Lleihau risg lledaenu haint trwy lanhau, diheintio a storio cyfarpar gofal
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â glanhau, diheintio a storio cyfarpar gofal anfewnwthiol amldro, fel mater o drefn, i leihau risg lledaenu haint. Dylai pob aelod staff mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol dderbyn hyfforddiant ar lanhau, gyda neu heb ddiheintio'r cyfarpar gofal a ddefnyddiant, ond dylai fod yn glir pwy sy'n gyfrifol am hyn o fewn pob maes neu leoliad gofal.
Glanhau a diheintio yw'r termau a ddefnyddir yn y safon hon, ond mewn rhai ardaloedd, defnyddir y term 'dihalogi'. Mae 'dihalogi' yn derm ymbarél sy'n cynnwys glanhau, diheintio a sterileiddio, fel y bo'n briodol.
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithgarwch ym mhob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref, a cherbydau/gorsafoedd ambiwlans, ond mae'n eithrio lleoliadau arbenigol, fel labordai, fferyllfeydd neu theatrau llawdriniaeth, lle y gall fod angen dulliau mwy arbenigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- cyflawni hylendid effeithiol y dwylo cyn ac ar ôl cwblhau'r gweithgaredd, yn unol â pholisi/gweithdrefnau'r sefydliad
- archwilio'r cyfarpar gofal cyn ei ddefnyddio a sicrhau ei fod yn lân
- asesu pa lanhau, gyda neu heb ddiheintio, y mae ei angen a dewis y cyfrwng a'r cyfarpar priodol
- casglu'r cyfrwng a'r cyfarpar glanhau, a'r cyfrwng a'r cyfarpar diheintio os bydd eu hangen, a gwisgo'r cyfarpar diogelu personol priodol cyn dechrau
- glanhau'r cyfarpar gofal yn ôl y math o gyfarpar, cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr a gweithdrefnau'r sefydliad
- defnyddio diheintydd yn ddiogel pan fydd ei angen fel rhan o'r broses lanhau
- asesu cyflwr y cyfarpar gofal wrth ei lanhau, a mynd ag unrhyw gyfarpar nad yw'n addas i'w ddefnyddio oddi yno, yn unol â pholisi'r sefydliad
- rhoi gwybod am unrhyw eitem sydd wedi'i difrodi, a chael eitem yn ei lle
- sicrhau bod cyfarpar gofal yn cael ei storio mewn lle glân, dynodedig, yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr a gweithdrefnau'r sefydliad
- cael gwared ar gyfarpar a chyfarpar diogelu personol untro yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- dychwelyd cyfryngau glanhau a diheintio i'w storio'n ddiogel, gan ddilyn rheoliadau ac arweiniad ynghylch sylweddau peryglus, arweiniad iechyd a diogelwch, a chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr
- sicrhau bod eich cyfarpar glanhau a diheintio yn lân, yn addas at ei ddiben, bod y codau lliw priodol arno, ei fod mewn cyflwr da, a'i fod yn cael ei storio mewn man dynodedig, glân
- cael gwared ar gyfarpar tafladwy yn unol â pholisi'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- sut i gael at gyfleusterau ar gyfer hylendid y dwylo
- technegau effeithiol ar gyfer cynnal hylendid y dwylo
- y cyfarpar diogelu personol priodol i'w ddefnyddio wrth lanhau cyfarpar
- sut i wisgo, tynnu a chael gwared ar gyfarpar diogelu personol yn ddiogel
- pwy sy'n gyfrifol am lanhau cyfarpar
- pryd dylid defnyddio diheintydd fel rhan o'r broses lanhau
- yr amserlenni glanhau ar gyfer glanhau dwfn ac arferol sy'n cynnwys glanhau neu gael gwared ar lieiniau a nwyddau glanhau amldro eraill ar ôl eu defnyddio, fel y bo'n briodol
- defnydd nwyddau glanhau a diheintio, eu gwanediad, dulliau eu defnyddio, eu storio a'u gwaredu
- sut i wahaniaethu rhwng cyfarpar a/neu gyfarpar diogelu personol untro ac amldro, a sut i gael gwared arnynt, eu golchi, eu glanhau, eu diheintio a'u storio yn ddiogel
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel