnu unrhyw ddarn o gyfarpar diogelu personol os caiff ei ddifrodi, cyn gynted ag y gallwch wneud hynny'n ddiogel, a gwisgo darn newydd
  11. newid darnau o gyfarpar diogelu personol yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  12. tynnu darnau o gyfarpar diogelu personol yn syth ar ôl eu defnyddio, cyn cyffwrdd ag unrhyw ardaloedd, eitemau neu arwynebau glân, neu cyn cyffwrdd ag unigolion
  13. gwaredu eitemau untro yn ddiogel, yn unol â gofynion y sefydliad
  14. glanhau eitemau ailddefnyddiadwy, gyda neu heb ddiheintydd, cyn ei storio yn unol â gofynion y sefydliad
  15. gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  16. cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
  2. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
  3. sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
  4. gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
  5. y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
  6. y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau 
  7. sut i addasu arddulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n briodol i anghenion yr unigolyn
  8. y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
  9. sut i gael cadarnhad o bwy yw unigolyn yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  10. yr egwyddorion, yr ymarfer a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chydsyniad gwybodus
  11. rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
  12. y gadwyn heintio
  13. hierarchaeth mesurau rheoli
  14. camau allweddol hylendid y dwylo
  15. sut gall dulliau mewn amgylcheddau clinigol a chymdeithasol amrywio
  16. sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
  17. technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
  18. rôl menig yn hylendid y dwylo, pryd y gallant gael eu defnyddio a'u cyfyngiadau
  19. alergedd i latecs a pholisi'r sefydliad ar ddarparu cyfarpar diogelu personol heb latecs, gan gynnwys menig
  20. y gwahaniaeth rhwng mygydau wyneb llawfeddygol, anadlyddion, gogls ac amddiffynwyr wyneb a phryd a sut i'w defnyddio
  21. y gofynion ar gyfer gwirio ffit anadlyddion
  22. sut i wisgo, tynnu a gwaredu cyfarpar diogelu personol yn ddiogel
  23. sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
  24. sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
  25. sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Health

URN gwreiddiol

SFHICP6

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cod SOC

2219

Geiriau Allweddol

Risg, haint, atal, glanhau, diheintio, cynnal a chadw, amgylcheddau