Cyflawni hylendid y dwylo i atal lledaenu heintiau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau hylendid effeithiol y dwylo i sicrhau nad yw micro-organebau niweidiol posibl yn lledaenu heintiau. Mae'r safon hon yn berthnasol i bawb sy'n gweithio ym mhob amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys lleoliadau cymunedol a chartref a lleoliadau gofal ambiwlans.
Dwylo yw'r ffordd fwyaf cyffredin o drosglwyddo micro-organebau i bobl, yn enwedig pobl sy'n gallu cael eu heintio'n hawdd. Hylendid effeithiol y dwylo yw'r arfer unigol pwysicaf oll wrth leihau lledaeniad cyfryngau heintus, yn enwedig bacteria a feirysau, wrth ddarparu gofal. Mae gan bawb gyfrifoldeb personol i sicrhau hylendid effeithiol y dwylo.
Dylai'r safon gael ei defnyddio ochr yn ochr â deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael at a dehongli'n gywir yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithio'n ddiogel bob amser ac yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
- delio'n brydlon ac yn effeithiol ag unrhyw broblemau o fewn eich rheolaeth a rhoi gwybod am broblemau nad allant gael eu datrys
- nodi a lleihau peryglon a risgiau yn y gweithle
- asesu'r angen i sicrhau hylendid effeithiol y dwylo i atal lledaenu haint yn barhaus
- paratoi i gyflawni gweithgareddau hylendid y dwylo yn unol â gofynion y sefydliad
- cyflawni gweithgareddau hylendid y dwylo yn unol â gofynion y sefydliad
- cwblhau gweithgareddau hylendid y dwylo a sychu dwylo yn unol â gofynion y sefydliad
- osgoi halogi eich dwylo rhwng hylendid y dwylo a chyflawni'r gweithgaredd
- sicrhau bod ewinedd yn fyr ac yn lân, heb farnais ewinedd nac ewinedd ffug ac ategolion
- asesu eich dwylo, cyn pob sifft waith, am friwiau, craciau a thoriadau yn y croen a allai guddio micro-organebau
- gorchuddio unrhyw doriadau a chrafiadau â gorchudd gwrth-ddŵr, newid y gorchudd pan fo angen a chadw'r ardal yn lân i leihau risg haint
- hydradu croen y dwylo yn dda gan ddefnyddio lleithydd, fel y bo'n briodol
- rhoi gwybod i bob eraill berthnasol am unrhyw broblemau'r croen fel y gellir cynnal asesiad
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- cwblhau a storio'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth, y canllawiau, y polisïau, y gweithdrefnau a'r protocolau presennol sy'n berthnasol i'ch ymarfer yn y gwaith, ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd eich hun fel y bo'n berthnasol i'ch rôl
- sut i gael at a dehongli'r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau gwaith sy'n berthnasol
- gweithdrefnau penodol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd
- y ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithred neu anwaith a allai fod yn anniogel/yn niweidiol i chi neu i eraill
- y peryglon a'r risgiau a allai godi wrth i chi gyflawni eich rôl a sut y gallwch eu lleihau
- y defnydd cywir o unrhyw gyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) i amddiffyn eich iechyd a'ch diogelwch chi a phobl eraill
- rhagofalon atal a rheoli heintiau safonol, perthnasol, deddfwriaeth/canllawiau cenedlaethol a pholisïau/gweithdrefnau lleol
- y gadwyn heintio
- hierarchaeth mesurau rheoli
- camau allweddol hylendid y dwylo
- pwysigrwydd bod 'yn noeth islaw'r penelin' i sicrhau hylendid effeithiol y dwylo
- sut gall gemwaith y dwylo a'r arddwrn, ewinedd artiffisial, nwyddau ac ategolion ewinedd guddio micro-organebau
- sut i gael at gyfleusterau a deunyddiau ar gyfer hylendid y dwylo
- y gwahanol fathau o ddeunyddiau hylendid y dwylo, gan gynnwys sebonau a hylifau diheintio'r dwylo ag alcohol yn sail iddynt
- manteision/anfanteision sebon neu hylifau diheintio'r dwylo ag alcohol yn sail iddynt, a sut a phryd i ddewis y dull cywir
- yr amgylchiadau pan na fyddai hylifau diheintio'r dwylo ag alcohol yn sail iddynt yn briodol ar gyfer hylendid y dwylo
- dulliau eraill o sicrhau hylendid y dwylo i'w defnyddio pan fydd diffyg cyfleusterau neu pan na fydd dŵr tap ar gael
- technegau hylendid y dwylo i sicrhau hylendid effeithiol y dwylo i chi'ch hun ac i eraill
- pwysigrwydd cadw eich dwylo yn iach
- sut a phryd i roi gwybod am unrhyw broblemau
- sut i gael gwared ar wastraff yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
- sut i gwblhau'r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion y sefydliad, a'i storio'n ddiogel